Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl/Y Defnydd Da a Wnaeth o'i Beibl

Oddi ar Wicidestun
Gyda Mr Charles, yn llwyddo i gael Beibl Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl

gan Robert Oliver Rees

Ei Zel Genhadol Hi a'i Gwenyn


PENOD VI.—Y defnydd da a wnaeth Mary o'i Beibl wedi ei brynu.

GWNAETH Mary Jones, trwy ei holl fywyd dilynol, ddefnydd da o'r Beibl a brynasai gan Mr. Charles. Yn hollol deilwng o'r zel bron ddigyffelyb a ddangosai am ei feddianu, un o'i phenderfyniadau cyntaf am dano oedd, ei ddarllen oll drwyddo yn rheolaidd, o air i air. Ymroddai yn ddyfalach nag erioed i ddarllen, chwilio, a dysgu allan benodau ei Beibl newydd ei hun. Darllenai ryw gyfran o hono bob dydd y caniatai ei hiechyd a'i hamgylchiadau, trwy y 66 mlynedd y bu fyw wedi ei brynu. Darllenodd ef trwyddo yn rheolaidd bedair gwaith. Dysgodd lyfrau cyfain o hono ar ei chof, megis Llyfr Job, y Salmau, y Diarhebion, Esaiah, Efengyl ac Epistolau Ioan, Epistolau Paul at y Rhufeiniaid a'r Ephesiaid, yr Epistol at yr Hebreaid, ac hefyd Hyfforddwr Mr. Charles ei hun.

Dangosai Mary Jones o'i hieuenctyd zel arbenig o blaid yr Ysgol Sabbothol. Yr oedd yn un o ysgolheigion cyntaf yr ysgol gyntaf yn ei hardal enedigol, a pharhaodd yn aelod ffyddlawn o'r ysgol yn Mryncrug tra y parhaodd ei nerth corfforol i allu cerdded iddi. Nid oedd hyn ond ffrwyth naturiol ei chwaeth arbenig at wybodaeth ysgrythyrol. Yr ydym yn gweled plant Duw, fel plant dynion, yn dra amrywiol yn eu chwaeth. Gwelir hyn yn eglur yn amrywiaeth eu chwaeth at wahanol ordinhadau crefydd. Teimla llawer—mwyafrif mawr yr atdyniad a'r mwynhad penaf mewn gwrando pregethu y gair—eraill a'i teimlant yn nefosiwn y cyfarfod gweddi—eraill yn ngwefreiddiadau nefolaidd caniadaeth y cysegr—eraill drachefn yn nghylch teuluaidd y cyfarfod eglwysig. Felly hefyd y chwaeth at wybodaeth Feiblaidd, at "ddidwyll laeth y Gair" ysbrydoledig, cyfeiria y chwaeth hwn at yr Ysgol Sabbothol, fel y baban at y fron. Yr Ysgol Sabbothol, yn ddiddadl, ydyw y fwyaf cymwys ac effeithiol o holl ordinhadau crefydd Crist tuag at greu, cryfhau, a lledaenu y chwaeth at "wybod yr Ysgrythyr Lân," yn enwedig yn ei ffurf oll-gynwysol Gymreig, fel ei sefydlwyd gan Mr. Charles.

Trefniant o wasanaeth anmhrisiadwy a sefydlwyd gan Mr. Charles, tuag at gryfhau ac eangu effeithiolrwydd ei Ysgolion Sabbothol, a lledaenu y chwaeth a'r wybodaeth Feiblaidd sydd byth er hyny mor nodweddiadol o'n cenedl ni, oedd y Cymanfaoedd Ysgolion, tuag at arholi yn gyhoeddus, a symbylu i lafur, liaws o ysgolion gyda'u gilydd. Dilynai Mary Jones y Cymanfaoedd Ysgolion yn yr holl amgylchoedd hyn gyda zel nodedig. Pa bryd neu ymha le bynag y byddai Mr. Charles i gynal Cymanfa yn y parthau hyn o'r sir, nid mynych y siomid ef o weled yr eneth zelog, fyth-ddyddorol hono o Lanfihangel ymysg y dorf o ieuenctyd ger ei fron ynddynt. Pan yn arholi yn gyhoeddus ei ganoedd dysgyblion ieuainc yn y Cymanfaoedd hyny, dywedir wrthym y byddai ei lygaid yn gyffredin ar ei ddysgybles fechan ddeallus o Lanfihangel am yr atebion goreu i'w ofyniadau mwyaf anhawdd mewn hanesiaeth ysgrythyrol; a mynych y cafodd y boddhad o weled y wybodaeth Feiblaidd a gasglasai o'r Beibl a werthasai efe iddi yn trydanu dylanwadau sanctaidd trwy yr holl dorf. Ond i goroni pob defnydd da arall a wnaeth Mary Jones o'r Beibl hwnw o'r dydd y prynasai ef, amlygai trwy ei holl fywyd dilynol lawn cymaint o ymdrech i'w fyw ag a wnaethai ar y cyntaf i'w feddianu.