Merch Ein Hamserau: Rhan 7
← Merch Ein Hamserau: Rhan 6 | Merch Ein Hamserau Rhan 7' gan Robin Llwyd ab Owain Rhan 7' |
Merch Ein Hamserau: Rhan 8 → |
Cyhoeddwyd gyntaf yn Rhestr Testunnau Eisteddfod Genedlaethol Bro Delyn 1991, Awst 1991. Ffynhonnell: barddoniaeth.com; gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr.
Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020. |
Un yw dyn a daioni. Ond er hyn
Mae'i drem ar ddifodi:
Ganwaith ers awr ein geni
Saddam ein hoes ydym ni.
Mae Irac y Gymru hon - yn llawgoch,
Yn llugoer ei chalon,
Heb glywed iaith gobeithion
Na rhin cyfriniol dy fron.
Rho'r bai ar wacter bywyd - can o Goke
Yn y gwynt crintachlyd!
Diflas a bas yw ein byd
Oni feddwn gelfyddyd.
Hyn o nialwch anwylom! - Ei afael
Sy'n gwallgofi'n hymgom:
Ni o bawb yn gaeth i'r bom!
Dilynwn y diawl ynom!
Ynom hefyd mae afon - a'i ffrydiau'n
Gyffroadau calon,
Hen ddwfr, hen win y ddwyfron
Yn creu, ail-greu planed gron.
Un cyfle gawn rhag dilead - heulwen,
Ecoleg y cread
Sydd ynom ni'n eginhad
Ac Erin, hyn yw cariad.
Tarian y gwar yw trin geiriau, - rhoi llais,
Rhoi lliw i'r munudau,
A rhoi awen i'n gwenau
A chwerthin prin i'n parhau.
Wyt ennyd ym motaneg - pabi gwyn,
Pob gair o 'mywydeg!
Yn rhythmau'r petalau teg
Wyt linell o'm telyneg.