Neidio i'r cynnwys

Oll fel yr wyf, heb ddadl i'w dwyn

Oddi ar Wicidestun
O! Iesu mawr, pwy ond Tydi Oll fel yr wyf, heb ddadl i'w dwyn

gan Charlotte Elliot


wedi'i gyfieithu gan John Morris-Jones
Ymhlith plant dynion, ni cheir un

218[1] Oll fel yr wyf
888. 6.

1 OLL fel yr wyf, heb ddadl i'w dwyn
Ond iti farw er fy mwyn,
A'th fod yn galw arna'i'n fwyn,
'R wy'n dyfod, addfwyn Oen.

2 Oll fel yr wyf, dan hyrddiau llu
O frwydrau ac amheuon du,
Ymladdau, ofnau, ar bob tu,
'R wy'n dyfod, addfwyn Oen.

3 Oll fel yr wyf, tlawd, dall a gwael,
Iechyd a golwg im i'w cael,
Ac i'm diwallu o'th olud hael,
'R wy'n dyfod, addfwyn Oen.

4 Oll fel yr wyf, Ti ni'm nacái—
Croesewi fi, maddeui 'mai;
Gan gredu yn dy air y gwnai,
'R wy'n dyfod, addfwyn Oen.


5 Oll fel yr wyf (dy gariad fu'n
Symud y rhwystrau bob yr un)
I fod yn eiddot Ti dy Hun,
'R wy'n dyfod, addfwyn Oen.

6 Oll fel yr wyf, tra fwy'n y byd,
Ac yna fry, i brofi " hyd,
Lled, dyfnder, uchder" cariad drud,
'R wy'n dyfod, addfwyn Oen.

Charlotte Elliot,
cyf. John Morris-Jones.

Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 218, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930