Mabinogion J M Edwards Cyf 2/Lludd a Llefelys

Oddi ar Wicidestun
Breuddwyd Rhonabwy Mabinogion J M Edwards Cyf 2

gan John Morgan Edwards

Hanes Taliesin


LLUDD A LLEFELYS

——————

I'R Beli Mawr fab Manogan y bu tri mab, —Lludd a Chaswallon, a Nynyaw; ac yn ol traddodiad, pedwerydd mab oedd iddo, un Llefelys. Ac wedi marw Beli, a syrthio teyrnas Ynys Prydain i law Lludd, ei fab, yr hynaf, a llywio ei golud  hi yn llwyddiannus, adnewyddodd Lludd furiau Llundain, ac a'i hamgylchodd â thyrau dirifedi. Ac wedi hynny, gorchymynnodd i'r dinaswyr adeiladu tai ynddi, fel na bai yn y teyrnasoedd dai cyfurdd ag a fai ynddi hi. Ac ynghyd â hynny, ymladdwr da oedd, a hael a helaeth y rhoddai fwyd a diod i'r neb a'u ceisiai. Ac er fod llawer o gaerau a dinasoedd iddo, hon a garai yn fwy na'r un; ac yn honno y preswyliai y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Ac wrth hynny y gelwid hi Caerludd, ac o'r diwedd Caer Llundain. Ac wedi dyfod estron genedl iddi y gelwid hi Llundain, neu ynte Lwndrys.

Mwyaf ef frodyr y carai Lludd Lefelys, canys gŵr call a doeth oedd. Ac wedi clywed marw brenin Ffrainc heb adael etifedd iddo ond un ferch, a gadael ei gyfoeth yn llaw honno, daeth at Ludd ei frawd i ofyn cyngor a chymorth ganddo,— ac nid yn fwyaf er lles iddo ef ei hun, ond er ceisio ychwanegu anrhydedd, ac urddas, a theilyngdod i'w genedl,—a allai fyned i deyrnas Ffrainc i ofyn y ferch honno yn wraig iddo. Ac yn y lle, ei frawd a gydsyniodd âg ef, a bu da ganddo ei gyngor ar hynny.

Ac yn y lle paratoi llongau a'u llanw o farchogion arfog, a chychwyn parth â Ffrainc a wnaethant. Ac wedi disgyn o'r llongau, anfon cenhadau a wnaethant i fynegi i wyr da Ffrainc ystyr y neges y daeth i'w cheisio. Ac o gyd—gyngor, rhoddodd gwŷr da Ffrainc a'i thywysogion y ferch i Lefelys, a choron y deyrnas gyda hi. Ac wedi hynny llywiodd Llefelys ei gyfoeth yn gall a doeth, ac yn ddedwydd hyd tra parhaodd ei oes.

Ac wedi llithro talm o amser, tair gormes a ddigwyddodd yn Ynys Prydain na welodd neb o'r ynysoedd gynt  eu cyfryw. Cyntaf o honynt oedd rhyw genedl a ddaeth a elwid y Coraniaid, a chymaint oedd eu gwybod fel nad oedd ymadrodd dros wyneb yr ynys—er ised y dywedid ef— os cyffyrddai'r gwynt âg ef, nas gwyddent. Ac wrth hynny ni ellid gwneyd drwg iddynt.

Yr ail ormes oedd,—gwaedd a ddodid bob nos Calan Mai uwch pob aelwyd yn Ynys Prydain. A honno a ai trwy galonnau y dynion, ac a'u dychrynnai yn gymaint fel y collai y gwŷr eu lliw a'u nerth. A'r meibion a'r merched a gollent eu synhwyrau. A'r holl anifeiliaid, a'r coed, a'r ddaear, a'r dyfroedd a wneid yn ddiffrwyth. Trydydd ormes oedd,—pa faint bynnag o wledd ac arlwy a baratoid yn llysoedd y brenin, er fod yno arlwy blwyddyn o fwyd a diod, ni cheid byth ddim o hono ond a dreulid yr un nos gyntaf.

Gwyddid ystyr yr ormes gyntaf, ond nid oedd neb a wyddai pa ystyr oedd i'r ddwy ormes eraill. Ac wrth hynny, mwy gobaith oedd cael gwared o'r gyntaf nag oedd o'r ail neu o'r drydedd.

Oherwydd hynny, Lludd frenin a gymerth bryder mawr a gofal am na  Fel y wyddai pa ffordd y caffai ymgofynnodd wared rhag y gormesoedd hynny. A galw ato a wnaeth holl wyr da ei gyfoeth, a gofyn cyngor iddynt pa beth a wnelent yn erbyn y gormesoedd hynny. Ac yn ol cyngor ei wyr da aeth Lludd fab Beli at Lefelys ei frawd, frenin Ffrainc, i geisio cyngor ganddo. Canys gŵr mawr ei gyngor a doeth oedd hwnnw.

Ac yna paratoi llynges a wnaethant, a hynny yn ddirgel ac yn ddistaw, rhag gwybod o'r genedl honno ystyr y neges, na neb arall oddi eithr y brenin a'i gynghorwyr. Ac wedi i'r llongau fod yn barod hwy a aethant ynddynt,—Lludd a'i gyfeillion gydag ef. A dechreu rhwygo y moroedd parth â Ffrainc a wnaethant.

A phan ddaeth y chwedlau hynny at Lefelys, canys ni wyddai achos llynges ei frawd, daeth yntau o'r parth arall yn ei erbyn ef â llynges ganddo, ddirfawr ei maint. Ac wedi gweled o Ludd hynny, efe a adawodd ei holl longau allan ar y weilgi, oddi eithr un long; ac yn yr un honno yr aeth i gyfarfod ei frawd. Ac wedi eu dyfod at eu gilydd, rhoddasant eu dwylaw am yddfau y naill y naill, ac o frawdol gariad pob un o honynt a groesawodd eu gilydd.

 Ac wedi mynegi o Ludd i'w frawd ystyr ei neges, Llefelys a ddywedodd y gwyddai ef ei hun ystyr dyfodiad y gormesau i'r gwledydd hynny. Yna cymerasant gyd-gyngor i ymddiddan am eu negeseu yn wahanol i hynny,—megys nad elai y gwynt a'u hymadroddion rhag gwybod o'r Coraniaid a ddywedent.

Ac yna y parodd Llefelys wneuthur corn hir o efydd, a siarad trwy y corn hwnnw. A pha ymadrodd bynnag a ddywedai yr un o honynt wrth eu gilydd trwy y corn, ni chlywai yr un o honynt ond ymadrodd go atcas croes. Ac wedi gweled o Lefelys

hynny, a bod y cythrael yn eu llesteirio, ac yn terfysgu drwy y corn, perodd yntau ddodi gwin yn y corn a'i olchi, a thrwy rinwedd y gwin gyrru'r cythrael o'r corn.

Ac wedi bod eu hymadrodd yn ddilestair y dywedodd Llefelys wrth ei frawd y rhoddai iddo ryw bryfaid, a'i fod i gadw rhai o honynt yn fyw i hilio,—rhag ofn i'r ormes honno ddod o ddamwain eilwaith—a chymeryd eraill a'u briwio mewn dwfr. A chadarnhai Llefelys fod hynny'n dda i ddistrywio cenedl y Coraniaid. Nid amgen, pan elai adref i'w deyrnas, iddo gasglu yr holl bobl i gyd,—ei genedl ef a chenedl y Coraniaid,—i'r un cyfarfod, dan yr esgus o wneyd heddwch rhyngddynt. A phan fai pawb o honynt ynghyd, iddo gymeryd y dwfr rhinweddol hwnnw a'i fwrw ar bawb` yn gyffredin. A chadarnhai Llefelys y gwenwynai y dwfr hwnnw genedl y Coraniaid, ac na laddai ac na niweidiai neb o'i genedl ei hun.

"Yr ail ormes," ebe Llefelys, "sydd yn dy gyfoeth di—draig yw honno. A draig o estron genedl arall sydd yn ymladd â hi, ac yn ceisio ei gorchfygu. Ac wrth hynny y dyd eich draig chwi waedd angerddol. Ac fel hyn y galli gael gwybod hynny,—pan eli adref, par fesur yr ynys o'i hyd a'i lled, ac yn y lle y cei di y pwynt perfedd, par dorri twll yn y lle hwnnw. Ac yn y twll hwnnw  par ddodi cerwynied o'r medd goreu a aller ei wneuthur, a llen o bali ar wyneb y cerwyn. Ac a'r yno bydd dy hun yn gwylio, a thi a weli y dreigiau yn ymladd yn rhith anifeiliaid aruthr. Ac o'r diwedd byddant yn rhith dreigiau yn yr awyr. Ac yn ddiweddaf oll, wedi iddynt flino'n ymladd yn angerddol ac enbyd, hwy a syrthiant yn rhith dau barchell ar y llen, ac a suddant yn y llen gan ei thynnu hyd i waelod y cerwyn. Ac yfant y medd i gyd, ac wedi hynny cysgant. Ac yna, ar unwaith, plyga dithau y llen am danynt; ac yn y lle cadarnaf a geffi yn dy gyfoeth cladd hwy mewn cist faen, a chudd yn y ddaear. A hyd tra bont hwy yn y lle cadarn hwnnw, ni ddaw gormes i Ynys Prydain o le arall."

"Achos y trydydd ormes yw," ebe Llefelys, "gŵr lledrithiog cadarn sydd yn dwyn dy fwyd, a'th ddiod, a'th wledd. Trwn yw ei hud, a'i ledrith a bâr i bawb gysgu. Ac am hynny y mae yn rhaid i tithau dy hun wylio dy wleddoedd a'th arlwyau. A rhag gorfod o'i gysgu ef arnat, boed cerwynied o ddwfr oer ger dy law; a phan fo cysgu yn treisio arnat, dos i fewn i'r cerwyn.'

 Ac yna dychwelodd Lludd drachefn i'w wlad. Ac yn ebrwydd y cynullodd ato bawb yn llwyr o'i genedl ef ac o'r Coraniaid. Ac megys y dysgodd Llefelys iddo, briwio y pryfed a wnaeth yn y dwfr, a bwrw hwnnw yn gyffredin ar bawb. Ac yn ebrwydd y difethwyd felly holl wyr y Coraniaid heb niweidio neb o'r Brytaniaid.

Ac ymhen ysbaid wedi hynny Lludd a

barodd fesur yr Ynys ar ei hyd ac ar ei lled. Ac yn Rhydychen y cafwyd y pwynt perfedd. Ac yn y lle hwnnw y parodd dorri twll yn y ddaear, a gosod yn y twll hwnnw gerwyn yn llawn o'r medd goreu a allwyd ei wneuthur, a llen o bali ar ei wyneb. A Lludd ei hun a'i gwyliodd y nos honno. Ac fel yr oedd felly, efe a welai y dreigiau yn ymladd. Ac wedi blino o honynt, a diffygio, hwy a syrthiasant ar warthaf y llen nes ei thynnu ganddynt i waelod y cerwyn. Ac wedi iddynt yfed y medd, cysgu a wnaethant. Ac yn eu cwsg, Lludd a blygodd y llen am danynt, ac a'u dygodd i'r lle diogelaf a gafodd yn Eryri mewn cist faen. A galwyd y lle hwnnw wedi hynny, Dinas Emrys. Cyn hynny Dinas Ffaraon Dande oedd ei enw.

Ac felly y peidiodd y waedd ofnadwy oedd yn ei gyfoeth.

Ac wedi darfod hynny, Lludd Frenin a barodd arlwy gwledd ddirfawr ei maint. Ac wedi ei bod yn barod, gosododd gerwyn yn  llawn o ddwfr oer ger ei law. Ac efe ei hun a'i gwyliodd. Ac fel yr oedd felly yn wisgedig o arfau, oddeutu'r drydedd wylfa o'r nos, wele, clywai lawer o ddiddanau godidog, ac amryw gerddau, a hûn yn ei gymell yntau i gysgu. Ac ar hynny, beth wnaeth Lludd rhag ei rwystro ar ei amcan, a rhag i hûn ei orthrymu, ond mynd yn fynych i'r dwfr. Ac yn y diwedd, wele ŵr dirfawr ei faint, yn wisgiedig o arfau trymion cadarn, yn dyfod i fewn, a chawell ganddo, ac megis yr arferai, rhoddodd yr holl ddanteithion a'r arlwy o fwyd a diod yn ei gawell. Ac yna cychwynnodd âg ef ymaith. Ac nid oedd dim rhyfeddach gan Ludd nac fod ei gawell yn cario cymaint a hynny. Ac ar hynny Lludd Frenin a gychwynnodd ar ei ol, ac a ddywedodd wrtho fel hyn,-

"Aros, aros," ebe ef, "er i ti wneyd llawer o golledion a sarhad cyn hyn, ni wnei ychwaneg oni farn dy filwriaeth dy fod yn drech ac yn ddewrach ymladdodd na mi."

Ac yn ebrwydd yntau a ddodes y cawell ar y llawr, ac arhosodd i Ludd ddod ato. Ac angerddol ymladd a fu rhyngddynt onid oedd tân llachar yn ehedeg o'u harfau. Ac o'r diwedd, ymafael a wnaeth Lludd ynddo, a'r dynged-faen a roddodd y fuddugoliaeth i Ludd, gan fwrw yr ormes rhyngddo a'r ddaear. Ac wedi gorfod arno o rym ac angerdd, gofyn nawdd Lludd a wnaeth.

"Pa wedd," ebe y brenin, "y gallaf fi roddi nawdd i ti wedi yr holl golledion a'r sarhad a wnaethost di i mi?"

"Dy holl golledion eriocd," ebe yntau, a wnaethum i ti, mi a'u henillaf it gystal ag y dygais hwy. Ac ni wnaf y cyffelyb o hyn allan, a gŵr ffyddlawn fyddaf i ti bellach."

A'r brenin a gymerth hynny ganddo. Ac felly y gwaredodd Lludd y tair gormes oddi ar Ynys Prydain. Ac o hynny hyd ddiwedd ei oes mewn heddwch llwyddiannus y llywiodd Lludd fab Beli Ynys Prydain. A'r chwedl hon a elwir Cyfranc Lludd a Llefelys. Ac felly y terfyna.