Mae 'nghyfeillion wedi myned

Oddi ar Wicidestun
Mae 'nghyfeillion wedi myned

gan William Williams, Pantycelyn

O! anfeidrol rym y cariad

689[1] Cynnal wrth farw.
87. 87. D.

1 MAE 'nghyfeillion wedi myned
Draw yn lluoedd yn y blaen,
Rhai fu'n mynd trwy ddyffryn Bacca
Gyda mi tua Salem lân;
Yn y dyffryn tywyll garw,
Ffydd i'r lan a'u daliodd hwy;
Mae'r addewid lawn i minnau:
Pam yr ofna f'enaid mwy?


William Williams, Pantycelyn



Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 689, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930