Y bugail mwyn o'r nef a ddaeth i lawr
Gwedd
← Mae haeddiant mawr rhinweddol waed fy Nuw | Y bugail mwyn o'r nef a ddaeth i lawr gan David Charles (1762-1834) |
D oes eisiau'n bod, nac ofn, na chlais, na chlwy' → |
233[1] Y Bugail Da
10. 10. 10. 10.
1 Y BUGAIL mwyn o'r nef a ddaeth i lawr,
I geisio'i braidd trwy'r erchyll anial mawr;
Ei fywyd roes yn aberth yn eu lle,
A'u crwydrad hwy ddïalwyd arno Fe.
2 O'm crwydrad o Baradwys daeth i'm hôl,
Yn dirion iawn fe'm dygodd yn ei gôl;
'Does neb a ŵyr ond Ef, y Bugail mawr,
Ba faint fy nghrwydro o hynny hyd yn awr.
3 Â'i hyfryd lais fe'm harwain yn y blaen;
Cydymaith ydyw yn y dŵr a'r tân;
Rhag pob rhyw ddrwg, yn nyffryn angau du,
Pwy arall fydd yn nodded i myfi?
4 Pan af i dref, i'r hyfryd gorlan fry,
Ni chrwydraf mwy oddi wrth fy Mugail cu;
Wrth gofio'r daith, a'i holl ffyddlondeb Ef,
Mi seinia'i glod i entrych nef y nef.
David Charles (1762-1834)
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 233, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930