Merch Ein Hamserau: Rhan 6
← Merch Ein Hamserau: Rhan 5 | Merch Ein Hamserau Rhan 6' gan Robin Llwyd ab Owain Rhan 6' |
Merch Ein Hamserau: Rhan 7 → |
Cyhoeddwyd gyntaf yn Rhestr Testunnau Eisteddfod Genedlaethol Bro Delyn 1991, Awst 1991. Ffynhonnell: barddoniaeth.com; gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr.
Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020. |
Dall ydyw amser, ferch ein hamserau,
ac anweledig yw ein heiliadau
Yn ei labrinth o lwybrau - trafaeliwn
Ac ni arhoswn. Wyt gan yr oesau!
Bum gan mewn potel a Blues y felan,
Yn weddi Largo ar nos ddiloergan
Nes y cefais y cyfan - o'th gan di
Yn llenwi'r gwegi. Wyf gerflun Gauguin!
Cyn tyrr y Ddaear ei llinyn arian
Cyn diffodd amser fel lleufer llwyfan,
I ninnau rhoed mwy na'n rhan: - epiliog
Yw nodau beichiog pob ennyd bychan.
Yng nghylchoedd ein bod y cwsg darfodaeth.
Ond i'n hymlyniad ni mae olyniaeth
Edau arian cadwriaeth - daear frau
Yn wawn o olau lle cwsg dynoliaeth.
I'n hawr o heddwch daw gwanwyn rhyddid
I agor y blagur ir oblegid
Sanctaidd yw croes ieuenctid: - y parhau
A geni o ddau gan o addewid.
A daw dynoliaeth o'i mud anialwch!
Wyt had o gariad a goddefgarwch,
Yng nghymrodedd a heddwch - cyfanfyd
Ti yw yr ennyd sy'n llawn tirionwch.
Dall ydyw amser, ferch ein hamserau
Ac anweledig yw ein heiliadau,
Yn ei labrinth o lwybrau - trafaeliwn
Hyd oni welwn y byd yn olau.