Llythyrau Goronwy Owen/Llythyr 41
← Llythyr 40 | Llythyrau Goronwy Owen golygwyd gan John Morris-Jones |
Llythyr 42 → |
𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 41.
At WILLIAM MORRIS.
Y CREGYNYDD ADDFWYN
GWAE finnau fyth! mae'n chwedl chwith glywed yr hanes yna! Aiê, nid oes blas yn y byd mwyach ar na Chywydd nac Englyn, gan ddaed blas cregyn gwynion a gleision, a llygaid meheryn y Traeth Coch a Phenllech Elidr yn Mon? E ddywaid rhyw hen gorph er ys talm (Rhys ap Meredydd y pysgodwr o Faelor, hyd yr wyf yn cofio) mae
"Gwell bod yn wraig pysgodwr
Nag i rai nad âi i'r dwr."
Eithr anhawdd gennyf goelio ddywedyd o neb erioed (ond y merched) fod yn well i GYFAILL Pysgodur na CHYFAILL Prydydd. Ac yn ol y byd sydd o honi y dyddiau hyn, fe allai fod prydydd cystal wrth fenyw a physgodwr. Ond beth yw pysgodwr i gregynwr, meddwch? Câr agos, fe weddai, wrth eich gwaith chwi yn dewis swrwd o weddillion ei bysg meirwon ef o flaen Cywydd ac Englyn. Wele, wele, fe allai. y parha y gregynfa yna, er hynny i gyd, yn llawer hwy na gwaith un prydydd o'r to sydd, ac nid wyf, o ddifrif yn ammau llai. Pa ddelw bynag y digwyddo hyny, odid na welsoch fod modd i brydyddu rhyw faint yn Llundain, a chwi a gewch, os byw fyddwch, ychwaneg o ddangosiad o hynny etto. Ni phoenaf yn gyrru i chwi ddim rhimynau oddiyma, gan fy mod yn tybio fod Mr. John Owen yn hepgor i mi hynny o boen. Dyma hwn yn dyfod yn ffrangc y Llew, gyrrwch chwithau'r eiddoch yr un ffordd. Nid rhaid i mi yrru dim newydd; canys chwi gewch y cwbl, ond cymmaint yr wyf yn eiddoch,
GRONWY DDU.
O.S.—Fy ngwasanaeth yn garedig at Mr. Ellis; a brysiwch yrru i mi ryw newydd o farw gwrach neu berson, os ceir grod oddi wrtho.