Neidio i'r cynnwys

Llythyrau Goronwy Owen/Llythyr 25

Oddi ar Wicidestun
Llythyr 24 Llythyrau Goronwy Owen


golygwyd gan John Morris-Jones
Llythyr 26

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 25.

At RICHARD MORRIS.


WALTON, Ionr 24in, 1754.

Y CAREDIG GYDWLADWR,

ECHDOE y derbyniais yr eiddoch, o'r namyn un ugeinfed o'r Mis sy'n cerdded. Drwg iawn gennyf glywed ynghylch y Peswch brwnt sy'n eich blino, a meddwl yr wyf nad oes nemmawr o'r Gwyr a faccer yn y wlad a all oddef mygfeydd gwenwyneg y Ddinas fawr, fwrllwch yna. Mi adwaen lawer a gollasant eu hiechyd yna mewn llai nag ugeinfed ran yr amser y buoch chwi'n preswylio ynddi. Duw piau llywodraethu a rhannu'r bywyd a'r iechyd; ac os mynnai Efe, llwyr y dylai Gymru erfyn arno ganiadhau ichwi yn hir bob un o'r ddau; oblegid pe angen, nis gwn pa beth a ddelai o'n Cymdeithas na'n Hiaith ychwaith; am ein Cennhedl, honno a ymdarawai trosti ei hun, gan ddirywio ac ymollwng yn ei chrynswth i fod yn un a chennedl fawr yr Eingl. Ac yno y gwirud Geiriau'n drwg Ewyllyswyr, sef na pharaai ein Hiaith oddiar 100 mlynedd ar wyneb y Ddaiar. Telid Duw iddynt am hynawsed eu Darogan! Dyma fy hên Athraw a'm Cydwladwr Sion Dafydd Rhys wedi dyfod i'm dwylaw, 'rhwn a roisai Mr. Ellis o Gaergybi imi er's naw Mis; ac och! fi! mae'n dywedyd fod bai anafus yn y Ganiad a yrrais i chwi ar y 24 Mesur. Yn y Tawddgyrch cadwynog y mae'r bai, oblegid fe ddylasai'r sillaf gyntaf oll o honaw fod yn un ar Brif Odl; sef yw (O'ch) y Brifodl. Ac am hynny (cyn y danghosoch i'r Gymdeithas) dymunaf arnoch ei ddiwigiaw fal y canlyn; sef, yn lle "Gu flaenoriaid gyflawn eiriol-yn hoff uno! iawn y ffynnoch, dywedwch "O'ch arfeddyd, &c. &c. ac yno nid oes mor anaf na bai arno. Ac hefyd os mynnwch, chwi ellwch roi yn y Cadwyn ferr "Gwymp, &c. &c. yn lle "a'r Dilysion Wyr da lesol," a thybio 'rwyf fod hynny'n well. Nis medraf weithion feddwl am un bai arall, a gobeithio 'ddwyf nad oes yr un ynddi. Dyma i chwi Ganiad arall ar y 24 Mesur a wnaethym wedi'ch un chwi, a thybio'r wyf ei bod yn beth cywreiniach. Marwnad yw i Mr. John Owen o'r Plâs yn Gheidio yn Llŷn, hên Gyfaill anwyl Gennyf fi gynt, ac er nad adwaenoch chwi mohono, etto, tra bo hoff gennych y Prydydd, chwi a hoffwch ei waith, ar ba destyn bynnag y bo. But let me tell you that whatever I have said of him does really and in strict truth fall short of doing justice to his character. He was one of the brightest patterns of all Christian Virtues (that were consistent with his Station in life, which was but a Gentleman Farmer) that ever adorned his Country. His strict probity, temperance, modesty & humanity, were singularly eminent and conspicuous. But above all, his charity to the Poor was particularly remarkable. Yn y blynyddoedd tostion hynny pan oedd yr ymborth cyn brinned a chyn ddrutted, hyd nad oedd yn gorfod ar lawer werthu eu gwelyau o danynt i brynnu lluniaeth, a phawb a feddai Yd yn ymryson am y druttaf a'r calettaf; yr oedd y pryd hynny Galon John Owen yn agored, cystal a'i ysguboriau, ac yn y Plas-yngGheidio y câi y rhan fwyaf o Dlodion Llŷn eu lluniaeth; yn enwedig y trueiniaid llymion gan Bysgodwyr Nefyn. Nid oedd yno ddim nag am ŷd, bid arian, bid peidio; talent os gallent pan lenwai Dduw y rhwydau; ac onid ê fal y dywedai ynteu, mi a'i clywais yn aml Doed a ddel rhaid i bob genau gael ymborth."—Ai ê meddwch nid oes gennych neb yn eich Cymdeithas onid chwi eich hun a fedr wneuthur ymadferth nag ystum yn y byd tuag at ddangos eich amcanion buddiol i'r Byd. Och! fi gresyndod mawr yw hynny! gwae fi na bawn yn eich mysg na chai fod arnoch ddim diffyg Ysgrifennydd na dim arall o fewn fy ngallu fi Ceisied yr Aelodau gwasgaredig o'ch Cymdeithas, eich cynnorthwyo orau gallont tuag at y tippyn Llyfryn hwnnw os oes modd. Rhoed Gwilym Cybi ei law i mewn am Lysiau Blodau Garddwriaeth, canys nid oes mo'i well am hynny. Rhoed Llywelyn ynteu ei ran am Hynafiaeth, Hanesion, ac Historiau, Philosophyddiaeth anianol, a'r cyffelyb, yr hyn bethau a ŵyr oddiwrthynt orau yn Ghymru (pe câi amser); ond nis gwn i ddim oddiwrthynt. Minnau ac (Ieuan Brydydd Hir agatfydd) a rôf fy nwy Hatling tuag at Farddoniaeth, Philology, a'r cyffelyb; a thros benn. hynny nid ymdderchafaf oblegid nas meddaf nag amser na Llyfrau cyfaddas i'r fath bethau. Wrth sôn am Lyfrau, diolch i chwi am eich cynnyg; ond nid Llyfrau Lladin a Groeg sy arnaf fi fwyaf eisiau, ond Llyfrau Cymraeg sef, Hên MSS, ac eisiau yw hwnnw na chair mo'i dorri hyd onid elwyf i Gymru. Pe medrech daro wrth y Minor Poets, sef Hesiod, a Theocritus, a Horas, e fyddai da gennyf. They are very common. Y peth sy'n peri imi ddeisyf Horas Minellius, yw fod yn ei ddechreu daflen o holl Fesurau Horas. Meddwl yr wyf mai 24 sy o honynt fal yn Gymraeg. Ac amcanu'r oeddwn weithio Awdl ar y 24 yn y ddwy iaith i'r Twysawg erbyn. Gwyl Ddewi. But this I leave to you; perhaps it would be better to pitch upon some one of the measures in each Language, and follow it to the end of the Ode. Gwawdodyn Hir or Byrr, a Thoddaid, &c in Welsh; & Sapphic, Alcaic or the like in Latin.

GRONWY DDU.

Nodiadau

[golygu]