Merch Ein Hamserau: Rhan I

Oddi ar Wicidestun
Mynegai Merch Ein Hamserau
Rhan I'
gan Robin Llwyd ab Owain
Rhan I'
Merch Ein Hamserau: Rhan 2
Cyhoeddwyd gyntaf yn Rhestr Testunnau Eisteddfod Genedlaethol Bro Delyn 1991, Awst 1991. Ffynhonnell: barddoniaeth.com; gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr.

Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020.

Nodyn gan y bardd: Ochr wrth ochr a'r gerdd hon dylid gwranado ar 'Ti' gan Edward H Dafis, caneuon Tippet ('A Child of our Time'), a 'Bangor' gan Bryn Fon. Defnyddiwyd geiriau byw, cyfoes drwyddi gan mai dyna eirfa'r bardd, geifa'r dydd.

Mae'r gerdd hefyd yn ddau fys i 'seicoleg pepsicola' America (chwedl y Prifardd Emyr Lewis) ac ieithwedd hen ffasiwn yr awdlau a'i rhagflaenodd.

"Gwelir dylanwad y gerdd hon yn gryf ar yr awdlau a'i dilynodd hi." yn ol Barddas, 1997.

Yn ol y Prifardd Eirian Davies, "roedd darllen yr awdl hon yn brofiad ysgytwol ... torrodd dir newydd o safbwynt yr awdl eisteddfodol."


(Nid yw cariad yn darfod byth... )


Os bu'r 'gwybod' fel brodwaith - anghymen,
Anorffen, amherffaith,
Trodd cariad di-wad ein taith
Yn adnabod, yn obaith.

Bum unig heb amynedd - un nos hir
Ddi-ser fy alltudedd
Yn ddiorwel fel Heledd:
Alltud rhwng bywyd a bedd.

Haen o briddell heb wreiddyn - fum unwaith
A mynwent heb ddeigryn
Neu foroedd heb ddiferyn,
Haul heb liw, oriel heb lun,

Maneg heb law, crys heb lawes, - y ddoe
Ddiddiwedd, difynwes,
Ennyd heb iddo hanes
Neu walch heb rwysg, neu gloch bres

Heb dafod, gardd heb flodau - neu dan
Heb danwydd na golau,
Ton wen heb wynt yn y bae
Neu onnen heb ganghennau.

Hebot gwag oedd fy mebyd, - fy mharhad
Oedd fy mrwydyr enbyd,
Bwa heb ffidil bywyd
Oeddwn, diemosiwn mud.

O borthladd i borthladd y bum - o winllan
I winllan yr euthum,
Wedi'r daith adre deuthum
A gwin fy haf a ganfum.

Edau yn canfod nodwydd, - ym mherfedd
Morfil o unigrwydd
Yr ansicr drodd yn sicrwydd
A throdd dyn yn blentyn blwydd.