Ni all angylion pur y nef
Gwedd
← Mi dafla' 'maich oddi ar fy ngwar | Ni all angylion pur y nef gan William Williams, Pantycelyn |
Ni feddaf ar y ddaear fawr → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
104[1] Rhinwedd Dwyfol Glwyf.
M. C.
1.NI all angylion pur y nef,
Â'u doniau amal hwy,
Fyth osod allan werthfawr bris
Anfeidrol ddwyfol glwy'.
2.Dioddefodd angau, dygyn boen,
A gofir tra fo'r nef;
Fy nerth, fy nghyfoeth i a'm braint,
A'm noddfa lawn yw Ef.
3.Fe'm denodd i, yn ddirgel iawn
A distaw, ar ei ôl;
Ac mewn afonydd dyfnion llawn,
Cymerodd fi'n ei gôl.
4.Na foed fy mywyd bellach mwy
Yn eiddo i mi fy hun;
Ond treulier fy munudau i gyd
Yn glod i'm Harglwydd cun.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 104, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930