Neidio i'r cynnwys

Llythyrau Goronwy Owen/Llythyr 20

Oddi ar Wicidestun
Llythyr 19 Llythyrau Goronwy Owen


golygwyd gan John Morris-Jones
Llythyr 21

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 20.

At Richard MORRIS.


WALTON, Rhagfyr y 17eg, 1753.

YR ANWYL GYDWLADWR,

LLYMA 'ch caredig Lythyr o'r 17eg o Dachwedd, neu'n hytrach o'r 8d o Ragfyr, wedi dyfod i'm dwylo, er y 12d o'r Mis presennol. Fe fu'n ddrwg anaele gennyf na allaswn yrru y Cywyddau a'r Nodau arnynt attoch yn gynt, on'd bod achos. da i'm rhwystro, yr hwn na feddyliaswn o'r blaen ddim am dano. 'Rwyf yn cofio grybwyll o honof gynt wrthych, nad oedd ysgrifennu Nodau ar y ddau Gywydd amgen na gwaith dwyawr neu dair o amser; ond, Duw yn fy rhan, camgyfri o'r mwyaf oedd hynny. Nid gwaith dwy neu dair o oriau ydoedd darllen Homer a Virgil trostynt, a hynny a orfu arnaf wneuthur, heb fod mor llawer gwell er fy ngwaith. Nis coeliai'ch Calon byth leied oedd yno i'w gael tuag at Nodau na dim arall. Meddwl yr oeddwn nad oedd neb a ddichon ysgrifennu dim mewn Prydyddiaeth na cheid rhyw gyffelybiaeth (neu Parallel) iddo yn y ddau Fardd godidog hynny; ac felly yr oeddwn yn disgwyl cael cryn fyrdd o debygleoedd o honynt, yn enwedig o Homer, i addurno fy mhapiryn; ond, och fi! erbyn rhoi tro neu ddau ymmysg y Penaethiaid y Groegiaid beilchion, a chlywed yr ymddiddanion oedd arferedig gan amlaf, ym mysg y rhai Campusaf o honynt, hyd yn oed Πόδας ώκύς[1] ei hun a Agamemnon ac Ulysses, a llawer Arwr Milwraidd arall, mi ddyellais yn y man, nad oedd un o honynt yn meddwl unwaith am ddim o'r fath beth a Dydd y Farn; ac felly na wnai ddim ar a dd'wedant harddwch yn y byd i'm Cywydd i; ac am a welais, nid oedd. Hector foesachus ynteu, a Blaenoriaid a Phendefigion Troia fawr, ddim gwell; Pius Æneas ynteu, er maint y Glôd a roe Virgil iddo am ei Dduwolder, ni choeliaf nad y gwaethaf oedd o Genedl Troia, wrth ei waith yn dianc oddiyno yn lledradaidd heb wybod i'w Wraig, ar hyder, (mae'n debyg) taro wrth ryw Globen arall i'w ganlyn. A pheth mae'r cast a wnaeth y Diffeithwr dau wynebog â Dido druan? Ai gwiw disgwyl ynteu i'r ffalswr hwnnw feddwl am Ddydd y Farn? Ond o ddifrif, nid oedd i'w gael yn y llyfrau hynny hanner yr oeddwn i'n ei ddisgwyl; ac nid rhyfedd, oblegid pan oeddwn yn gwneuthur y Cywyddau, nis gwn edrych o honof unwaith yn Homer na Virgil, ond y ddau Destament yn fynych. Daccw. Gywydd y Farn fal y mae, (a Nodau arno, gorau a fedrais i eu casglu) wedi myn'd i Allt Fadawg i edrych beth dalo, e oddiyno fe ddaw attoch chwithau i Lundain o nerth y arnau, os caiff gynhwysiad o dan law Llywelyn, ac onid è ni wiw mo'i ddisgwyl. Ac os bydd hwnnw'n boddio, fe giff Bonedd yr Awen ynteu ei arlwy'n yr un modd a'i yrru i chwi allan o law. Os rhaid dywedyd y gwir, chwi a gawsech y Ddau'n llawer cynt oni buasai Mr. Vaughan o Gors y Gedol, yr hwn, pan oedd yma yn nechreu Mis Medi, a ddywaid wrthyf, (trwy ofyn o honof iddo) nad gweddus oedd imi sgrifennu ar fy Ngwaith fy hun. A hynny a rwystrodd beth arnaf; ond yn ddiweddar, sef, ynghylch Wythnos a aeth heibio, 'roedd gennyf ddigon o rwystr arall. gartref. O fewn y pum wythnos neu chwech yma, fel ddigwyddodd i'r Wraig Elin ryuriog olau syrthio'n ddwy Elin, a byd anghysurus iawn, a llawer dychryn, a thrwm. galon, ddydd a Nos, a gawsom oblegyd yr Elin icfangc (er bod ei Mam, i Dduw bo'r diolch, yn swrn iach) tros hir amser, am ei bod yn dra chwannog i'r llesmeiriau a elwir Convulsions; ond gobeithio 'rým ei bod o'r diwedd, (gyd â Duw) wedi eu gorchfygu hwynt. Yr oedd ein dychryn. ni o'r achos yn fwyfwy byth, am na welsom wrth fagu'r lleill ddim o'r fath beth erioed; canys Llangciau cryfion iachus oedd pob un o'r ddau fachgen, i Dduw bo'r mawl, ac ynt etto. Dyna i chwi y rhan fwyaf o achosion fy annibendod; ac oni thyccia hyn yna, ni thyccia dim. Gwych. o'r newydd a glywaf gennych ynghylch Iarll Powys; Duw a dalo'n Ganplyg i chwi oll trosof; nid oes dim a ofynno'r Iarll gan nag Esgob, na nemmawr o undyn arall, na chaiff yn rhwydd, a gresyn ofyn o honaw ryw waelbeth. Pa beth debygwch chwi ? Mae fy meddwl i wedi troi'n rhyfedda' peth a fu erioed; canwaith y dymunais fyned i Fôn i fyw, ond weithion (er na ewyllysiwn ddim gwaeth i'm Gwlad nag i'm Cydwladwyr) ni fynnwn, er dim, fyned iddi fyth, ond ar fy Nhrô; a gwell a fyddai genyf fyw ymmysg Cythreuliaid Ceredigion, gyda Llywelyn, er gwaethed eu moesau, nag ym Môn. Ond a fynno Duw a fydd.—Nid yw awyr y Wlad yma ddim yn dygymmod a'r Awen cystal ag Awyr Gwlad y Mwythig; etto, hi wasanaetha, 'rwyf yn deall, canys mi fum yn ddiweddar yn profi peth arni, i edrych a oedd wedi rhydu ai peidio. Mi gefais ganddi yn rhywsut rygnu imi ryw lun ar Briodasgerdd i'ch Nith, Mrs. Elin Morris, yr hon. a yrrais i Allt Fadawg gyda Chywydd y Farn. Tra phrysur wyf yr wythnos yma yn darparu Pregethau erbyn y Nadolig, ac heblaw hynny 'rwyf ar fedr mynd ar ferch i'r Eglwys i'w bedyddio'n gyhoedd Ddy'gwyl Domas ac onid è chwi gawsech y Briodasgerdd y tro yma; ond chwi a'i cewch y tro nesaf yn ddisomiant. Ydd wyf yn disgwyl clywed o Allt Fadawg cyn y bo hir, ac yno mi a gâf wybod a dal y Briodasgerdd i'w dangos ai peidio. Nid wyf yn ammau na bydd Cywydd y Farn gyd â chwi o flaen hwn, os tybia Llewelyn y tal ei yrru. Pendrist iawn ydwyf yn y fann yma, o eisiau Llyfrau; fe orfu arnaf brynnu Homer a benthycca Virgil i gasglu Nodau. I delivered what was inclosed, in your last save one, to Tom Edwards of the London City in Red Cross Street Liverpool & rec'd of him 1s 5d, which shall be dispos'd of as you shall order, As I know not what the inclos'd contain'd I ask'd no more. questions about it. I hope you have met with a proper Person for your Secratary, & that the Rules, &c of your (our I should say) Society will soon be made publick. I intend you should hear from me again soon after Christmas, if God give me life and health, I remain in the mean time Dear Sir your most obliged humble Servant

GRONWY DDU O FON.

P.S. In your last, you ask'd what was the Welsh for a Corresponding Member. Pa beth a ddywedwch am—Aelod anghyttrig.

Nodiadau

[golygu]
  1. H.y., "y Buan ei Droed," sef Achilles, yn ol fel y galwai Homer ef.