Llythyrau Goronwy Owen/Llythyr 42
← Llythyr 41 | Llythyrau Goronwy Owen golygwyd gan John Morris-Jones |
Llythyr 43 → |
𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 42.
At RICHARD MORRIS.
EIN TAD YR HWN WYT YN Y NAFI!
ARHOWCH beth! nid oeddwn i'n meddwl am na Phader, na Chredo, ond meddwl yr oeddwn eich clywed yn son y byddai dda gennych gael offrwm o Gywion Colomennod; a chan na feddwn nag Oen na Mynn Gafr, mi a'i gyrrais i chwi 'n anrheg o'r gorau oedd ar fy llaw, a phoed teilwng genych eu derbyn. Eu nifer yw chwech, ac yr wyf yn lled ofni y cyst i chwi dalu i Borter am eu cludo ar ei ysbawd o Holborn hyd attoch; ond am y cerbydwr (Smith o Uxbridge) mi a dalaf iddo hyd at y Gloch yn Holborn. Os digwydd iwch weled y Llew chwi ellwch ddywedyd wrtho yn hydr ddigon, nad â na Phregeth na Phregowthen ymlaen yma nes darfod Cywydd Llwdlo; fod y Lladin agos yn barod ar y mesur a elwir y Sapphick, a'm bod yn dra anewyllysgar i'r Gymraeg fod yn Gywydd Deuair hirion, canys mai hwnnw yw'r mesur atcasaf oll; rhigwm diflas ydyw, fel y gwyddoch chwi a phawb agos. Beth meddwch am Gywydd Llosgwrn, yr hwn sydd yn union yr un ddull a Sapphick? Etto bid Ewyllys y Llew ar y Ddaear, megis y mae (weithiau) tan y Ddaear. Ond chwedl yn eich Clust. Dyma guro wrth fy nrws i am hanner blwyddyn o Dreth y Goleuad, a chwarter o Poor's & Church Rate. 'Rwy'n dyall rhaid talu neu wrido tua Duw llun nesaf; pa beth a wneir? ni ddaeth mo'r Dydd tâl etto hyd yma: a ellech ystyn o 20 i 30 Swllt mewn tippyn o barsel hyd yn Southall gyd â Smith o Urbridge, ac onid è, Duw a ŵyr, rhaid gofyn cêd gan Ddeithraid Mae genyf ychydig tan ewin, gwir yw; ond pa fodd y prynnir Potatws heb ddimeiau? Pan ddelo Mr. Tal yma, mi a'i hebryngaf hyd attoch gyd âg annerch. Gofynwch i Sion Owain pa bryd y daw i'm hymweled. Mi gefais hanes. fy Llyfrau, a gobeithio eu bod bellach hanner y ffordd i Lundain.—Fy ngwasanaeth at bawb a'm carant (a chwi ym mlaenaf oddiwrth eich Bachgen a'ch Bardd,
Ond gwrandewch etto; ple mae'r Delyn o Bentre Eirianell? Dyma Robert, er pan glybu sôn am dani, wedi troi'r llall heibio, ac yn dywedyd fod yn o fustlaidd gantho ganu Telyn Bapir. 'Roedd yn dra hoff gantho hon o'r blaen, ond weithon, mae'n o how gantho'i gweled, ac ni chair mono atti o hyd pigfforch a rhaff rawn mwy na D. ap Gwilym gynt at y Delyn Ledr. Da iawn gan y Llangc Delyn, ond nid Telyn Bapir. Telyn like that he saw in Wales (i.e. at Pentre Eirianallt) a fynn y Dŷn. Ac os fi fydd byw, fe gaiff ddysgu ei chanu hefyd, oblegid "Telyn i bob Dŷn doniawl, " &c. Nos da'wch. Wele hai! (meddwch) ai o'i hŵyl yr aeth y Dŷn? I ba beth y mae'n rhoi negeseuon arnaf! Byddwch amyneddgar, da chwi, ni chlywsoch hanner negesau etto. Os chwi fydd ystig, ni bydd arnoch byth brinder swyddau, tra bwyf yn agos attoch.