Neidio i'r cynnwys

Llythyrau Goronwy Owen/Llythyr 40

Oddi ar Wicidestun
Llythyr 39 Llythyrau Goronwy Owen


golygwyd gan John Morris-Jones
Llythyr 41

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 40.

At WILLIAM MORRIS.


LLUNDAIN, Mehefin 7, 1755.

Y CAREDICAF GYFAILL,

Y MAE'N gryn gywilydd gennyf na 'scrifenaswn atoch yn gynt; Wala hai (meddwch chwithau,) dyna esgus pob dyn diog. Ond yn mhell y b'wyf os oes gennyf rith dim i'w 'scrifenu weithion, ac oni bai ofn bod yn ddau eiriog, mi ddywedwn ei bod hi yn rhy fuan i 'scrifenu etto. Mi fum yn hir yn lluddedig ar ol fy maith ymdaith o'r Gogledd, ac nid oes etto ddim gwastadfod na threfn arnaf, ond yr wyf yn gobeithio na byddaf chwaith hir heb sefydlu mewn rhyw le, oblegid fod y Cymmrodorion i gyd yn gyffredinol, y ddau frawd yn enwedig, yn ymwrando ac yn ymofyn am le i mi. Wele, dyma fi wedi myned yn un o'r Cymmrodorion yn y cyfarfod diweddaf, ond ni welaf etto fawr obaith cael Eglwys Gymreig. Pobl wychion odidog, mi ro'f i chwi fy ngair, yw'r Cymmrodorion, dynion wyneb lawen, glan eu calonau oll. Mae'n debyg y gyr y Penllywydd Mynglwyd i chwi lyfr y Gesodedigaethau, &c., oni yrrodd eisus. Gwych o hardded yw arfau Llywelyn ab Gruffydd, llun Dewi Sant, a Derwydd, &c, sydd o flaen y llyfr, wedi ei dorri ar gopr yn gelfyddgar ddigon. Ni welwyd yn Nghymru erioed debyg i'r llyfr hwn. Y mae pawb yma yn rhwydd iachus, fel yr y'ch yn clywed mae'n debyg yn o fynych. Mae fy holl dylwyth i yma bod y pen, ond fy merch fach a fynnai aros yn monwent Walton, o fewn deurwd neu dri at y fan y ganwyd hi; mi wneuthum rhyw ddarn o Farwnad iddi hi, yr hon mae'n debyg, a welsoch cyn hyn. Rhowch fy ngwasanaeth at Mr. Ellis yn garedig, a gadewch gael rhyw swm o newyddion o Fôn gynta' galloch. Chwi a welwch na fedraf ond rhy brin ymodi fy mhin na'm bysedd i ysgrifenu, ac yn wir, nid oes arnaf na llun na threfn iawn o eisiau sefydlu mewn rhyw wastadfod fy hun. Gyrrwch gyhyd a'ch bys o lythyr yma gyntaf ag y galloch, er cariad ar Dduw, ac yno odid na fyddaf mewn gwell cyflwr i'ch atteb y tro nesaf. Dyma Mr. John Owen yn rho'i llythyr at ei fab yn yr un ffrencyn. Ein gwasanaeth at bawb a'n caro yn ein cefnau, a byddwch wych.

GRONWY DDU.

Nodiadau

[golygu]