Meini Gwagedd
← | Meini Gwagedd gan James Kitchener Davies |
Y Ddrama → |
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Meini Gwagedd (testun cyfansawdd) |
Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader
MEINI GWAGEDD
Profiad hyfryd. . . oedd dod ar draws y ddrama anghyffredin hon. Dengys y cyfarwyddiadau fod yma awdur sy'n ceisio datblygu techneg newydd, ac y mae'r tudalennau cyntaf yn ddigon o brawf ei fod yn gwybod sut i ddefnyddio iaith ar lwyfan, a'i fod yn ceisio creu rhywbeth newydd ym myd y ddrama Gymraeg. . . Mae'r cirfa yn gyfoethog o eiriau ac ymadroddion tafodieithol ffermwriaeth, a defnyddir hwynt yn hynod o effeithiol . . . Teimlaf fod hon yn ddrama!! nodedig ym mhob ystyr, ac yn agor maes newydd i chwaraewyr Cymru. Saif ar ei phen ei hun yn y gystadleuaeth.
D. MATTHEW WILLIAMS.
Beirniadaethau (Llandybie) 1944.
. . . a chyfarch James Kitchener Davies fel un o feirdd mwyaf Cymru heddiw. . . Bu darganfod ei fod yn fardd, ac yn fardd cymaint, yn syndod i minnau hefyd, ond nid oes dim cysgod o amheuaeth yn fy meddwl i am y peth. . . .
Dyma yn sicr gampwaith barddonol i'w restru gyda'r pethau mawr a gynyrchodd yr Eisteddfod Genedlaethol.
Llongyfarchaf Kitchener Davies, a llongyfarchaf yr Eisteddfod ar allu symbylu darn o farddoniaeth o'r radd flaenaf fel hwn. Bu ei ddarllen dro a thro-am oriau ni allwn mo'i adael-yn brofiad cyffrous, rhyfeddol, yn beth a fynn ei le blaenllaw yn fy ymwybod tra byddwyf.
EUROSRWYDD yn Y Faner, Awst 23, 1944.
MEINI GWAGEDD
GAN
J. KITCHENER DAVIES
DRAMA FER
(Buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llandybïe, 1944)
AIL ARGRAFFIAD
Ail Argraffiad-Ionor, 1945
Rhaid cael caniatâd Y Seiri Drama cyn perfformio'r ddrama hon. Ymofynner â
GRIFFITH J. JONES,
21 Cae Mawr, Rhiwbina, Caerdydd.
Argraffwyd a Rhwymwyd gan Hugh Evans a'i Feibion, Cyf., 9 Hackins Hey, Liverpool 2, ac Overton Hall, Overton Street, Liverpool 7, a chyhoeddwyd gan yr awdur, o swyddfa'r Seiri Drama
I'm Brawd a'm Chwaer,
a gyd-dyfodd â mi ar Y Gors
Nodiadau
[golygu]Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.