Medr Elis (Yr Hwiangerddi, O M Edwards)

Oddi ar Wicidestun
Yr Hwiangerddi (O M Edwards). Rhagymadrodd a Chynhwysiad
Cynt – Robin Goch Rhiwabon
Nesaf – Bwch y Wyddfa

Mae Medr Elis yn hwiangerdd a gasglwyd gan O M Edwards ac a gyhoeddwyd ym 1911 yn ei lyfr Yr Hwiangerddi


Tri pheth a fedr Elis,–
Rhwymo'r eisin sil yn gidys,
Dal y gwynt a'i roi mewn coden,
Rhoi llyffethair ar draed malwen.