Neidio i'r cynnwys

Llythyrau Goronwy Owen/Llythyr 26

Oddi ar Wicidestun
Llythyr 25 Llythyrau Goronwy Owen


golygwyd gan John Morris-Jones
Llythyr 27

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 26.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, Chwefror 17, 1754.

DEAR SIR, I RECEIVED yours of the 4th of (January according to your date) February, and am exceedingly obliged to you for the sheet Almanack. You need not trouble yourself to send over another unless you have it ready by you, and can send it along with the MSS by ship to Liverpool. You could not possibly send me any thing more agreeable than that copy (unless it were £100 in cash,) for I never saw any thing of that kind in my life that was worth seeing. I beg therefore you would not fail to send it by the first ship that comes, and I do solemnly promise to return it whenever you shall require in case the original should be called for, &c. Rhowch fy annerchion yn llawn parch at Mr. Ellis, a dywedwch y cofiaf am y new style pan gaffwyf hamdden, ond fy mod yn awr yn dra phrysur yn ceisio clytio rhyw fath ar Ddyri i Siors Tywysawg Cymru erbyn Gwyl Ddewi, ar ddymuniad ein Cymdeithas o Gymmrodorion. Gwyr yw y rhai hynny na fynnant mo'u siomi, onid ê ni wnant lai na gwneuthur botasau o'm croen, fal y dywedai yr hen bobl gynt. Rhyfedd iawn o chwerwed yw'r hen Ddoctor Sion Dafydd Rhys yn ei Ragymadrodd. Pwy a allai'r "brynteion sothachlyd, a'r burgunieit gogleddig, (sef yw hyny camweddawg anfeidrol,) o'r gwaethaf ar a aned erioed o wraig " fod? ai tybaid mai Ysgottiaid oeddynt? Os ê, cennad i'm crogi, onid yw Douglas fy hen feistr yn un o'u heppil hwy, neu'n tarddu o'r un grifft? Nid oes bosibl fod yr hen ŵr mor giaidd a galw pobl Gwynedd yn ddynionach dieithr gogleddig, ac yntef ei hun yn ŵr o Ogledd Môn, y lle gogleddaf agos yn Nghymru. 'Rwyf fi yr un feddwl ag yntef am y rhai a wadant neu a ddirmygant yr iaith Gymraeg, sef nad y'nt ond cachadyddion a brynteion eu gwlad, ac o'm plegid i cachadyddion a phibadyddion y cant hwy fod, ie, a chrachyddion a chachaduriaid, a chwcwalltiaid, os mynir; ie, ac os gwaeth hyny, mi glywn arnaf eu galw yn anifail cors, yr enw mwyaf tafod-ddrwg a glywais erioed o ben fy mam. Digrif eich dywediad nad oes gan y Teifisiaid ddim bodiau. Gwych a fyddai fod bawd-fys rhyw hanner cant o'r brynteion dihiraf o naddynt yn nhwll y chwil, a gwrth-hoel den arno, tros dro. Mi glywaf fyned Cywydd y Farn i Lundain, ond mae'n debyg na ddaw byth oddiyno, oblegid ni phrintir byth mo'no ei hun, ac nid wyf yn deall fod ganddynt etto faint yn y byd o'r pethau eraill, sef Natural Philosophy, History, &c. yn barod i'w printio gyd ag ef. Nid oes gan y Mynglwyd neb i'w helpu, ac ni ddichon iddo ef ei hunan ddyfod byth i ben ag ysgrifennu a chasglu y cwbl, ac yntau a'i ddwylaw yn llawn gwaith eisoes. Yn ol a glywaf ganddo, ni fyddai waeth gyrru pastynod i Lundain na rhai aelodau o'r Gymdeithas; pechod na b'ai ganddynt ddau neu dri o ddynion celfyddgar, a'u dwylaw yn ddidrafferth i ysgrifennu iddynt.

Now I shall have a little more time, for evening prayers are over; all the rest (excepting the Awdl) was written before, and in a very great hurry, for fear of missing this post; which you may see by the badness of the writing. Pa beth (yn rhodd) oedd Bustl y Beirdd a gânt yr Hen Dalcen Têg yn llys Maelgwn Gwynedd? A pha ham y gelwid yn Fustl y Beirdd? Ai rhyw Dduchan i'r Beirdd ydoedd? Some satire on 'em? Or challenger or defiance to them? Be so good as inform me in your next. Well, here my neighbour Whatton is just going to set out for town, and I must shut shop in spite of me. Byddwch wych. Your very humble servant,

GORONWY OWEN.

Nodiadau

[golygu]