Mi dafla' 'maich oddi ar fy ngwar

Oddi ar Wicidestun
Mae'r orsedd fawr yn awr yn rhydd Mi dafla' 'maich oddi ar fy ngwar

gan William Williams, Pantycelyn

Ni all angylion pur y nef
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

103[1] Y Groes a'r Eiriolaeth.
M. C.

1.MI dafla' 'maich oddi ar fy ngwar
Wrth deimlo dwyfol loes;
Euogrwydd fel mynyddoedd byd
Dry'n ganu wrth dy groes.

2.Os edrych wnaf i'r dwyrain draw,
Os edrych wnaf i'r de,
Ymhlith a fu, neu ynteu ddaw,
'D oes debyg iddo Fe.

3.Fe roes ei ddwylo pur ar led,
Fe wisgodd goron ddrain,
Er mwyn i'r brwnt gael bod yn wyn
Fel hyfryd liain main.

4.Esgyn a wnaeth i entrych nef
I eiriol dros y gwan;
Fe sugna f'enaid innau'n lân
I'w fynwes yn y man.

5.Ac yna caf fod gydag Ef
Pan êl y byd ar dân,
Ac edrych yn ei hyfryd wedd,
Gan' harddach nag o'r blaen.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 1, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930