Neidio i'r cynnwys

Yn Eden, cofiaf hynny byth

Oddi ar Wicidestun
Enw Iesu sydd yn werthfawr Mae rhyw fyrdd o ryfeddodau

gan William Williams, Pantycelyn

O! Iesu mawr, pwy ond Tydi
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

216[1] Eden a Chalfaria.
886. 886.

1 YN Eden, cofiaf hynny byth,
Bendithion gollais rif y gwlith;
Syrthiodd fy nghoron wiw.
Ond buddugoliaeth Calfari
Enillodd hon yn ôl i mi;
Mi ganaf tra fwyf byw.

2 Ffydd, dacw'r fan, a dacw'r pren,
Yr hoeliwyd arno Dwysog nen,
Yn wirion yn fy lle:
Y ddraig a 'sigwyd gan yr Un,
Cans clwyfwyd dau, concwerodd un,
A Iesu oedd Efe.

William Williams, Pantycelyn


Michelangelo: Y Cwymp a'r Diarddeliad o Eden

Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 216, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930