Mae rhyw fyrdd o ryfeddodau
Gwedd
← Enw Iesu sydd yn werthfawr | Mae rhyw fyrdd o ryfeddodau gan Daniel Jones, Tredegar |
Yn Eden, cofiaf hynny byth → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
215[1] Rhyfeddodau'r Iawn.
87. 87. D.
1 MAE rhyw fyrdd o ryfeddodau,
Iesu, yn dy farwol glwy':
Trwy dy loes, dy gur, a'th angau,
Caed trysorau fwy na mwy;
Ni all ceriwb byth, na seraff,
Lawn fynegi gwerth yr Iawn
A roed drosom gan Gyfryngwr
Ar Galfaria un prynhawn.
2 Pwy all fesur maint ei gariad,
A rhinweddau maith ei ras?
Nid angylion, er eu doniau,
Na holl seintiau daear las:
Môr di-drai, heb waelod iddo,
Sydd yn chwyddo byth i'r lan;
Nofia miloedd ynddo'n hyfryd
Draw i'r bywyd yn y man.
Daniel Jones, Tredegar
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 215, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930