Mabinogion J M Edwards Cyf 2/Breuddwyd Rhonabwy

Oddi ar Wicidestun
Peredur ab Efrog Mabinogion J M Edwards Cyf 2

gan John Morgan Edwards

Lludd a Llefelys


BREUDDWYD RHONABWY.

——————

 MADOG fab Meredydd a feddai Bowys yn ei derfynau, sef yw hynny, o Borfoed hyd yng Ngwanan yu eithaf Arwystli. Ac yn yr amser hwnnw brawd a oedd iddo,—sef oedd hwnnw Iorwerth fab Meredydd, ac nid oedd cystal gŵr a Madog. A Iorwerth a gymerth ofid mawr a thristwch wrth weled yr anrhydedd a'r meddiant oedd i'w frawd, ac yntau heb ddim. A galwodd ato ei gyfeillion a'i frodyr maeth, ac ymgynghorodd â hwy beth a wnai. Sef a gawsant yn eu cyngor,—anfon rhai o honynt i ofyn bywoliaeth iddo. Cynhygiodd Madog iddo y swydd o benteulu, a meirch, ac arfau, ac anrhydedd cystal a'r eiddo ei hun.

A gwrthod hynny wnaeth Iorwerth. A myned ar grwydr hyd yn Lloegr, a lladd celanedd, a llosgi tai, a dal carcharorion wnaeth Iorwerth. A chynghor a gymerodd Madog a gwŷr Powys gydag ef. Sef a gawsant yn eu cyngor,—gosod can wr ymhob un o dri chwmwd Powys i'w geisio. Hyn a wnacthant yn rhychdir Powys, yn Aber Ceiriog, ac yn Alligdwn Fer, ac yn Rhyd Wilure ar y Fyrnwy, y tri chwmwd goreu ym Mhowys. Fel nad da oedd iddo ef na'i deulu ym Mhowys, nac yn y rhandir hwnnw. Ac anfonasant y gwyr hynny hyd yn rhychdir Nillystwn Trefan.

A gŵr oedd yn y llu hwnnw a'i enw Rhonabwy. A daeth Rhonabwy a Chynwrig Frychgoch, gŵr o Fawddwy, a Chadwgan Fras, gŵr o Foelfre yng Nghynlleith, i dŷ Heilyn Goch fab Cadwgan fab Iddon. A phan ddaethant at y tŷ, gwelent hen neuadd burddu, dal, uniawn, a  mwg lawer yn dod o honi. A phan ddaethant i fewn gwelent lawr pyllog anwastad bryniog, a braidd y safai dyn arno lyfned y llawr gan fiswael gwartheg. Lle byddai bwll, clai dyn dros ei ffer i ddwfr a llaid y gwartheg. A gwrysg celyn oedd yn aml ar y llawr wedi bwyta o'r gwartheg eu brig. A phan ddaethant i gyntedd y ty, gwelent barthau llychlyd llwm. A gwrach yn ymdwymno ar y naill barth, a phan ddelai anwyd arni, bwriai o'i harffedog us am ben y tân, fel nad hawdd oedd i un dyn yn y byd ddioddef y mwg hwnnw yn myned i mewn i'w ddwy ffroen. Ar y parth arall gwelent groen dyniawed melyn ar lawr, ac anrhydedd oedd i neb gael mynd ar y croen hwnnw. Ac wedi iddynt eistedd, gofyn a wnaethant i'r wrach pa le yr oedd dynion y tŷ, ac ni ddywedai y wrach wrthynt ond tafodi. Ac ar hynny wele y dynion yn dyfod. Gŵr coch, gwarfoel, afrosgo, a baich o wrysg ar ei gefn, a gwraig feinlas fechan, a cheseliaid o frwyn ganddi hithau. Sych

groesawu y dynion a wnaethant, a chynneu
tân gwrysg iddynt. A myned i bobi a wnaeth y wraig, a dwyn y bwyd iddynt, bara haidd a chaws, aglasdwr llefrith. Ac ar hynny

wele ruthr o wynt a gwlaw fel nad hawdd i neb fynd allan, A chan mor anesmwyth oedd eu taith, blino a wnaethant, a myned i gysgu. A phan edrychwyd y gwely, nid oedd arno ond byrwellt dystlyd, chweinllyd, a bonau gwrysg yn aml trwyddo, a'r gwartheg wedi bwyta y gwellt oedd uwch eu pennau ac is eu traed. Tacnwyd hulyn lwydgoch, galed, lom, dyllog ar y fainc, a llenllian fras, dyllog, rwygedig ar yr hulyn, a gobennydd lledwag a gorchudd go fudr iddo ar ben y llenllian. Ac i gysgu yr aethant, a chwsg a ddisgynnodd ar ddau gydymaith Rhonabwy yn drwm. A Rhonabwy, gan nas gallai na chysgu na gorffwys, a feddyliodd fod yn llai poen iddo fynd ar groen y dyniawed melyn ar y llawr i gysgu Ac yno y cysgodd. Ac mór fuan ac y daeth hûn i'w lygaid, breuddwydiodd ei fod ef a'i gydymdeithion yn cerdded ar draws maes Argyngroeg, ac oddi yno, debygai, tua Rhyd y Groes ar Hafren. Ac fel yr oedd yn cerdded, clywai dwrf, a thebyg y twrf hwnnw ni chlywsai erioed. Ac edrych a  chleddyf eurdrwm ar ei glun, a gwain o ledrwnaeth drach ei gefn, a gwelai ŵr ieuanc pengrych melyn, a'i farf newydd eillio, ar farch melyn, ond fod ei ddwy goes dan ei ddeulin yn las. A gwisg o bali melyn am y marchog wedi ei gwnio âg edafedd glas, a newydd iddo, a charrai o ledr ewig a chlasp arni o aur. Ac ar hynny yr oedd len o bali melyn wedi ei wnio â sidan glas, a'i odreu hefyd yn las. A'r hyn oedd las o wisg y marchog a'i farch oedd cyn lased a dail y ffynidwydd, a'r hyn oedd felyn o honi oedd cyn felyned a blodau y banadl. A chan mor ofnadwy oedd golwg y marchog, ofni a wnaethant, a dechreu ffoi. A'u hymlid a wnaeth y marchog. A phan yrrai ei farch ei anadl oddi wrtho y pellhai y gwyr oddi wrtho, a phan y cymerai ei anadl neshai y gwyr ato,—hyd ym mron y march. A phan y goddiweddodd hwy, gofyn ei nawdd a wnaethant.

"Chwi a'i cewch yn llawen, ac nac ofnwch."

"Ha, unben, gan it roddi nawdd i ni, a ddywedi i mi pwy wyt," ebe Rhonabwy. "Ni chelaf oddi wrthyt fy hanes. Iddog fab Mynyo wyf, ac nid ar fy enw ym gelwir fwyaf, ond ar fy llysenw."

"A ddywedi di i mi beth yw dy lysenw." "Dywedaf. Iddog Cordd Prydain ym gelwir."

"Ha, unben," ebe Rhonabwy, "paham y gelwir di felly?"

 "Mi a ddywedaf it. Un oeddwn o'r cenhadau yng nghad Camlan rhwng Arthur a Medrawd ei nai. A gŵr ieuanc drwg oedd— wn i yno, ac mor hoff oeddwn o frwydr fel y perais derfysg rhyngddynt. Pan yrrid fi oddi wrth yr ymherawdwr Arthur i fynegi i Fedrawd ei fod yn dadmaeth ac yn ewyrth iddo, ac i ofyn tangnefedd rhag lladd meibion brenhinoedd Ynys Prydain, a phan ddywedai Arthur yr ymadrodd tecaf allai wrthyf, dywedwn innau yr ymadrodd hwnnw hagraf allwn wrth Fedrawd, ac am hynny y gelwid fi Iddog Cordd Prydain, ac am hyn yr ymladdwyd cad Camlan. A theirnos cyn gorffen cad Camlan y gadewais hwy, ac y daethum hyd yn Llech Las ym Mhrydain i ddwyn fy mhennyd. Ac yno y bum yn penydio saith mlynedd, a thrugaredd a gefais."

Ar hynny, wele, clywent dwrf oedd fwy o lawer na'r twrf gynt. A phan edrychasant tua'r twrf, wele was melyngoch heb farf ac heb gernflew, o arddull bonheddig, ar farch mawr, ac o ben y ddwy ysgwydd ac o'i ddeulin i waered melyn oedd y march. A gwisg oedd am y gŵr o bali coch wedi ei gwnio â sidan melyn, a godreu y llen yn felyn. A'r hyn oedd felyn o'i wisg ef ac o'i farch cyn felyned oedd a blodau y banadl; a'r hyn oedd goch o honynt oedd  cyn goched a'r gwaed cochaf yn y byd. Ac yna, wele, y marchog yn eu goddiweddu, ac yn gofyn i Iddog a gafai ran o'r dynion bychain hynny ganddo.

"Y rhan a weddai i mi ei roddi, mi a'i rhoddaf; bydd yn gydymaith iddynt fel y bum innau."

A hynny a wnaeth y marchog, a myned ymaith.

'Iddog,' "ebe Rhonabwy, "pwy oedd y marchog hwn?"

"Rhuawn Bebyr, fab Deorthach Wledig." Ac yna y cerddasant ar draws maes mawr Argyngroeg hyd yn Rhyd y Groes ar Hafren. A milltir oddi wrth y Rhyd, o bob tu i'r ffordd, y gwelent luestai a phebyll, ac yr oedd yno dwrf llu mawr.

Ac i lan y Rhyd y dacthant. Sef

a welent, Arthur yn eistedd mewn ynys wastad is y Rhyd, ac ar y naill du iddo Bedwin Esgob, ac ar y tu arall Gwarthegydd fab Caw, a gwas gwineu mawr yn sefyll ger eu bron, a'i gleddau trwy ei wain yn ei law, a gwisg a chapan o bali purddu am dano. A'i wyneb cyn wynned ag asgwrn eliffant, a chan ddued ei aelau a'r muchudd, a'r hyn welai dyn o'i arddwrn rhwng ei fenyg a'i lewis gwynnach oedd na'r lili, a mwy oedd na ffer milwr. Ac yna y daeth Iddog, a hwythau gydag ef, ger bron Arthur, a chyfarch gwell iddo.

"Duw a roddo dda it," ebe Arthur. "Pa le, Iddog, y cefaist di y dynion bychain hyn?"

 "Mi a'u cefais, arglwydd, uchod ar y ffordd."

Sef a wnaeth yr ymherawdwr oedd lledwenu.

"Arglwydd," ebe Iddog, "am beth y chwerddi di?"

"Iddog," ebe Arthur, "nid chwerthin a wnaf, ond gofidio fod dynion mor wael a hyn yn gwylio yr ynys hon yn lle y gwyr da a'i gwyliai gynt."

Ac yna y dywedodd Iddog,—

"Rhonabwy, a weli di y fodrwy a'r maen arni ar law yr Ymherawdwr."

"Gwelaf," ebe ef.

"Un o rinweddau y maen yw y cofi a welaist heno, a phan na welet y maen ni chofiet ddim o hono."

Ac wedi hynny y gwelai fyddin yn dyfod tua'r Rhyd.

"Iddog," ebe Rhonabwy, "pwy biau y fyddin acw?"

"Cydymdeithion Rhuawn Pebyr, fab Deorthach Wledig, ydynt. A'r gwyr acw a gant fwyd a diod yn  anrhydeddus, a chant gyfeillachu â merched brenhinoedd ynys Prydain yn ddiwarafun. A haeddant hyn, canys ymhob perygl byddant yn ei flaen ac yn ei ol."

Ac ni welai liw amgen ar farch nac ar ŵr o'r fyddin honno, ond eu bod cyn goched a'r gwaed. Ac os gwahanai un o'r marchogion oddi wrth y fyddin honno, tebyg fyddai i golofn dân yn cychwyn i'r awyr. Pabellodd y fyddín honno uwch y Rhyd. Ac ar hynny gwelent fyddin arall yn dyfod tua'r Rhyd. Ac o fronnau y meirch i fyny oedd cyn wynned a'r lili, ac o hynny i waered cyn ddued a'r muchudd. A gwelent farchog yn eu rhagflaenu, ac yn spardyn ei farch i'r Rhyd nes y lluchiodd y dwfr am ben Arthur a'r esgob, a'r rhai oedd yn y cyngor gyda hwy, nes oeddynt cyn wlyped a phe tynnid hwy o'r afon. Ac fel yr oedd yn trosi pen ei farch, tarawodd y gwas oedd yn sefyll gerbron Arthur y march ar ei ddwyfron â'r cleddyf yn ei wain; a phe y tarawai â'r dur noeth, ni fai ryfedd pe torasid yr asgwrn yn ogystal a'r cig. A thynnu ei gleddyf hyd hanner y wain a wnaeth y marchog, a gofyn iddo,—

"Paham y tarewaist di fy march i? ai er amarch i mi, ynte er cyngor?"

"Rhaid oedd i ti wrth gyngor. Pa ynfydrwydd wnai i ti farchogaeth mor gyflym, a lluchio dwfr o'r Rhyd am ben Arthur a'r esgob cysegredig a'u cynghorwyr, nes oeddynt cyn wlypet a phe tynnid hwy o'r afon?"

"Minnau a'u cymeraf yn lle cyngor," ebai, a throdd ben ei farch tua ei fyddin. "Iddog," ebe Rhonabwy, "pwy oedd y marchog gynneu?"

"Y gŵr ieuanc ffraethaf a doethaf yn y deyrnas hon,—Adaon fab Taliesin."

"Pwy oedd y gŵr a darawodd ei farch?"

"Llanc traws—fonheddig,—Elphin fab Gwyddno."

Ac yna y dywedodd y gŵr balch bonheddig, ac ymadrodd llithrig eon ganddo, fod yn rhyfedd i lu gymaint a hwnnw gynnull mewn lle mor gyfyng a hwn, a'i fod yn rhyfeddach ganddo ei fod yno yr awr honno, ac wedi addaw bod hanner dydd ym mrwydr Baddon yn ymladd âg Osa Gyllellfawr,—

"A dewis di a gerddi ai ni cherddi, myfi a gerddaf."

"Gwir a ddywedi," ebe Arthur, "a cherddwn ninnau i gyd."

"Iddog," ebe Rhonabwy, "pwy yw y gŵr a ddywedai mor hyf wrth Arthur ag y dywedai'r gŵr gwineu?"

"Gŵr a all ddywedyd cyn eofned ag y mynna wrtho,—Caradog Feichfras fab Llyr, ei gynghorwr a'i gefnder."

Yna cymerodd Iddog Rhonabwy wrth ei ysgil, a chychwynnodd y llu mawr hwnnw, pob byddin yn ei threfn, tua Chefn Digoll. Ac wedi eu dyfod hyd yng nghanol y Rhyd ar yr Hafren, troi a wnaeth Iddog ben ei farch drach ei gefn, ac edrych a wnaeth Rhonabwy ar Ddyffryn Hafren, a gwelai ddwy fyddin hardd yn dyfod tua'r Rhyd ar  yr Hafren. A byddin eglurwen yn dyfod, a llen o bali gwyn am bob un o honynt, a godreu bob un yn bur ddu. A phen deulin, a phennau dwy goes y meirch yn burddu, a'r meirch yn wynion oll ond hynny. A'u banerau yn burwyn, a blaen pob un o honynt yn burddu.

"Iddog," ebe Rhonabwy, "pwy yw y fyddin burwen acw?"

"Gwyr Llychlyn ydynt, a March fab Meirchion yn dywysog arnynt. Cefnder i Arthur yw hwnnw."

Ac yna y gwelai fyddin a gwisg burddu am bob un o honynt, a godreu pob llen yn burwyn. Ac o ben eu dwygoes a phen eu deulin i'r meirch yn burwyn, a'u banerau yn burddu, a blaen pob un o honynt yn burwyn.

"Iddog," ebe Rhonabwy, "pwy yw y fyddin burddu acw?"

 "Gwyr Denmarc, ac Edeyrn fab Nudd yn dywysog arnynt."

A phan oddiweddasant y llu, wele, disgynasai Arthur a'i lu y cedyrn islaw Caer Fadon; ac wedi disgyn, clywai dwrf mawr a therfysg yn y llu,—a'r gŵr a fai ar ymyl y llu yn awr a elai i'r canol, a'r gŵr fai yn y canol a ddeuai i'r ymyl. Ac ar hynny, wele farchog yn dyfod a gwisg o ddur am dano ef ac am ei farch. Cyn wynned oedd y modrwyau a'r lili wennaf, a chyn goched oedd yr hoelion a'r gwaed cochaf. A hwnnw yn marchogaeth ymhlith y llu.

"Iddog," ebe Rhonabwy, "ai ffoi wna y llu rhagddo?"

"Ni ffodd yr Ymherawdwr Arthur erioed, a phe clywid di yn siarad felly, gŵr trist fyddet. Ond y marchog a weli acw, Cai yw hwnnw. Tecaf dyn a farchoga yn llys  Arthur yw Cai. A'r gwr ar ymyl y llu sydd yn brysio yn ol i edrych ar Cai yn marchogaeth, a'r gŵr yn y canol sydd yn ffoi i'r ymyl rhag ei frifo gan y march. A hynny yw ystyr y cynnwrf yn y llu."

Ar hynny clywent alw ar Gadwr, Iarll Cernyw. Wele yntau yn dyfod a chleddyf Arthur yn ei law. A llun dwy sarff ar y cleddyf o aur, a phan dynnid y cleddyf o'i wain, fel dwy fllam o dân a welid o eneuau y seirff, ac mor ddychrynllyd oedd fel nid hawdd fai i neb edrych arno. Ar hynny wele y llu yn arafu, a'r cynnwrf yn peidio. Ac aeth yr iarll i'w babell.

"Iddog," ebe Rhonabwy, "pwy oedd y gŵr ddygai gleddyf Arthur?"

"Cadwr, Iarll Cernyw, y gŵr raid wisgo ei arfau am y brenin yn nydd cad ac ymladd."

Ac ar hynny clywent alw ar Eirynwych Amheibyn, gwas Arthur. Gŵr garwgoch anhygar, a barf goch o flew sythion iddo. Wele yntau yn dyfod ar farch coch mawr, a'i fwng wedi ei rannu o bob tu i'w wddf, a  swmer mawr tlws ganddo. A disgyn a wnaeth y gwas coch mawr ger bron Arthur, a thynnu cadair aur o'r swmer a llen o bali caerog. A thaenu y llen a wnaeth ger bron Arthur, ac afal rhuddaur

oedd wrth bob congl iddi, a gosododd y

gadair ar y llen. A chymaint oedd y gadair ag y gallai tri milwr arfog eistedd ynddi. Gwen oedd enw y llen. Ac un o rinweddau y llen oedd,—na welai neb y dyn eisteddai arni, ond efe a welai bawb, ac ni arhosai arni byth liw ond ei lliw ei hun. Ac eistedd a wnaeth Arthur ar y llen, ac Owen fab Urien yn sefyll ger ei fron.

"Owen," ebe Arthur, "a chwareui di wyddbwyll?"

"Chwareuaf, arglwydd," ebe Owen. Daeth y gwas coch â'r wyddbwyll i Arthur ac Owen,—gwerin aur a chlawr arian. A dechreu chware a wnaethant. A phan yr oeddynt felly yn ddifyrraf ganddynt eu chwareu uwch y gwyddbwyll, wele, gwelent babell wen, bengoch, a delw sarff burddu ar ben y babell, a llygaid rhuddgoch gwenwynig ymhen y sarff, a'i thafod yn fflam goch. A gwelent lanc ieuanc pengrych melyn, llygadlas, a'i farf yn dechreu tyfu, yn dyfod at lle yr oedd Arthur ac Owen yn chwareu gwyddbwyll. A gwisg a swrcot o bali melyn am dano, a dwy hosan o frethyn gwyrddfelyn teneu am ei draed, ac ar yr hosanau ddwy esgid o ledr brith, a byclau o aur yn eu cau. A chleddyf eurdrwm, trwm, tri miniog, a gwain o ledr du iddo, a swch o ruddaur coeth ar ben y wain. A chyfarch gwell a wnaeth y llanc i Owen. A rhyfeddu a wnaeth Owen am i'r llanc gyfarch gwell iddo ef, ac na chyfarchodd yr Ymherawdwr Arthur. A gwybod wnaeth Arthur am beth y meddyliai Owen.

"Na fydd ryfedd gennyt i'r llanc gyfarch gwelli ti yr awr hon. Efe a gyfarchodd well i minnau gynneu. Ac atat ti y mae ei neges"

Ac yna y dywedodd y llanc wrth Owen,— Arglwydd, ai wrth dy gennad di y mae gweision bychain yr ymherawdwr  a'i lanciau yn aflonyddu, a dychrynnu, a blino dy frain?" Os nad wrth dy gennad, par i'r ymherawdwr eu gwahardd."

"Arglwydd," ebe Owen, "ti a glywi a ddywed y llanc. Os da gennyt, gwahardd hwynt oddiwrth fy mrain."

"Chware dy chware," ebe ef.

Ac yna y dychwelodd y llanc tua'i babell.

Terfynu y chware hwnnw a wnaethant, a dechreu un arall; a phan oeddynt yn hanner y chware, dyna was ieuanc coch, pengrych, gwineu, llygadog, lluniaidd, wedi eillio ei farf, yn dyfod o babell burfelen a delw llew purgoch ar ben y babell. A gwisg o bali melyn am dano gyrhaeddai at ei esgeiriau, wedi ei gwnio âg edafedd o sidan coch, a dwy hosan am ei draed o fwcran gwyn teneu, ac ar yr hosanau yr oedd dwy esgid o ledr du am ei draed, a byclau aur arnynt; a chleddyf mawr, du, trwm, triminiog yn ei law, a gwain o groen carw coch iddo, a swch aur ar y wain. A daeth tua'r lle yr oedd Arthur ac Owen yn chware gwyddbwyll. Cyfarchodd well i Owen. A drwg oedd gan Owen iddo gyfarch gwell iddo, ond nid oedd Arthur yn malio dim mwy na chynt. Y llanc a ddywedodd wrth Owen,———

"Ai o'th anfodd di y mae llanciau yr ymherawdwr yn niweidio dy frain, ac yn lladd eraill, ac yn blino eraill? Os o'th anfodd y gwnant, atolwg arno eu gwahardd."

Arglwydd, gwahardd dy wyr, os da gennyt."

"Chware dy chware," ebe'r ymherawdwr.

Ac yna y dychwelodd y llanc tua'i babell. Y chware hwnnw a derfynwyd, a dechreu- wyd un arall. Ac fel yr oeddynt yn dechreu y symud cyntaf ar y chware, gwelent ychydig oddi wrthynt babell frech-felen, y fwyaf a welodd neb erioed. A delw o eryr aur arni, a maen gwerthfawr ymhen yr.eryr. Ac yn dyfod o'r babell gwelent lanc a gwallt pybyr-felyn ar ei ben. Teg a lluniaidd oedd o gorff. A len o bali glas oedd am dano, a gwaell aur cymaint a bys mwyaf milwr yn y llen ar ei ysgwydd ddeheu, a dwy hosan am ei draed o ddefnydd teneu, a dwy esgid o ledr brith a byclau aur arnynt. Yr oedd y gwas yn fonheddigaidd ei bryd, gwyneb gwyn gruddgoch iddo, a llygaid mawr fel llygaid hebog. Ac yn llaw y llanc yr oedd gwaewffon braff fraith-felen, a'i blaen newydd ei hogi, ac ar y waewffon yr oedd baner amlwg. Daeth y llanc yn llidiog angerddol, gan gerdded yn gyflym at y lle yr oedd Arthur ac Owen yn chware gwyddbwyll. A deallasant ei fod yn llidiog. A chyfarch gwell wnaeth i Owen, a dywedyd  wrtho fod ei frain, y rhai mwyaf arbennig o honynt, wedi eu lladd, ac fod y rhai na laddwyd o honynt wedi eu niweidio a'u brifo gymaint fel na ddichon yr un o honynt ehedeg ddwylath oddi wrth y ddaear.

"Arglwydd," ebe Owen, "gwahardd dy ŵyr."

"Chware, os mynni," ebe Arthur.

Yna y dywedodd Owen wrth y llanc,—

"Dos rhagot i'r lle y gwelych y frwydr galetaf. Cyfod y faner i fyny; ac a fynno Duw, bydded."

Ac yna y cerddodd y llanc rhagddo hyd y lle yr oedd y frwydr galetaf ar y brain, a dyrchafodd y faner. Ac fel y dyrchafid y faner cyfodai y brain i'r awyr yn llidiog angerddol, ac yn falch o gael gwynt dan eu hadenydd, ac o fwrw eu lludded oddi arnynt. Ac wedi adennill eu nerth a chael buddugoliaeth, disgynasant gyda'u gilydd yn llidiog a llawn yni i'r llawr ar ben y gwyr wnaethai lid a gofid a cholled iddynt  cyn hynny. Pennau rhai a ddygent, llygaid eraill, a chlustiau eraill, a breichiau eraill, gan eu cario i'r awyr. A chynnwrf mawr fu yn yr awyr gan drwst esgyll a chlegar y brain llawen; a chynnwrf mawr arall gan ruddfannau y gwyr yn cael eu brathu a'u hanafu, ac eraill yn cael eu lladd.

A rhyfedd fu gan Arthur a chan Owen uwch ben y gwyddbwyll glywed y cynnwrf. A phan edrychasant, gwelent farchog ar farch erchlas yn dyfod atynt. Lliw rhyfedd oedd ar y march,——ei gorff yn erchlas, ei ysgwydd ddeheu yn burgoch, ac o bennau ei goesau i ewinedd ei garn yn burfelyn. Yr oedd y marchog a'i farch yn gywair o arfau trymion, estronol. Hulyn y march o'r agorfa flaen i fyny yn sidan purgoch, ac o'r agorfa i waered yn sidan purfelyn. Cleddyf eurddurn mawr, un min, oedd ar glun y gwas, a gwain newydd bur-las iddo, a swch ar y wain o bres yr Hispaen.

Gwregys y cleddyf oedd o ledr glas—ddu, ac ochrau goreuraidd iddo, a gwaell o asgwrn eliffant arno, a chlasp purddu ar y waell. Helm euraidd oedd ar ben y marchog, a meini mawr, gwerthfawr a gwyrthiol, ynddi. Ac ar ben yr helm yr oedd delw llewpard melynrudd, a dwy faen ruddgochion yn y pen, fel mai dychrynllyd oedd i filwr, er caderned fai ei galon, edrych yng ngwyneb y llewpard, chwaithach yng ngwyneb y marchog. Picell goeslas, hirdrwm, oedd yn ei law, ac o'i dwrn i fyny yn rhuddgoch gan waed y brain a'u plyf.

Dyfod a wnaeth y marchog tuag at lle yr oedd Arthur ac Owen uwch ben y gwyddbwyll, a deall wnaethant ei fod yn lluddedig, llidiog, a blin yn dyfod atynt. Cyfarch gwell a wnaeth y gwas i Arthur, a dywedyd fod brain Owen yn lladd ei weision bychain a'i lanciau. Ac edrych a wnaeth Arthur ar Owen, a dywedyd,—

"Gwahardd dy frain."

"Arglwydd," ebc Owen, "chware dy chware."

A chware a wnaethant, a dychwelyd a wnaeth y gwas drachefn tua'r frwydr. Ac ni waharddwyd y brain mwy na chynt.

A phan yr oeddynt wedi chware dalm o amser, clywent gynnwrf mawr, wylofain gwŷr, a chlegar brain yn dwyn y gwyr yn eu nerth i'r awyr, ac yn eu hysglyfaethu rhyngddynt, ac yn eu gollwng yn ddrylliau i'r llawr. Ac oddi wrth y cynnwrf gwelent farchog yn dyfod ar farch canwelw, a choes flaen aswy y march yn burddu hyd ganol y carn.

Yr oedd y marchog a'i farchi yn gywair o arfau trymion a gleision. Hulyn o bali caerog melyn oedd am dano, a godreuon yr hulyn yn las. Hulyn ei farch yn burddu, a'i odreuon yn burfelyn. Ar glun y gwas yr oedd cleddyf hirdrwm, tri miniog, a'i waen o ledr coch disglaer, a gwregys newydd o groen carw coch ag ymylon aur aml iddo, a gwaell o asgwrn morfil iddo, a chlasp purddu arno. Helm euraidd oedd am ben y marchog, a meini saffir rhinweddol ynddi. Ac ar ben yr helm yr oedd delw llew melyngoch, a'i dafod droedfeddi allan o'i ben, a llygaid rhuddgochion gwenwynig yn ei ben. Daeth y gwas a gwaew onnen fawr yn ei law, a gwaed newydd ei roddi ar ei phen, orchuddid âg arian, a chyfarch gwell a wnaeth i'r ymherawdwr.

 "Arglwydd," ebe ef, "a'i di-daro gennyt ladd dy weision a llanciau bychain, a meibion gwyr da Ynys Prydain, fel na bydd hawdd cynnal yr ynys hon byth o heddyw allan ?"

"Owen," ebe Arthur, "gwahardd dy

"Chware, arglwydd," ebe Owen, "y chware hwn."

Darfod wnaeth y chware hwnnw, a dechreu un arall a wnaethant. A phan oeddynt ar ddiwedd y chware hwnnw, wele, clywsent gynnwrf mawr,—dolefain gwŷr arfog a chlegar brain a swn eu hadenydd yn yr awyr. A gollyngai'r brain yr arfau yn gyfain i'r llawr, yna y gwyr a'r meirch yn ddrylliau. Ac yna gwelent farchog ar farch o liw du a gwyn. Yr oedd pen y goes aswy i'r march yn burgoch, a'i goes ddeheu o'i fynwes hyd y carn yn burwyn. Yr oedd y marchog a'i farch yn arfog o arfau brithfelynion wedi eu britho â phres yr Hispaen. A hulyn am dano ef ac am ei farch dau hanner gwyn a phurddu, a godreuon yr hulyn oedd o borffor euraidd. Ac ar yr hulyn yr oedd cleddyf eurddwrn gloew, tri miniog. Gwregys y cleddyf oedd o eurlliw melyn, a gwaell arno o amrant mor-farch purddu, a chlasp o aur melyn ar y waell. Helm loew oedd am ben y marchog o bres melyn, a meini grisial gloew ynddi, ac ar ben yr helm yr oedd llun aderyn y grifft, a maen rhinweddol yn ei ben. Picell onnen goesgron oedd yn ei law, wedi ei lliwio âg asur glas, a gwaed newydd ei roddi ar ei choes orchuddid a gwaith arian cywrain. Dyfod a wnaeth y marchog yn llidiog hyd y lle yr oedd Arthur, a dywedyd darfod i'r brain ladd ei deulu a meibion gwŷr da yr ynys hon, gan erchi iddo beri i Owen wahardd ei frain. Yna yr archodd Arthur i Owen wahardd ei frain.

Ac yna y gwasgodd Arthur y werin aur oedd ar y clawr nes oeddynt oll yn llwch. Ac archodd Owen Wres fab Rheged ostwng ei faner. Ac yna y gostyngwyd hi, a thangnefeddwyd pob peth. Yna y gofynnodd Rhonabwy i Iddog pwy oedd y tri gŵr cyntaf ddaeth at Owen i ddywedyd wrtho eu bod yn lladd ei frain.

Ac yna y dywedodd Iddog,—

"Gwyr oedd ddrwg ganddynt ddyfod colled i Owen, ei gydbenaethiaid a'i gyfeillion, Selyf fab Cynan Garwyn o Bowys, a Gwgawn Gleddyfrudd, a Gwres fab Rheged, y gŵr garia'r faner yn nydd cad ac ymladd."

"Pwy," ebe Rhonabwy, "oedd y tri gŵr diweddaf ddaeth at Arthur i ddweyd iddo fod y brain yn lladd ei wŷr?"

"Y gwyr goreu," ebe Iddog, "a dewraf, a garwaf ganddynt golledu Arthur o ddim, Blathaon fab Mwrheth, a Rhuawn Pebyr fab Deorthach Wledig, a Hyfeidd Unllen."

Ac ar hynny, wele bedwar marchog ar hugain yn dyfod oddi wrth Ossa Gyllellfawr, i ofyn heddwch i Arthur am bythefnos a mis. A'r hyn a wnaeth Arthur oedd  cyfodi a myned i gymeryd cyngor, a ddaeth tua'r lle yr oedd gŵr pengrych gwineu mawr ychydig oddi wrtho. Ac yno dygwyd ei gynghorwyr ato,— Bedwin Esgob, a Gwarthegyd fab Caw, March fab Meirchawn, a Charadog Freichfras, a Gwalchmai fab Gwyar, ac Edyrn fab Nudd, a Rhuawn Pebyr fab Deorthach Wledig, a Rhiogan fab brenin Iwerddon, a Gwen Wynwyn fab Naf, Howel fab Emyr Llydaw, Gwilym fab Rhwyf Ffrainc, a Daned fab Oth, a Goreu Custennin, a Mabon fab Modron, a Pheredur Baladyr Hir, a Hyfeidd Unllen, a Thwrch fab Perif, a Nerth fab Cadarn, a Gobrwy fab Ethel Forddwyd Twll, a Gweir fab Gwestel, ac Adwy fab Gwereint, a Thrystan fab Tallwch, Morien Manawg, Granwen fab Llyr, a Llachen fab Arthur, a Llawfrodedd Farfog, a Chadwr Iarll Cernyw, Morfran fab Tegid, a Rhyawd fab Morgant, a Dyfyr fab Alun Dyfed, Gwrhyr Gwalstawd Ieithoedd, Adaon fab Taliesin, Llary fab Casnar Wledig, a Filewddur Fllam, a Greiddawl Galldofydd, Gilbert fab Cadgyffro, Menw fab Teirgwaedd, Gwrthmwl Wledig, Cawrdaf fab Caradawg Feichfras, Gildas fab Caw, Cadyriaith fab Saidi, a llawer o wyr Norway a Denmarc, a llawer o wyr Groeg gyda hwy, a digon o lu a ddaeth i'r cyngor hwnnw.

"Iddog," ebe Rhonabwy, "pwy oedd y gwas gwineu a ddaeth ato gynneu?"

"Rhun fab Maelgwn Gwynedd, gŵr ag y mae yn fraint i bawb ymgynghori âg ef."

"Am ba achos y daeth gŵr cyn ieuenged a Chadyrieith fab Saidi i gyngor gwŷr cyfurdd a'r rhai acw?"

"Wrth nad oedd ym Mhrydain ŵr doethach ei gyngor nag ef."

Ac ar hynny, wele feirdd yn dod i ddatgan cerdd i Arthur, ac nid oedd dyn a adnabai y gerdd honno ond Cadyrieith ei hun, ond ei bod yn gerdd o foliant i Arthur.

Ac ar hynny, wele bedair asen ar hugain ddygai bynnau o aur ac arian yn dyfod, a gŵr lluddedig a blin gyda phob un o honynt yn dwyn teyrnged i Arthur o Ynysoedd Groeg. Yna yr archodd Cadyrieith fab Saidi wneyd heddwch âg Ossa Gyllellfawr hyd ymhen pythefnos a mis, a rhoddi yr asynod a'r hyn oedd arnynt yn deyrnged i'r beirdd yn lle gwobr ymaros, ac ar derfyn yr heddwch talu iddynt am eu canu. Ac ar hynny y cytunwyd.

"Rhonabwy," ebe Iddog, "onid cam fai gwarafun gwas ieuanc a roddai gyngor cyn ddoethed a hwn, fynd i gyngor ei arglwydd?"

Ac yna y cyfododd Cai, ac y dywedodd,—

"Pwy bynnag a fynno ganlyn Arthur, bydded heno yng Nghernyw gydag ef. A'r hyn ni fynno, bydded yn erbyn Arthur hyd ddiwedd yr heddwch."

 A chan faint y cynnwrf hwnnw a wnaeth Rhonabwy. A phan ddeffrodd yr oedd ar groen y dyniawed melyn, wedi cysgu o hono dair nos a thri dydd.

A'r ystori hon a elwir "Breuddwyd Rhonabwy." A llyma y rheswm na wyr neb ei freuddwyd, na bardd na dewin, heb lyfr, o achos cynifer lliw a oedd ar y meirch, a hynny o amryw liw odidog ar yr arfau, ac ar y gwisgoedd, ac ar y llenni gwerthfawr a'r meini rhinweddol.