Merch Ein Hamserau: Rhan 2

Oddi ar Wicidestun
Merch Ein Hamserau: Rhan I Merch Ein Hamserau
Rhan 2'
gan Robin Llwyd ab Owain
Rhan 2'
Merch Ein Hamserau: Rhan 3
Cyhoeddwyd gyntaf yn Rhestr Testunnau Eisteddfod Genedlaethol Bro Delyn 1991, Awst 1991. Ffynhonnell: barddoniaeth.com; gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr.

Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020.



Pan oedd y wendon yn ei dicllonedd
Clywais d'arogl yn arogl cyfaredd,
Hwyliais i fae gorfoledd - dy galon
A chael Afallon a chlo fy allwedd.

Brwydr yr ieuanc fu'n berwi drwof
Hyd oni theimlais dy dresi drosof,
Aeth ymryson ohonof, daeth suon
Adar Rhiannon i drydar ynof.

Wyt Dref Wen ein hil. Wyt dirf anialwch,
Hyder y galon lle bu dirgelwch.
Wyt alaw mewn tawelwch. - Wyt weithiau'n
Cynnau canhwyllau yn fy nhywyllwch.

Wyt had fy mharhad. Wyt dwf fy mhryder.
Wyt wawn, wyt wenau. Wyt wanwyn tyner,
Y blaendwf a'i ysblander - ac weithiau'n
Ewin o olau mewn byd ysgeler.

Wethiau, am ennyd, yng nghampwaith Monet,
Ti yw yr eiliad sy'n mentro i rywle
Ar wyneb aur ein bore, - ond wastad
Mewn gwlad tan leuad, wyt win Beaujolais.

Wyt wawl fy mawl. Wyt win St Emilion.
Wyt ffiol risial i ddagrau calon.
Wyt win cyfriniol y fron. - I'm gwefus
Wyt lafoer melys, wyt liw fermilion!

Mae fy nghan ifanc, mae fy nghynefin
Ynot a rhythm borewynt drwy'r eithin,
Wyt gyffro Giro mewn jins - sy'n datod.
I 'mwa hynod wyt ffidil Menuhin.

Lleuad y nos a fu'n tywallt drosot
A'i rhaeadr ieuanc o gytser drwot,
Minnau yn fflam ohonot, - Erin f'oes;
Rhannaf fy einioes, serennaf ynot.