Mabinogion J M Edwards Cyf 2/Hanes Taliesin

Oddi ar Wicidestun
Lludd a Llefelys Mabinogion J M Edwards Cyf 2

gan John Morgan Edwards


HANES TALIESIN

GWR bonheddig oedd gynt ym Mhenllyn elwid Tegid Foel, a'i drefdadaeth oedd yng nghanol Llyn Tegid. A'i briod wraig a elwid Ceridwen. Ac o'r wraig honno y ganed mab a elwid Morfran ab Tegid, a merch a elwid Greirfyw,—a thecaf merch yn y byd oedd honno. A brawd iddynt hwy oedd y dyn hagraf  yn y byd,—Afagddu. Am hynny Ceridwen ei fam a feddyliodd nad oedd ef debyg i gael ei gynnwys ymhlith bonheddigion am ei fod mor hagr, oni feddai ryw gampau neu wybodau urddasol. Canys yn nechreuad Arthur a'r ford gron yr oedd hynny.

Ac yna yr ordeiniodd hi trwy gelfyddyd llyfrau fferyllydd i ferwi pair o Awen a Gwybodau i'w mhab, fel y byddai urddasach ei gymeriad am ei wybodau am y byd na neb.

Ac yna y dechreuodd hi ferwi y pair, yr hwn wedi y dechreuid ei ferwi ni ellid torri y berw hyd dan ben un dydd a blwyddyn, ac om cheffid tri defnyn bendigedig o rad yr ysbryd. A Gwion Bach, mab Gwreang o Lanfair yng Nghaer Einion ym Mhowys, a roes hi i amodi y pair, a dall a elwid Morda i gynneu y tân dan y pair. A gorchymyn  roddodd na adawai i'r berw dorri hyd pan ddelai undydd a blwyddyn.

A hithau, Ceridwen, drwy lyfrau astronomyddion ac wrth oriau y planedau, oedd yn llysieua beunydd o bob amryfael lysiau rhinweddol. Ac fel yr oedd Ceridwen un dydd yn llysieua yn agos i ben blwyddyn, y damweiniodd neidio a syrthio o dri defnyn o'r dŵr rhinweddol o'r pair ar fys Gwion Bach. Gan fod ei fys mor boeth, tarawodd ef yn ei ben, a chan gynted ac y tarawodd y defnynnau gwerthfawr hynny yn ei ben, gwyddai bob peth a ddigwyddai. Ac efe a adnabu yn union mai mwyaf gofal iddo ef oedd dial  Ceridwen, canys mawr oedd ei gwybodau. A rhag dirfawr ofn, efe a ffodd tua'i wlad. A'r pair a dorrodd yn ddau hanner, fel y gwenwyn- wyd meirch Gwyddno Garanhir am iddynt yfed y dŵr o'r aber y rhedodd y dŵr o'r pair iddi, oherwydd y dŵr i gyd oedd wenwynig oddi eithr y tri defnyn rhinweddol. Ac am hynny y gelwir yr aber o hynny allan Gwenwyn feirch Gwyddno.

Ac ar hynny daeth Ceridwen i fewn, ac wrth weled ei llafur er ys blwyddyn yn golledig, tarawodd y dall Morda ar ei ben oni aeth un o'i lygaid ar ei rudd. Sef y dywed ynte,

"Drwg i'm hanffurfiaist, a minnau'n ddiniwaid; ni buost golledig o'm hachos i."

"Gwir a ddywedaist," ebe Ceridwen,

"Gwion Bach a'm hysbeiliodd i."

A chyrchu ar ei ol dan redeg a wnaeth.

A'i chanfod hithau a wnaeth Gwion Bach,

 ac a ymrithiodd yn rhith ysgyfarnog a rhedodd. Rhithiodd Ceridwen yn filast, ac ymlidiodd ef tuag afon. Yna Gwion Bach a ymrithiodd yn bysgodyn, a hithau a ymrithiodd yn ddyfrast, ac a'i ceisiodd ef dan y dwfr, oni fu raid iddo ymrithio'n aderyn i'r wybr. Hithau a rithiodd yn walch i'w ymlid, ac ni adawodd iddo lonydd yn y wybr; a phan oedd yn ei ddal—ac yntau âg ofn angau arno, efe a ganfu dwr o wenith nithiedig ar lawr ysgubor, a disgynnodd i'r gwenith, ac a ymrithiodd yn rhith un o'r grawn. Ac yna ymrithiodd Ceridwen yn iar ddu gopog, ac i'r gwenith yr aeth, ac â'i thraed ei grafu a'i adnabod ef, a'i lyucu.

Ac fel y dywed yr ystori, ymhen y naw mis ganwyd mab iddi, ac ni allai ei ladd gan mor deg oedd. Ond rhoddodd ef mewn llestr croen, ac a'i bwriodd i'r môr y nawfed ar hugain o Ebrill.

Ac yn yr amser hwnnw yr oedd cored Gwyddio yn y traeth rhwng Dyfi ac Aber— ystwyth, gerllaw ei gastell ei hun. Ac yn y rhwyd honno y ceid cywerth can punt bob nos Galanmai.

Ac yn yr amser hwnnw yr oedd un mab i Wyddno a elwid Elphin, un o'r rhai mwyaf diwaith o'r ieuenctid, a mwyaf o eisiau arno. Ac fel yr oedd felly, tybiai ei dad ei eni ar awr ddrwg. Ac am iddo ofyn yn daer, rhoddodd ei dad iddo dyniad y rhwyd y flwyddyn honno, i edrych a ddamweiniai iddo ras byth, ac i ddechreu gwaith iddo. A thrannoeth edrychodd Elphin, ond nid oedd dim ynddi; ond wrth fynd i ffordd canfu y llestr croen ar bolyn y rhwyd. Yna y dywedodd un o'r rhwydwyr wrth Elphin,—

 "Ni buost ti anhapus erioed hyd heno, canys ti a dorraist arferiad y rhwyd yn yr hon y ceid ynddi werth can punt bob nos Galanmai, ac nid oedd heno namyn y croenyn hwn."

"Beth yn awr," ebe Elphin, "feallai fod yma gyfwerth can punt o dda?"

Datod y croen a wnaethpwyd, a chanfod o'r agorwr dalcen mab, ac a ddywedodd wrth Elphin,—

"Llyma dal iesin!"

"Taliesin boed ef," eb yr Elphin, a dyrchafodd y mab rhwng ei ddwylo, gan. gwyno anhap iddo, ac a'i cymerodd yn brudd, a gwnaeth i'w farch, oedd o'r blaen yn tuthio, gerdded yn araf, ac arweiniai ef mor esmwyth a phetai yn eistedd mewn cadair esmwythaf yn y byd.

Ac yn fuan ar ol hynny y gwnaeth y mab Taliesin gân o foliant i Elphin, a phroffwyd— odd urddas iddo. Daeth Elphin â Thaliesin ganddo i lys Gwyddno ei dad. A gofynnodd Gwyddno iddo,—

"Ai da y caffaeliad yn y rhwyd?"

Yntau a ddywedodd wrtho gaffael peth oedd well na physgod.

"Beth oedd?" ebe Gwyddno.

"Bardd," ebe yntau, Elphin.

Yna y dywedodd Gwyddno,—

"Och druan! Beth a dâl hwnnw i ti?" Yna yr atebodd Taliesin ei hunan, ac ddywedodd,—

"Ef a dâl hwn iddo ef fwy nag a dalodd y rhwyd erioed i ti."

Yna y gofynnodd Gwyddno iddo, —

 "A fedri di ddywedyd, a chyn fychaned ag wyt?"

Yna yr atebodd yntau, Taliesin, ac a ddywedodd,—

"Medraf fi ddywedyd mwy nag a fedri di ofyn i mi."

Yn y man rhoddodd Elphin ei guffaeliad i'w wraig briod, yr hon a'i magodd ef yn gu ac yn anwyl. Ac o hynny allan yr amlhaodd golud Elphin well well bob dydd ar ol eu gilydd, ac o gariad a chymeriad gyda'r brenin.

Ac yno y bu Taliesin onid oedd yn dair ar ddeg oed. Yna yr aeth Elphin ab Gwyddno ar wadd Nadolig at Faelgwn Gwynedd ei ewyth, yr hwn, ymhen ychydig amser wedi hyn, oedd yn cynnal llys agored o fewn Castell Deganwy ar amser Nadolig.  A'i holl amlder arglwyddi o bob un o'r ddwy radd—ysbrydol a bydol,—oedd yno, gyda lliaws mawr o farchogion ac ysweiniaid, ymhlith y rhai y cyfodai ymddiddan trwy ymofyn a dywedyd fel hyn,—

"A oes yn yr holl fyd frenin mor gyfoethog a Maelgwn—wedi i'r Tad o'r nef roddi cymaint o eiddo iddo ag a roddodd Duw iddo o roddion ysbrydol? Yn gyntaf, —pryd a gwedd, ac addfwynder a nerth, heblaw cwbl o alluoedd yr enaid." A chyda y rhoddion hyn, hwy a ddywedent fod y Tad wedi rhoddi iddo ef un rhodd ragorol,— yr hon, yn wir, a basiai y rhoddion eraill i gyd, yr hyn sydd i'w draethu ym mryd a gwedd ac ymddygiad a doethineb a diweirdeb ei frenhines. Yn y rhinweddau yr oedd hi yn rhagori ar holl arglwyddesau a merched bonheddigion yr holl ynys. Pwy ddewrach ei wyr? Pwy decach a buanach ei feirch a'i filgwn? Pwy gyfarwyddach a doethach ei feirdd na Maelgwn? Y rhain yn yr amser yna a gymerid mewn cymeriad mawr ymhlith ardderchogion y deyrnas. Ac yn yr amser yna ni wneid neb o swydd y  rhai heddyw elwir herald onid gwyr dysgedig, nid yn unig mewn gwasanaeth brenhinoedd a thywysogion, ond yn hyddysg am arfau a gweithredoedd brenhinoedd a thywysogion o hynafiaid y deyrnas hon yn ogystal a theyrnasoeedd dieithr,— yn enwedig hanes y tywysogion pennaf. Hefyd yr oedd yn rhaid i bawb o honynt fod yn barod eu hatebiad mewn amryw ieithoedd, Lladin, Ffrancaeg, Cymraeg, Saesneg. A chyda hyn yn ystoriawr mawr, ac yn gofiadur da, ac yn gelfydd mewn prydyddiaeth i fod yn barod i wneuthur englynion mydr ymhob un o'r ieithoedd hynny. Ac o'r rhai hyn yr oedd yn yr wyl hon yn Llys Maelgwn gymaint a phedwar ar hugain, ac yn bennaf ar y rhain yr hwn a enwid Heinin Fardd. Felly, wedi darfod o bawb foliannu'r brenin a'i ddoniau, fe a ddigwyddodd i Elphin ddywedyd fel hyn,— "Yn wir, nid oes neb yn abl i gystadlu â brenin ond brenin. Eithr yn wir oni bai ei fod ef yn frenin, myfi a ddywedwn fod i mi un bardd sydd gyfarwyddach na holl feirdd y brenin."

Dig iawn oedd y beirdd eraill wrth Elphin. A gorchymynnodd y brenin roddi Elphin mewn carchar cadarn, oni ddarffai iddo wybodaeth am ei fardd ef. Yna rhoddwyd Elphin mewn tŵr o'r castell a gefyn mawr am ei draed, a dywedir mai gefyn arian oedd, am ei fod o waed brenhinol.

Dywedodd Talicsin wrth ei feistres ei fod yn myned i ryddhau Elphin. Ac aeth tua Llys Maelgwn. A phan ddaeth i'r neuadd canfu le disathr gerllaw y man y deuai y beirdd a'r gler i fewn i wneuthur eu gwas- anaeth a'u dyled i'r brenin. Ac felly yr amser a ddaeth i'r beirdd ddyfod i ganu clod a gallu y brenin a'i nerth, a daethant heibio y man yr oedd Taliesin yn crwcian mewn cornel, yr hwn a estynnodd ei wefl ar eu hol hwynt, gan chwareu blerwin blerwm â'i fys ar ei wefl. Ond ni ddaliasant hwy fawr sylw arno, ond cerdded yn eu blaen hyd nes y daethant gerbron y brenin, i'r hwn y gwnaethant hwy eu moes â'u cyrff, megis yr oedd yn ddyledus iddynt hwy i wneuthur, heb ddweyd yr un gair o'u pennau onid estyn eu gweflau a mingamu ar y brenin drwy chwareu blerwm blerwm â'u bysedd, ar eu gwellau, megis ag y gwelsent hwy y bachgen yn ei wneuthur o'r blaen. Yr olwg a wnaeth i'r brenin gymeryd rhyfeddod a syndod ynddo ei hun eu bod hwy wedi meddwi. Felly gorchymynnodd i un o'r arglwyddi oedd yn gwasanaethu ar ei ford ef i fynd atynt, ac erchi iddynt alw i'w cof a'u myfyrdod a meddwl y man yr oeddynt yn sefyll, a beth a ddylent hwy ei wneuthur. Hyn a wnaeth yr arglwydd yn llawen; ond ni bu iddynt beidio â'u gorwagedd. Felly anfonodd ef eilwaith a'r drydedd waith i erchi iddynt hwy fynd allan o'r neuadd. O'r diwedd archodd y brenin i un o'r ysweiniaid roddi dyrnod i'r pennaf o honynt, y neb a elwid Heinin Fardd. A'r yswain a'i tarawodd ef yn ei ben oni syrthiodd yn ei eistedd. Yna cyfododd ar ei liniau, a gofynnodd ras y brenin a'i geunad i ddangos iddo ef nad oedd y diffyg hwnnw arnynt o nag eisiau gwybodaeth nag o feddwdod, ond o rinwedd rhyw ysbryd oedd yn y neuadd; ac yna dywedodd Heinin,—

"O frenin anrhydeddus, bid hysbys i'ch gras chwinado angerdd gormod gwirodau yr ydym yn fudion heb allu ymddiddan, fel dynion meddwon, ond o rinwedd ysbryd sydd yn eis— tedd yn y gornel acw ar swm bach o ddyn.

Yna gorchymynnodd y brenin i yswain ei gyrchu ef; yr hwn a aeth i'r gilfach yr oedd Taliesin yn eistedd, ac a'i dygodd ef gerbron y brenin. Gofynnodd y brenin iddo pa beth ydoedd, ac o ba le y daethai.

 Atebodd Taliesin ar gân. A phan glybu y brenin a'i urddasolion, synnu yn fawr a wnaethant, ac ni chlywsent o ben bachgen ei fychaned a Taliesin ellid ei debygu i'r gân hon. phan wybu y brenin mai bardd Elphin oedd ef, erchi a wnaeth ef i Heinin, ei fardd pennaf a doethaf, ddyfod ac ateb i Daliesin, ac ymorchestu âg ef. Ond pan ddaeth yno, nis gallai amgen na chware blerwm ar ei wefl. A phan ddanfonwyd y rhai eraill o'r pedwar ar hugain beirdd, yr un peth a wnaethant, am na allent yn amgen.

Yna y gofynnodd Maelgwn i'r bachgen Taliesin pa beth oedd ei neges yno. Atebodd Taliesin ar gân mai dod i ryddhau Elphin a wnaeth. Daeth yn ystorm o wynt aruthr, a gorchymynnodd Maelgwn ddwyn Elphin o'r carchar. Canodd Taliesin gân arall, nes agori o'r gefyn oddi am draed ei feistr, Elphin.


DIWEDD