Llyfr Owen/Murmuron y Gragen

Oddi ar Wicidestun
Y Pen Byw Llyfr Owen

gan Owen Morgan Edwards

Y Môr forynion

XV

MURMURON Y GRAGEN

1 CHWI wyddoch, ond i chwi roi cragen wrth eich clust, y clywch ynddi si pell y môr. Rhoddodd y bardd Glasynys gragen wrth ei glust, a dychmygodd glywed ynddi holl leisiau amrywiol y môr. Clywai waedd y tonnau gwallgof, clywai ddwndwr tonnau'r nos, clywai alaeth llong yn suddo, clywai suo-gân mwynder, dywod lais cariad, a llawer sŵn :

"Sŵn rhyw bellter annirnadwy, eto'n agos, sy'n y môr."

2. Ie, clywodd un o'r môr-forynion yn canu cân forwynol am y gwynt. A oes rhyw fardd Cymreig. ond Glasynys, wedi canu am y môr-forynion?

A dyma a glywodd ef y môr-forynion yn ei ddweud wrtho :

Dos i'r traeth a phiga gragen, dyro honno wrth dy glust."

Beth a glywai?

Clywi ynddi'r Môr-forynion yn clodfori'r tonnog gôr.
Clywi hefyd y cyfrinion sydd ynghadw gan y môr."


Dyma i chwi rai straeon am fôr-forynion ar y tudalennau nesaf.