Neidio i'r cynnwys

Mae'r orsedd fawr yn awr yn rhydd

Oddi ar Wicidestun
← Ti, Iesu, ydwyt, oll dy Hun Mae'r orsedd fawr yn awr yn rhydd

gan William Williams, Pantycelyn

Mi dafla' 'maich oddi ar fy ngwar →
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

102[1] Ffordd at yr Orsedd.
M. C.

1.MAE'R orsedd fawr yn awr yn rhydd,
Gwrandewir llais y gwan;
Wel, cyfod bellach, f'enaid prudd,
Anadla tua'r lan.

2.Wel, anfon eirchion amal rif,
I mewn i byrth y nef;
Gwrandewir pob amddifad gri
Yn union ganddo Ef.


3.Myfi anturia'n awr ymlaen,
Heb alwad is y ne',
Ond bod perffeithrwydd mawr y groes
Yn ateb yn fy lle.

4.Calfaria fryn yw'r unig sail
Adeilaf arno mwy;
A gwraidd fy nghysur fyth gaiff fod
Mewn dwyfol farwol glwy'.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell

[golygu]
  1. ↑ Emyn rhif 102, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930