Llyfr Owen/Y Môr forynion

Oddi ar Wicidestun
Murmuron y Gragen Llyfr Owen

gan Owen Morgan Edwards

Y Fôr-forwyn Fach

XV

Y MÔR-FORYNION

1. Y PETH yw'r tylwyth teg i blant y mynyddoedd a'r llynnoedd, hynny ydyw'r môr- forynion i blant glannau'r môr. Gŵyr y bugail bach am dylwyth teg, sy'n chwarae mig ag ef yn y niwl, a all ei wneud yn berchennog llawer o ddefaid ei hun. A gŵyr y morwr bach am fôr-forynion tlysion a all ei groesawu ac achub ei fywyd pan â ei long yn ddrylliau ar y graig yn y môr.

Bu plant dwy fil o flynyddoedd yn gwrando ystraeon am y môr-forynion, ac yn eu credu yn ffyddiog. Yr oedd sôn amdanynt yn amser y Rhufeiniwr Plinius. Ceir hanes eu dofi ar arfordir- oedd yr Alban a'r Iseldiroedd, ac y mae llawer o hanesion rhyfedd amdanynt o'r gwledydd hynny. Fel rheol dywedir eu bod o'u canol i fyny yn forynion prydferth, ond yn bysgod o'u canol i'w traed. Symudent yn afrosgo ar y tir, ond yn hoyw ysgafn ar y môr. Yr oedd eu prydferthwch yn bennaf yn eu llygaid mawr, gloyw, a thyner. Mewn ambell deulu cedwid hwy fel cydymaith difyr. Ond ni chlywais erioed am neb wedi medru eu dysgu i siarad. Yn 1187—gellwch gyfrif mor bell yn ôl oedd hynny-daliwyd un ar lannau dwyreiniol Lloegr. Bu ymysg dynion am chwe mis, ac nid oedd ddim ond diffyg siarad yn ei gwneud yn annhebyg i'r merched tewion glandeg a ddeuai i edrych arni. Ond, ryw ddydd, diangodd i'r môr, ac ni welwyd mohoni mwy.

2. Gwyddoch fod llawer o'r Iseldiroedd yn is na'r môr, a rhaid gofalu am y gwarchgloddiau sy'n cadw'r tonnau rhag carlamu dros y caeau gwair a'r gerddi ffrwythlon. Yn 1450, torrodd y môr i un o ardaloedd Ffrisland, ac aeth llawer o'r porfeydd dan ddwfr. A byddai raid i'r merched fynd mewn cwch i odro'r gwartheg. Ond fel y cyfannid y dawdd a dorrwyd gan y môr. graddol sychai'r tir yn ei ôl. Rhyw fin nos, pan âi'r merched i odro, gwelent o'r cwch fôr-forwyn yn y llaid, ac er pob ymdrech, yn methu dod o honno. Codasant hi i'r cwch, aethant â hi adref i Edam, rhoddasant ddillad geneth am dani. Dysgodd fwyta. dysgodd nyddu, a dysgodd ryw lun o grefydd, oherwydd gostyngai ei phen pan welai lun croes. Ond ni fedrent ei dysgu i siarad, a byddai yr ysfa am fynd i'r môr yn gryf arni wedi byw am flynyddoedd ar y tir.

A dywedir llawer ystori debyg o wahanol foroedd y byd. Ond yr wyf yn methu eu credu, am nad oes neb yn honni ei fod wedi gweled môr-forwyn yn ddiweddar. 3. Anghofiais ddweud un peth. Mewn llawer hen ystori dywedir bod gwlad hyfryd dan y môr, ond na fedr ei thrigolion ddod i oleuni haul heb gael benthyg croen morio. A chofiais ar unwaith fod boneddigesau ein dyddiau ni, yn y gaeaf, yn hoff iawn o wisgo croen morlo.

Y morlo, yn siŵr gennyf fi, a wnaeth i bobl ddychmygu bod môr-forwyn yn bod. Hawdd y gellid dychmygu, pan welid per morlo, yn codi trwy'r don gyda phen crwn a llygaid erfyniol, mai môr-forwyn oedd yn nofio yno. O dipyn i beth daeth morwyr i wybod am werth eu crwyn. a lledir hwy bob blwyddyn wrth y degau o filoedd. A gwêl pobl Llundain hwy yn chwarae, yn dringo ac yn eistedd ar gadeiriau, ac yn cusanu eu ceidwaid, ond mynd am dro i erddi'r Sŵ.

Ond arhoswch ennyd cyn gadael y môr-forynion. Gwyddoch fod y glaw a'r afonydd yn araf a graddol gludo'r ddaear i'r môr, ac yn gosod y llaid i orwedd ar waelod y moroedd. Os felly, onid yw wyneb y dŵr yn codi? A beth, ymhen miliynau o flynyddoedd, os bydd y dŵr wedi cuddio'r ddaear i gyd?

Os daw i hynny'n raddol bydd dyn wedi ei gyfaddasu ei hun ar gyfer y newid. Medr fyw yn y môr yn ogystal ag ar y tir erbyn hynny. A phan ddaw yr adeg bell honno, oni fydd môr-forynion mewn gwirionedd?