Merch Ein Hamserau: Rhan 8

Oddi ar Wicidestun
Merch Ein Hamserau: Rhan 7 Merch Ein Hamserau
Rhan 8'
gan Robin Llwyd ab Owain
Rhan 8'
Ar Ddydd Priodas
Cyhoeddwyd gyntaf yn Rhestr Testunnau Eisteddfod Genedlaethol Bro Delyn 1991, Awst 1991. Ffynhonnell: barddoniaeth.com; gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr. Nodyn gan y bardd: 'Gwern' oedd enw mab Branwen yn y Mabinogi, a dyngwyd i farwolaeth gynar. Dyma hefyd yr enw a roesom ar ein plentyn cyntaf.

Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020.



Aberhenfelen ni welaf heno
Na'r un madruddyn a chleddyf drwyddo,
Ni ddaw Heledd i wylo; - ym mydoedd
Ein hymysgaroedd mae ias y gwawrio.

Wyt fur o hyder mewn byd difrodus.
Wyt yn afallen mewn tir anghenus.
Denim mewn bro dihoenus - ei brethyn.
Wyt yr ewyn gwyn ar beint o Guinness.

Wyt Ewropead, yn wlad heb dlodi.
Wyt awyr Glasnost. Wyt dir y glesni.
'Yma o hyd' wyt i mi - fel hen chwedl,
Yn wyrth o genedl, yn groth y geni.

A mab a anwyd o'n mil breuddwydion,
Yn un haul newydd, yn olau neon,
Yng ngwin cyfriniol dy fron - mae teulu
A lleuad fory'n y lli diferion.

Mae'r geni'n goroesi ffiniau'r oesoedd,
A'r waliau'n dymchwel heb swn rhyfeloedd,
Un ydym, un yw'n bydoedd, un teulu
Gwiw yn anadlu yw'r holl genhedloedd.

Mae gen i freuddwyd am gefnfor heddwch
Yn frwd o gariad ac am frawdgarwch,
Am ddeilen, am eiddilwch - y byd gwyrdd
Heddiw'n fytholwyrdd ond ddoe'n Fatholwch.

Rhes hir o brofiadau'n trwsio'r brodwaith.
Wyt leuad borffor. Wyt eiliad berffaith.
Wyt for o gariad. Wyt iaith - cyfamod.
Boed ein hadnabod yn don o obaith.