O! Iesu mawr, pwy ond Tydi
Gwedd
← Mae rhyw fyrdd o ryfeddodau | O! Iesu mawr, pwy ond Tydi gan William Ambrose (Emrys) |
Oll fel yr wyf, heb ddadl i'w dwyn → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
217[1] Ar Fythgofiadwy Fryn
888. 6.
O! IESU mawr, pwy ond Tydi
Allasai farw drosom ni,
A'n dwyn o warth i fythol fri?—
Pwy all anghofio hyn?
2 Doed myrdd ar fyrdd o bob rhyw ddawn
I gydfawrhau d'anfeidrol Iawn-
Y gwaith gyflawnaist un prynhawn
Ar fythgofiadwy fryn.
3 Nid yw y greadigaeth faith,
Na'th holl arwyddion gwyrthiol chwaith,
Yn gytbwys â'th achubol waith-
Yn marw i ni gael byw.
4 Rhyfeddod heb heneiddio mwy
Fydd hanes mawr dy farwol glwy';
Ni threiddia tragwyddoldeb trwy
Ddyfnderau cariad Duw.
William Ambrose (Emrys)
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 217, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930