Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl/Gyda Mr Charles, yn llwyddo i gael Beibl
← Yn Myned i'r Bala at Mr Charles i Brynu Beibl | Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl gan Robert Oliver Rees |
Sefydliad y Feibl Gymdeithas → |
PENOD IV.—Mary gyda Mr. Charles yn a Study, yn llwyddo i gael Beibl.
BOREU dranoeth cyfyd Dafydd Edward Mary gyda thoriad y wawr, a chyfeiriant tua thŷ Mr. Charles. Dacw oleuni yn ffenestr y study mae Mr. Charles wedi codi, ac awr bryderus Mary wedi dyfod. Cura Dafydd Edward y drws—dyna Mr. Charles ei hun yn ei agoryd. Wedi mynegu ei syndod at ymweliad mor foreuol ei hen gyfaill, gwahodda hwynt i fyny i'r study. Eglura ei dadleuwr hybarch neges ei gyfeilles ieuanc ddieithr, a phaham yr oedd rhaid arnynt aflonyddu arno ef mor foreu. Hola Mr. Charles Mary am ei hanes personol a'i gwybodaeth ysgrythyrol, a pha fodd y llwyddasai i gyrhaedd gwybodaeth mor helaeth yn y Beibl, a hithau heb un Beibl. Effeithia ei heglurhad ar y dirgelwch hwn y cerdded parhaus i ffermdy tua dwy filldir o'i chartref bob wythnos am y chwe' mlynedd blaenorol, i ddarllen a thrysori yn ei chof benodau o Feibl benthyg, a'r casglu gofalus o'i dimeiau a'i cheiniogau trwy yr holl flynyddau hyny at wneyd i fyny y swm oedd ganddi yn ei llogell i brynu Beibl ganddo ef iddi ei hun—effeithia yr eglurhad hynod hwn yn ddwys nodedig ar Mr. Charles:—
"Mae yn ddrwg dros ben genyf weled yr eneth fechan wedi dyfod yr holl ffordd o Lanfihangel yma i geisio am Feibl, a minau heb un Beibl iddi gael. Mae yr holl Feiblau a dderbyniais o Lundain i gyd ar ben er's misoedd, ond rhyw ychydig gopïau sydd yma i gyfeillion yr wyf wedi addaw eu cadw iddynt. Beth a wnaf am Feiblau Cymraeg eto nis gwn."
Traetha Mr. Charles y geiriau hyn gyda'r cydymdeimlad dwysaf; ond trywanant glustiau a chalon ei ymwelyddes ieuanc fel cynifer o bicellau llymion. Drylliant holl ddorau ei chalon. Ymdora allan i wylofain dros yr holl dŷ—blynyddoedd o'r awydd mwyaf hiraethlawn am feddu Beibl cyflawn yn eiddo iddi ei hun blynyddoedd o lafur a phryder yn casglu ei hatlingod i'w thrysorfa fechan tuag at ei brynu—oll fel hyn wedi myned yn ofer—yn gwbl ofer! O! y fath siomiant Na!—aroswch—nid calon o adamant ydyw calon arch-wladgarwr Cymru, tad cyffredinol ein Hysgolion Sabbothol â'u miloedd plant. Gwir ei fod wedi llwyddo i sefyll yn ddewr at ei arfaethau yn ffafr cyfeillion ereill, yn ngwyneb holl daerineb ei hen gyfaill Dafydd Edward dros yr eneth; ond yn awr wele belenau o ddagrau dirif, a saethau o wylofain torcalonus y ddieithr fechan siomedig ei hun, yn dechreu eu hymosodiad arno, ac wele ei arfaethau yn ffafr apelwyr blaenorol oll yn chwilfriw!—
"Wel, fy ngeneth anwyl i, mi welaf y rhaid i ti gael Beibl, er mor anhawdd ydyw i mi roddi un heb siomi cyfeillion eraill; mae yn anmhosibl i mi dy wrthod."
Yna estyna Mr. Charles Feibl i Mary, ac estyna hithau iddo yntau yr arian am dano. Os wylai ein harwres fechan o dristwch calon o'r blaen, wyla fwy, os oedd modd, yn awr o lawenydd calon, wedi enill y fath fuddugoliaeth deg ar Mr. Charles. Mor orlawn ydyw ei mynwes o ddiolchgarwch i'w chymwynaswr teimladwy, fel y metha ei thafod yn gwbl ei draethu, er ceisio. Ond gwna ei llygaid iawn am fethiant ei thafod. Wylant berlau tryloywon o ddiolchgarwch iddo, wrth roddi ei thrysor hir-ddymunedig yn y wallet i'w gludo adref. Mae dagrau ein Mair fechan o Lanfihangel, fel dagrau Mair o Bethania, yn drydanol. Wyla Mr. Charles, a wyla Dafydd Edward, yn yr olwg arnynt!—
"Os ydyw yn dda genyt ti, fy ngeneth i, gael Beibl," ebe Mr. Charles wrthi, "mae yn dda iawn genyf finau ei roddi i ti. Darllena lawer arno, a dysga lawer o hono ar dy gof, a bydd yn eneth dda.—Dafydd Edward," ychwanega Mr. Charles yn ei ddagrau, "onid ydyw y fath olygfa a hon yn ddigon i hollti y galon galetaf—geneth ieuanc, dlawd, ddeallus, yn gorfod cerdded fel hyn yr holl ffordd o Lanfihangel yma—dros 50 milldir rhwng cerdded yma ac yn ol, ac yn droednoeth hefyd a ddywedasoch chwi, onide?—i geisio am Feibl? Mae y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol, a arferai argraffu Beiblau a Thestamentau Cymreig er dechreu y ganrif ddiweddaf, wedi gwrthod yn benderfynol argraffu dim un Beibl na Thestament ychwaneg i ysgolion Cymru. Ond mae yr eneth fechan ddeallus yma wedi effeithio mor ddwys arnaf, fel nas gallaf byth orphwys nes cael rhyw lwybr arall i gyfarfod âg angen mawr ein gwlad am Air Duw."
Gollyngodd Mr. Charles ei ymwelyddes ieuanc ddyddorol ymaith gyda'r deisyfiadau dwysaf am i gyflawnder bendith Duw y Beibl orphwys arni hyd ei bedd. Pa fath raid fod teimladau mynwes ein harwres ieuanc o Lanfihangel yn dychwelyd adref y boreu hwnw—yn droednoeth eto, mae yn wir, ond yn fuddugoliaethus—a'r "un Perl gwerthfawr," a hir chwenychasai ei chalon, o'r diwedd yn feddiant personol diogel ganddi yn ei wallet ar ei chefn rhaid i ni adael hyn i bob darllenydd ei ddychymygu iddo ei hun. Wylai Mary Jones, yn hen wraig ar fin ei bedd, 66 mlynedd wedi hyn, wrth adrodd am ysbryd toddedig a nefolaidd Mr. Charles, a'i eiriau grasusol, yn siarad y boreu bythgofiadwy hwnw â hi, oedd yn eneth ieuanc dlawd a dieithr, wedi aflonyddu arno mor anamserol.
—————————————