O! anfeidrol rym y cariad

Oddi ar Wicidestun
Mae 'nghyfeillion wedi myned O! anfeidrol rym y cariad

gan Dafydd Wiliam, Llandeilo Fach

690[1] Gorfoledd y Credadun yn Angau.
87. 87. D.

1 O! ANFEIDROL rym y cariad,
Anorchfygol ydyw'r gras;
Digyfnewid yw'r addewid,
A bery byth o hyn i maes;
Hon yw f'angor ar y cefnfor,
Na chyfnewid meddwl Duw;
Fe addawodd na chawn farw,
Yng nghlwyfau'r Oen y cawn i fyw.

2 Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau,
Nid oes neb a ddeil fy mhen
Ond fy annwyl Briod Iesu,
A fu farw ar y pren:
Cyfaill yw yn afon angau,
Ddeil fy mhen i uwch y don:
Golwg arno wna i mi ganu
Yn yr afon ddofon hon.

Dafydd Wiliam, Llandeilo Fach



Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 690, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930