Neidio i'r cynnwys

Mae haeddiant mawr rhinweddol waed fy Nuw

Oddi ar Wicidestun
O! Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd Mae haeddiant mawr rhinweddol waed fy Nuw

gan John Elias


wedi'i gyfieithu gan [[:Categori:Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930|Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930]]
Y bugail mwyn o'r nef a ddaeth i lawr

232[1] Prynedigaeth trwy Waed Crist
10. 10. 10. 10.

1 MAE haeddiant mawr rhinweddol waed fy Nuw
Yn llawer mwy na'r pechod gwaetha'i ryw:
Ceir maddau myrdd o'r beiau mwyaf gaed,
A'r euog brwnt a gennir yn y gwaed.

2 O'm pen i'm traed, anhraethol aflan wyf;
Nid oes lanhad ond yn ei farwol glwyf;
Y ffynnon hon agorwyd ar y bryn,
Er dued wyf, a'm gylch yn hyfryd wyn.

John Elias


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 232, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930