Neidio i'r cynnwys

Ni feddaf ar y ddaear fawr

Oddi ar Wicidestun
Ni all angylion pur y nef Ni feddaf ar y ddaear fawr

gan William Williams, Pantycelyn

Ni fethodd gweddi daer erioed
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

105[1] Iesu'r Trysor Pennaf.
M. C.

1.NI feddaf ar y ddaear fawr,
Ni feddaf yn y ne',
Neb ag a bery'n annwyl im,
Yn unig ond Efe.

2.Mae ynddo'i Hunan drysor mwy
Nag sy'n yr India lawn;
Fe brynodd imi fwy na'r byd
Ar groesbren un prynhawn.

3.Fe brynodd imi euraid wisg,
Trwy ddioddef marwol glwy';
A'i angau Ef a guddia 'ngwarth
I dragwyddoldeb mwy.


4.O! na allwn rodio er ei glod,
Ac iddo bellach fyw,
A phob anadliad fynd i maes
I ganmol gras fy Nuw.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 105, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930