Neidio i'r cynnwys

Llythyrau Goronwy Owen/Llythyr 43

Oddi ar Wicidestun
Llythyr 42 Llythyrau Goronwy Owen


golygwyd gan John Morris-Jones
Llythyr 44

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 43.

At WILLIAM MORRIS.


NORTHOLT, Rhagfyr y 29, 1755.

YR ANWYL GYDWLADWR, A'M HEN GYFAILL GYNT,

YN wir y mae arnaf gryn gywilydd gyfaddef eich bod erioed wedi bod yn nifer y cyfeillion, gan ddihired a fu'm wrthych; mi a ewyllysiwn dynnu llen-gudd dros yr amser a aeth heibio, a thaeru mai dyma y llythyr cyntaf erioed a ysgrifennais attoch. Ond y gwir a fynn ei le; a minnau pia'r gwarth a'r gwaradwydd am fod mor esgeulus; a phe gwyddwn fod rhithyn o obaith am faddeuant, mi wnawn aneirif addunedau i fod yn fwy gofalus a diwyd i ysgrifennu o hyn rhagllaw. Beth meddwch? (canys ni fynaf yn hyn o beth un Pab ond chwychwi,) a ellid cael cymmod trwy ddwyn penyd? neu ynte a gyst myn'd hyn a hyn o flynyddoedd i'r purdan? Os penyd. a wna'r gwaith, wele ddigon eisoes, fod cyhyd heb glywed. oddiwrthych, a thra diddaned im' gynt eich epistolau. Tra bum yn Llundain, un achos arbennig na ysgrifennwn attoch ydoedd, fy mod yn gwybod yn hysbys, os byddai gennyf gymmaint ag Englyn newydd, y byddai yna, trwy ddwylaw fy nghyfaill John Owen, cyn y medrwn i a'm bath roi pin ar bapur; wele, dyna un darn o'm hesgus; ond pa beth a dâl ymgesgusodi? ond haws maddeuant er cyffes. Yr oedd hefyd, heblaw hyn oll, arnaf ofn o'r mwyaf oblegyd y Delyn Ledr; canys mewn brys a ffwdan o'r mwyaf y cychwynais o'r fangre gythreulig yn y Gogledd accw, a chan nad allwn gludo dim ar fy nghefn, nid oedd gennyf ond rhoi'r Delyn gyd â'r llyfrau eraill, a'u gorchymyn oll i law gwr a dybiwn yn bur ac yn onest i'w gyrru ar fy ol; gwir yw ni ysgrifennais ddim an danynt, hyd nad oeddwn ar ymadael o Lundain, ac yno mi gefais atteb, eu bod yn barod i ddyfod mewn wythnos neu bythefnos o amser; ond mae'r pymthegnos hynny wedi myned heibio er ys mis neu well; pa beth a wnaf ynte? nid oes gennyf ddim i'w wneuthur ond ysgrifennu etto yn ffyrnig atto ef i erchi arno yrru'r llyfrau. Os cyll y Delyn, bid sicr i mi golli ei gwerth ddengwaith o lyfrau o amryw ieithoedd, ond yn enwedig yn y Gymraeg. Fe fydd hynny yn bechod—ond gwaeth gennyf fi y Delyn na dim, am nad oedd ond benthyg; ac am fy mod yn hysbys ei bod yn cynnwys eich llafur, a'ch difyrwch, dros amryw flynyddoedd; ond byddwch esmwyth, a chymmerwch gysur; nid wyf fi mewn ofnau yn y byd yn eu cylch, ac nid oes gennyf ddim anobaith, na gwan—galon, na byddant yma cyn pen mis; ac os byddant, bid sicr i chwi gaffael y Delyn pan gyntaf y bo modd i'w gyrru hi. Dyma i chwi holl hanes y trwstan, a chymmaint ag a wn i o hanes y Delyn.

Dacew'r Llew wedi myned adref er ys ennyd, fal y gwyddoch, ac ni chlywais air oddiwrtho fo na'i nai etto. Mae caniad Arglwydd Llwydlo, yn Lladin, yn barod er ys mis, a'r Gymraeg agos wedi ei gorphen, a phan orphenir chwi a'i cewch, os gwiw fydd gennych eu derbyn.—Doe y cefais lythyr o'r Navy Office: y mae y Llywydd Mynglwyd yn iach lawen, ac yn dywedyd i mi fod y Penllywydd o Gors y Gedol wedi dyfod i Lundain, ac y bydd yn un llabi y'nghadair y Cymmrodorion y seithfed o Ionawr nesaf; ac y mae i minnau ddyfyn i ymddangos o'i flaen, dan boen dioddef fy niraddio o freintiau ein hardderchog Gymdeithas, oblegid ein bod i ddewis swyddogion y diwrnod hwnnw am y flwyddyn rhagllaw; ac oni bai fy mod yn rhy bell, sef 10 neu 12 milltir, odid na byddwn ysgrifennydd annwiw i'r Gymdeithas. Ond bellach gadawch i mi roi i chwi ryw fesur o'm hanes presennol. Yr wyf yn byw mewn lle (fal y gwelsoch) a elwir Northolt, yn Offeiriad tan Dr. Nichols, Meistr y Deml (Master of the Temple) yn Llundain. Mae'n rhoi i mi 50 punt yn y flwyddyn; lle digon esmwyth ydyw'r lle am nad oes gennyf ond un bregeth bob Sul, na dim ond 8 neu 9 o ddyddiau gwylion i'w cadw drwy'r flwyddyn, a chan nad ydyw'r plwyf ond bychan, nid yw pob rhan o'r ddyledswydd ond bychan bach; am hynny mwyaf fyth a gaf o amser i ysgrifennu i'm Cymdeithas, a phrydyddu, &c. &c., yr hyn hefyd a ddechreuais er ys ennyd, er na chant hwy weled dim nes ei berffeithio.

Our general heads of enquiry are, you know, very extensive. Yr wyf yn awr yn prysur astudio Gwyddelig, ac yn ei chymharu â'r Gymraeg, ei mam; ac y'mhell y bwyf onid yw agos yn rhyfedd gennyf na ddeallem bob Gwyddel a ddoe o'r Iwerddon; ond gormod o dro sydd yn eu tafodau hwy wrth ymarfer âg iaith yr Ellmyn gynt, nid Saesoneg ond high German; ranys dywedant hwy a fynnont yng nghylch ei gwreiddyn, a dygant eu tadau o 'Spaen, Melisia, gwlad Roeg, neu'r Aipht neu'r man y mynnont, nid y'nt ond cymmysg o Ellmyn a Brython, yn eu hiaith o'r lleiaf. Mi dybiais ganwaith gynt fod y Wyddelig yn famiaith, ond cangymmeriad oedd hynny, fal y danghosaf os byddaf byw. Mae yma yn fy nghymydogaeth ddyn penigamp o arddwr o'n gwlad, un a adwaenech yn dda gynt, a'i enw Owain Williams, ond Adda yr wyf fi ambell dro yn ei alw; mi a'i gwelais ddoe, ac yr oedd yn dymuno ei wasanaeth attoch. Gan fod gennyf ardd o'r oreu (oreu o ran tir) mi fum yn cethru arno yn dost am ychydig hadau a gwreiddiach i'w haddurno, ac ni's medrodd gael i mi y leni oddiar ddyrnaid o snow drops a chrocus, oblegid y mae yn achwyn yn dost nad oes na hâd na gwraidd i'w cael trwy deg na hagr gan waethed a fu'r hîn i'w cynhauafa; ni wn i beth a geir flwyddyn nesaf. Lle iachus ddigon yw'r lle hwn, ac yn dygymmod yn burion â mi ac â'm holl deulu. Os byddwch faddeugar am a aeth heibio, ac mor fwyn a gyrru hyd bys o lythyr, llwybreiddiwch ef fel hyn :—To me at Northolt, near Southall, Middlesex, near London,

Duw ro i chwi iechyd, a blwyddyn newydd well na'r hen, ac well well byth o hyn allan. Annerchwch fi at Mr. Ellis a'r holl ffrindiau. Ydwyf, Syr, eich ufudd wasanaethwr tra b'wyf,

GORONWY DDU

Nodiadau

[golygu]