Neidio i'r cynnwys

Llythyrau Goronwy Owen/Llythyr 19

Oddi ar Wicidestun
Llythyr 18 Llythyrau Goronwy Owen


golygwyd gan John Morris-Jones
Llythyr 20

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 19.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, September 5, 1753.

DEAR SIR,

YOURS of the 17th (or rather 19th) ult. I received. yesterday. I am exceedingly obliged to you for your care in acquainting Mr. L. Morris with the Δεαθ of περσον[1] B——, tho I am almost sure that all is to no purpose. Indeed I was the other day almost persuaded to believe that there might be something in it, but since you mentioned to me the D. of B——, I am quite easy about it; what alarmed me into such false hopes at first was as follows:—Wythnos i heddyw fe yrrodd yr Aldramon air attaf i ddyfod i'r dref, fod gwr bonheddig o Gymru yn deisyf fy ngweled. Yr oedd hi ynghylch tri o'r gloch prydnawn pan gefais y gennad, felly i'r dref yr aethum, ond ni's medrwn gael gafael ar na'r Aldramon na neb arall; ond o'r diwedd mi glywn eu bod yn dwrdio dyfod i Walton; yna mi a gymmerais wib adref yn fy ol, rhag digwydd iddynt fyned yn fy ngwrthgefn; er hynny ni welais neb tan ddydd Gwener y boreu, pan ddaeth Mr. Vaughan o Gors-y-Gedol yn lanaf gwr i Walton. Ar ol ymgomio ynghylch awr ar amryw bethau, mi a'i clywn yn dywedyd, I wish you joy, &c. Chwi ellwch wybod am ba beth, er na's gwyddwn i ddim y pryd hynny. Mi ofynais iddo, ac yntau a ddywedodd, glywed o hono yn y Duwmaris (cyn marw y P——n O——n, oblegyd ni chlywsai efe mo'i farw etto) fod un wedi myned i ofyn y lle dros Eglwyswr o Gymru, a chaffael o hono atteb, fod y lle wedi ei addaw i Iarll L——n; and then to be sure who must have it but • • •? Newydd da oedd hwn, ac o ben da hefyd, chwedl y bobl; ond erbyn y ceffir y carn, nid hwyrach na thal mo'r draen crin. Fe fu yn hir cyn medru cofio ei garn; ond o'r diwedd fe gofiodd, mae Andro Edds, fy hen feistr gynt, sef yn awr Person Llangefni, a ddywedasai wrtho. Andro ei hun sydd ag arno ddialedd o eisiau y lle, yn lle Llangefni, a'i frawd yn nghyfraith Richard Edds, Mr. in Chan——ry, a aethai i'w ofyn, ac a gawsai ei naccau. Gwir yw hyn yma o'r 'stori; ond pa gan wiried yw'r llall, ni's gwn i pe'm crogid, ac nid gwaeth gennyf. Possibly it was told him that the place was promised a N—bl—m—n for a W—lsh Cl—g—m—n now in England, and he with his brother might guess the rest.—Nid oes dim chwareu ffwl pan welir P——n unwaith yn dechreu geran, chwi welwch eraill yn piccio i'r lle cyn i'r gwaed fferru yn y gwythi. And I wish any one that prescribes me confidence and assurance, instead of modesty, &c. would give me a good example by taking a good dose himself. Mae y lle arall yn llaw yr Eagob, a mil i un pwy bynnag a'i caffo, na theifl i fynny ryw beth salach: ac am y lecsiwn, nis gwn i amcan daear pa ddrwg eill honno wneuthur. For if one wishes a man well, and is able to do him a good turn, he thereby strengthens his own party, which (by the bye) is likely to be wanted in many places: ac am danaf fi, oni wyddoch, gwybyddwch,

Daliaf un amcan dilyth,
Addoli Baal i Dd—l byth.

However it be, I am almost sure, I shall never come into Wales, unless Mr. Vaughan and I should happen to survive old N——of P——. Y mae Mr. Fychan yn addaw y gwnai i mi gymmwynas, os daw byth ar ei law;—but it is an old saying, and a true one, that those that wait for dead men's shoes, may go a great while barefoot; and I am very sure, that these kind of things are not engaged before they fall vacant, it is then too late to think of it. And such a proceeding is, in fact, not injurious to any one; for the thing must be disposed of some time or other; and if so, what matters it when it be engaged, or by whom? Somebody must have it; and if one won't, another will: and in this (of all other cases) modesty is least commendable, I had almost said, most inexcusable. You know the way of the world.—Am yr ysgol, ni's gwn yn iawn pa beth i'w ddywedyd: pe gwyddwn yn sicr mai gorfydd aros, fe fyddai wiw gennyf gymmeryd poen; ond y mae Mr. Fychan yn tyngu ac yn rhegu, ac yn crach boeri (chwedl y bobl) na chaf aros yma un flwyddyn ychwaneg. Dyd, dyd! dyma un Risiart Huws, a llythyr bychan yn ei law, yn yr ysgol; felly yr wyf yn deall fod i mi alwyn o ymenyn yn Nerpwl: rhodd gymmeradwy iawn yw hon, a bendith Duw am dani, ar bwy bynnag y mae'r gost, ai chwi eich hun, ai y person a chwithau; Duw a dalo i chwi eich dau, daed eich ewyllys. Ni welais i olwg etto ar yr hen Physygwr Ioan Dafydd Rhys, ac ni's gwn pa un a gaf ei weled byth ai peidio. Er mwyn dyn, gadewch wybod gyda phwy y gyrrwyd ef, ac yn nwylaw pwy y rhoddwyd yn Nghaerlleon. Rhowch fy ngwasanaeth, a chann diolch i Mr. Ellis fwyn; Duw a wnelo iddo gael personoliaeth Rhosgolyn; nis gwn pwy a wna fwy o ddaioni â hi. Os bydd ar neb awydd i yrru ei blentyn yma, y pris yw deuddeg punt yn y flwyddyn, s'i ddysg am ddim: a llai na hynny a'm rhydd mewn colled. Na phoenwch y tro nesaf yn gyrru i mi ffranc, oblegid mi a gefais ynghylch 24 gan Mr. Fychan, ac un o lyfrau Survey Mr. L. Morris. Er mwyn dyn, gadewch wybod a ydyw Mr. L. Morris yn Ngallt-Fadog ai yn Llundain, a gadewch imi wybod gynta' bo modd, oblegid y mae arnaf ddialedd o eisiau ysgrifennu atto. Duw fo gyda chwi oll, a diolch trosof.

I am, Dear Sir, Yours most sincerely and cordially,

GORONWY DDU.

Nodiadau

[golygu]
  1. Trawslythrennu'r geiriau Death (of) person i'r wyddor Roeg