Neidio i'r cynnwys

Llythyrau Goronwy Owen/Llythyr 44

Oddi ar Wicidestun
Llythyr 43 Llythyrau Goronwy Owen


golygwyd gan John Morris-Jones
Llythyr 45

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 44.

At RICHARD MORRIS.


NORTHOLT Chwefror 18, 1756.

SYR

AIE, gwaeddi am Ddyri i'w Delyn y mae Robert? Ple mae Telyn bach fy Machgen i bellach gan lwyth y Cortyn; Ond yw'n beth diflas fod bwyd y Cŵn yn chwarae migmars, ac yn naccau Dŷn o honi cŷd a chŷd o amser? Rhyfedd na bai ar felldith ei fam ofn gael Dyri iddo ei hûn, oblegid fe all feddwl yr haeddai yn dda gael tafod na lyfai Gi mono, am ei faweidd-dra. Ond er hynny, fe gawsai Ddyri i'w Delyn, oni buasai imi ollwng yn anghof y Mesur, hynny yw, hyd y llinellau, a pha sawl llinell ymhob Pennill; a hynny sy raid i mi ei wybod cyn y gwnelwyf y Ddyri. Ple mae'r Gwlangroen gan Sion Owain ddiog? A ydyw'r Ewinor ar ei fysnidd? Ow'r Cancr! Lle da i ddisgwyl dim daioni gan Sion Baentiwr ond rhyw wên Ci marw; gresyn na chawsai ei grogi er ys talm, y llygaid. Diawl tan garreg. Ffei o hono, gingroen! Ond gwrandewch, yr wyf ar fedr bod yna Wyl Ddewi, a'n holl Deulu bôd y pen gyda mi, oblegid ni cheid ganthynt aros Gartref, pe cusenid eu tineu. Attebwch gan hynny i'r ymofynion hyn. Pa un ai yn eu Gynau duon ai yn eu Sippogau y bydd y Personiaid Cymreig y dwthwn hwnnw? Ymha'r Eglwys y bydd y Bregeth? Pwy a dderllyn wasanaeth? Pwy a bregetha? Pa le y ceir Cennin prydferth? Beth yw pris Cenhinen? A eill dynyn truan ddangos ei big megys llanw mewn llu? A geir dim dirmyg gan Blant Alis, heblaw gwaeddi Taffy, neu re...in rhyng'om a'r gwynt ? Dyna'r cwbl a fynnwn ei wybod. Yr ym ni yma bod y goppa wedi cael dillad newydd, ac yn ymloywi'n rhyfeddol i gael ymddangos i Ddewi yn ein glandrwsiad ni welodd un o honom erioed gadw'r dydd mor barchedig, ac fallai na welwn byth rhag llaw. Os trwy Cheapside y byddwch yn myned, fe fydd fy Nheulu fi yn nhy eu hewythyr Rhys ab Rhys y Twccawr, yn ysbio trwy'r ffenestri arnoch. Nid ych (fe weddai) ddim ar fedr annerch y Tywysawg y leni; pa sut y bu hynny arnoch? Byddwch mor fwyn a hyfforddi Caniad Lludlo at Mr. Humphreys o'r Tŵr, i gael ei farn arni. Fy ngwasanaeth at bawb a'm caro yn y cwrr yna, ac odid y bydd hynny chwaith anhawdd. Wyf eich Gwasanaethwr ufuddaf, neu'n hytrach eich Gormeswr anoddef,

GRONWY DDU O FON

Nodiadau

[golygu]