Ymhlith plant dynion, ni cheir un
Gwedd
← Oll fel yr wyf, heb ddadl i'w dwyn | Ymhlith plant dynion, ni cheir un gan William Williams, Pantycelyn |
O! na allwn garu'r Iesu → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
219[1] Cariad Crist.
888. 6. D.
1 YMHLITH plant dynion, ni cheir un
Yn ffyddlon fyth fel Iesu'i Hun,
Nid yw ei gariad, megis dyn,
Yn gŵyro yma a thraw;
Ond rhad anfeidrol yw ei ras,
I bechaduriaid cyndyn cas;
A garodd Ef, fe'u dwg i maes
O'u pechod ac o'u braw.
2 Wel dyma'r cariad sydd yn awr
Yn curo pob cariadau i lawr,
Yn llyncu enwau gwael y llawr
Oll yn ei enw'i hun:
O! fflam angerddol gadarn gref
O dân enynnwyd yn y nef;
Tragwyddol gariad ydyw ef
Wnaeth Dduw a minnau'n un.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 219, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930