Neidio i'r cynnwys

Marwnad er coffadwriaeth am y diweddar Barch John Elias/Englynion

Oddi ar Wicidestun
Marwnad John Elias Marwnad er coffadwriaeth am y diweddar Barch John Elias

gan William Williams, Talgarth

ENGLYNION.

Och dristyd ddyfryd ddwyfron!—och geli
Och galed newyddion!
Och eilwaith gorph a chalon!
Och roi'n y bedd mawredd Mon!
—GORONWY OWAIN.[1]

Iawn seraph yn fflamio'r siroedd,—a dyn
O daniad y nefoedd;
Ail Elias addas oedd,
Nodedig enaid ydoedd.

Boanerges, gwres a graid,—aidd enddawd
Oedd ynddo ei lonaid;
Dyrchu bloedd yr oedd o raid
O dân i gadw enaid.
—IAGO TRICHRYG


Nodiadau

[golygu]