Mesur Addysg (Cymru) 2011/Rhan 2

Oddi ar Wicidestun
Rhan 1 Mesur Addysg (Cymru) 2011

gan Cynulliad Genedlaethol Cymru

Rhan 3

RHAN 2

LLYWODRAETHU YSGOLION

PENNOD 1

FFEDEREIDDIO YSGOLION A GYNHELIR

10 Ffedereiddio ysgolion gan gyrff llywodraethu

(1) Mae’r adran hon yn gymwys i gyrff llywodraethu—
(a) dwy neu ragor o ysgolion a gynhelir,
(b) ffederasiwn sy’n bodoli eisoes ac un neu ragor o ysgolion a gynhelir, neu
(c) dau neu ragor o ffederasiynau sy’n bodoli eisoes.
(2) Caiff cyrff llywodraethu ddarparu i’w priod ysgolion gael eu ffedereiddio.
(3) Mae’r pŵer hwn yn ddarostyngedig i’r canlynol—
(a) cydymffurfio ag unrhyw amodau rhagnodedig, a
(b) arfer y pŵer yn unol ag unrhyw weithdrefn ragnodedig.


11 Cynigion gan awdurdodau lleol i ffedereiddio ysgolion

(1) Caiff awdurdod lleol wneud cynigion i ffedereiddio—
(a) dwy neu ragor o ysgolion a gynhelir;
(b) ffederasiwn sy’n bodoli eisoes ac un neu ragor o ysgolion a gynhelir;
(c) dau neu ragor o ffederasiynau sy’n bodoli eisoes.
(2) Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi cynigion a wneir o dan yr adran hon.
(3) Rhaid i awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, ymgynghori â’r personau canlynol ar y cynigion a gyhoeddir—
(a) cyrff llywodraethu ysgolion neu ffederasiynau i’w ffedereiddio;
(b) staff yr ysgolion;
(c) un neu ragor o gyrff (os oes) yr ymddengys i’r awdurdod eu bod yn cynrychioli buddiannau staff yr ysgolion;
(d) i’r graddau y mae’n ymarferol, disgyblion a gofrestrwyd yn yr ysgolion a’u rhieni.
(4) Nid yw is-adran (2) na (3) yn gymwys mewn perthynas â chynnig ar gyfer ffederasiwn a ffurfir o ysgolion bach yn unig.
(5) Mewn perthynas â chynnig ar gyfer ffederasiwn a ffurfir o ysgolion bach yn unig, rhaid i’r awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, ymgynghori â chyrff llywodraethu’r ysgolion dan sylw.
(6) Ystyr “ysgol fach” yn is-adrannau (4) a (5) yw ysgol a gynhelir sydd, ar y dyddiad y gwneir y cynnig o dan is-adran (1), yn ysgol fach a gynhelir yn ôl y diffiniad mewn gorchymyn o dan adran 15.
(7) Rhaid i awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, benderfynu p’un ai—
(a) cadarnhau cynigion, gyda neu heb addasiad neu’n ddarostyngedig i ddigwyddiad, neu
(b) eu tynnu’n ôl.
(8) Caiff awdurdod lleol wneud cynigion ar gyfer ffederasiwn sy’n cynnwys ysgol a gynhelir a honno’n ysgol nad yw’n ei chynnal cyhyd â bod yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol yn cydsynio.
(9) Caiff awdurdod lleol wneud cynigion ar gyfer ffederasiwn sy’n cynnwys ysgol sefydledig neu wirfoddol cyhyd â bod y personau canlynol yn cydsynio—
(a) yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu un o ysgolion yr Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol, a
(b) yn achos unrhyw ysgol sefydledig neu wirfoddol arall, y person neu’r personau y penodwyd y llywodraethwyr sefydledig ganddynt.
(10) Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch cynigion o dan yr adran hon ac (ymhlith pethau eraill) gwneud darpariaeth ynghylch—
(a) sicrhau cydsyniad personau rhagnodedig i wneud, cyhoeddi neu gadarnhau cynigion;

(b) yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cynigion, neu sydd i’w darparu mewn perthynas â hwy;
(c) cyhoeddi cynigion;
(d) ymgynghori ynghylch y cynigion;
(e) gwneud gwrthwynebiadau i’r cynigion neu sylwadau ar y cynigion;
(f) tynnu’r cynigion yn ôl neu eu haddasu;
(g) y modd y mae’r awdurdod lleol i gadarnhau’r cynigion.

12 Gweithredu cynigion o dan adran 11

(1) Mae’r adran hon yn gymwys i gynigion o dan adran 11.
(2) Rhaid i gynigion sydd wedi eu cadarnhau gael eu gweithredu gan y personau a grybwyllir yn is-adran (3), yn ôl eu trefn, i’r graddau (os o gwbl) y mae’r cynigion yn darparu i bob un ohonynt wneud hynny.
(3) Dyma’r personau—
(a) yr awdurdod lleol sy’n cynnal ysgol sy’n ddarostyngedig i’r cynigion;
(b) corff llywodraethu ysgol sy’n ddarostyngedig i’r cynigion;
(c) unrhyw bersonau eraill a ragnodir.
(4) Rhaid gweithredu cynigion sydd wedi eu cadarnhau fel y’u cadarnhawyd, yn ddarostyngedig i’r is-adrannau a ganlyn.
(5) Ar gais personau rhagnodedig, caiff yr awdurdod lleol a wnaeth y cynigion—
(a) addasu’r cynigion ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau a ragnodir, a
(b) os cafodd unrhyw gadarnhad ei roi yn ddarostyngedig i ddigwyddiad penodedig, bennu dyddiad diweddarach erbyn pryd y mae’n rhaid i’r digwyddiad o dan sylw ddigwydd.
(6) Caiff awdurdod lleol a wnaeth y cynigion benderfynu bod is-adran (2) i beidio â bod yn gymwys i’r cynigion os caiff ei fodloni—
(a) y byddai gweithredu’r cynigion yn afresymol o anodd, neu
(b) bod yr amgylchiadau wedi newid cymaint ers i’r cadarnhad gael ei roi y byddai’n amhriodol gweithredu’r cynigion.
(7) Os yw’n ofynnol o dan reoliadau iddo wneud hynny, rhaid i awdurdod lleol ymgynghori neu sicrhau cydsyniad unrhyw bersonau a ragnodir cyn gwneud penderfyniad o dan is-adran (6).

13 Corff llywodraethu sengl ar gyfer ffederasiynau

O ran ffederasiwn—
(a) rhaid bod ganddo gorff llywodraethu sengl sydd wedi ei gyfansoddi o dan offeryn llywodraethu sengl;

(b) mewn achosion rhagnodedig, rhaid iddo gael ei drin fel ysgol sengl at ddibenion unrhyw ddeddfiadau a ragnodir, ac eithrio unrhyw ddeddfiad a gynhwysir ym Mhennod 2 o Ran 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (sefydlu, newid neu ddirwyn ysgol i ben) neu yn Rhan 3 o’r Ddeddf honno (derbyniadau i’r ysgol).

14 Rheoliadau mewn perthynas â ffederasiynau

(1) Caiff rheoliadau wneud darpariaeth—
(a) ynghylch diddymu cyrff llywodraethu adeg ffurfio ffederasiwn;
(b) sy’n galluogi corff llywodraethu ffederasiwn i barhau i fodoli fel corff corfforaethol pan fo un neu ragor o ysgolion yn ymuno â’r ffederasiwn neu’n ymadael ag ef;
(c) ynghylch ym mha amgylchiadau ac ym mha fodd y caniateir i ffederasiwn gael ei ddiddymu, neu i un neu ragor o ysgolion ymadael â ffederasiwn;
(d) sy’n galluogi corff llywodraethu ffederasiwn a ddiddymwyd i gael ei ddisodli naill ai gan gyrff llywodraethu ar gyfer pob un o’r ysgolion cyfansoddol neu gan gyrff llywodraethu sy’n cynnwys corff llywodraethu ffederasiwn newydd;
(e) ynghylch y trosi o un corff llywodraethu i un arall;
(f) ynghylch trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau rhwng cyrff llywodraethu, neu rhwng awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu;
(g) ynghylch unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â ffederasiynau, ysgolion ffederal neu ffurfio neu ddiddymu ffederasiynau y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn briodol.
(2) Caiff rheoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (1)(f) mewn perthynas â throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau—
(a) darparu bod materion rhagnodedig yn cael eu penderfynu gan Weinidogion Cymru,
(b) cymhwyso gydag addasiadau unrhyw ddarpariaeth yn Atodlen 10 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (darpariaethau atodol mewn cysylltiad â throsglwyddiadau o dan y Ddeddf honno), neu
(c) gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r hyn a wnaed gan unrhyw ddarpariaeth yn yr Atodlen honno.

15 Dull adnabod at ddibenion y Bennod hon ysgolion bach a gynhelir yng Nghymru

(1) Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy orchymyn i ddiffinio ysgol fach a gynhelir drwy gyfeirio at nifer penodedig o ddisgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn ysgol ar ddyddiad penodedig mewn unrhyw flwyddyn.
(2) Mae gorchymyn o dan yr adran hon yn gymwys at ddibenion darpariaeth o dan y Bennod hon.
(3) Yn yr adran hon, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru.

16 Ffedereiddio ysgolion sy’n peri pryder drwy gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru

(1) Mae Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 14(3), ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
“(aa)the Welsh Ministers have exercised in relation to the school their powers under section 18B (power to direct federation of schools); or”.
(3) Ar ôl adran 18A mewnosoder—
“18B Power of Welsh Ministers to direct federation of schools
(1) A maintained school is a “school causing concern” for the purpose of this section if, at any time—
(a) section 15 applies to the school by virtue of subsection (4) or (6) of that section, or
(b) the Welsh Ministers are satisfied that—
(i) the standards of performance of pupils at the school are unacceptably low and are likely to remain so unless they exercise their powers under this section, or
(ii) that there has been a serious breakdown in the way the school is managed or governed which is prejudicing, or likely to prejudice, such standards of performance, or
(iii) that the safety of pupils or staff of the school is threatened (whether by a breakdown of discipline or otherwise), or
(iv) that the governing body has failed to comply with a provision of an order under section 122 of the Education Act 2002 (teachers’ pay and conditions) that applies to a teacher at the school, or
(v) that the governing body has failed to secure that the head teacher of the school complies with such a provision.
(2) For the purposes of subsection (1)(b) the standards of performance of pupils at a school are low if they are low by reference to any one or more of the following—
(a) the standards that the pupils might in all the circumstances reasonably be expected to attain,
(b) where relevant, the standards previously attained by them, or
(c) the standards attained by pupils at comparable schools.
(3) The Welsh Ministers may direct any one or more of the following persons, as appropriate, to provide for one or more of the arrangements set out in subsection (4)—
(a) a local authority;
(b) a governing body of a maintained school;
(c) a governing body of a federation.

(4) The arrangements are—
(a) the federation of the school causing concern and one or more maintained schools;
(b) the federation of the school causing concern and an existing federation;
(c) the federation of the school causing concern and an existing federation and one or more maintained schools;
(d) where the school causing concern is part of a federation, the federation of that federation and one or more maintained schools; (e) where the school causing concern is part of a federation, the federation of that federation and another existing federation;
(f) where the school causing concern is part of a federation, the federation of that federation and an existing federation and one or more maintained schools;
(g) where the school causing concern is part of a federation, for the school to leave that federation.
(5) Before giving a direction under subsection (3), the Welsh Ministers must consult—
(a) the local authority,
(b) the governing bodies concerned,
(c) in the case of a Church in Wales school or a Roman Catholic Church school, the appropriate diocesan authority, and
(d) in the case of any other foundation or voluntary school, the person or persons by whom the foundation governors are appointed.
(6) A person subject to a direction under this section must comply with it.
(7) A direction under this section—
(a) must be in writing,
(b) must be published,
(c) may be varied or revoked by further direction, and
(d) is enforceable by mandatory order on application by the Welsh Ministers to the High Court.
(8) In this section “federation” has the meaning given by section 21(1) of the Education (Wales) Measure 2011.”

17 Canllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru

Wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Bennod hon, rhaid i awdurdod lleol a chorff llywodraethu ysgol a gynhelir roi sylw i ganllawiau a roddir o dro i dro gan Weinidogion Cymru.

18 Ffederasiynau: darpariaethau atodol

(1) Caiff rheoliadau wneud darpariaeth at ddibenion y Bennod hon i addasu unrhyw ddarpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn—
(a) Pennod 4 o Ran 1 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (ymyrryd mewn ysgolion yng Nghymru sy’n peri pryder), neu
(b) adrannau 49 i 51 o’r Ddeddf honno, ac Atodlen 15 iddi (dirprwyo ariannol), wrth gymhwyso’r ddarpariaeth i ysgolion ffederal neu eu cyrff llywodraethu.
(2) Mae’r addasiadau y caniateir eu gwneud yn rhinwedd is-adran (1) yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, addasiadau—
(a) sy’n galluogi’r pwerau a roddwyd gan y darpariaethau y cyfeiriwyd atynt yn yr is-adran honno i gael eu harfer mewn perthynas â’r holl ysgolion mewn ffederasiwn hyd yn oed os nad yw’r amgylchiadau, y mae’r pwerau yn arferadwy drwy gyfeirio atynt, yn bodoli ond mewn perthynas ag un neu ragor o’r ysgolion hynny, a
(b) sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddosrannu unrhyw gostau neu dreuliau a dynnir gan gorff llywodraethu ffederasiwn.
(3) Caiff rheoliadau wneud darpariaeth sy’n addasu unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud ag ysgolion o fewn categori penodol, neu â chyrff llywodraethu ysgolion o fewn categori penodol, wrth gymhwyso’r deddfiad i ysgolion sy’n ffurfio rhan o ffederasiwn neu i gyrff llywodraethu ffederasiynau.
(4) Yn is-adran (3), mae cyfeiriadau at gategorïau o ysgolion a gynhelir yn gyfeiriadau at y categorïau a nodir yn adran 20(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

19 Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Addysg 2002

(1) Mae Deddf Addysg 2002 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 19—
(a) yn is-adran (8), o flaen “Subsection (1)” mewnosoder “In relation to maintained schools in England,”;
(b) ar ôl is-adran (8), mewnosoder—
“(9) In relation to maintained schools in Wales, subsection (1) has effect subject to Chapter 1 of Part 2 of the Education (Wales) Measure 2011; and regulations under this section may include provision with respect to the governing bodies of federations (within the meaning of section 21(1) of that Measure).”
(3) Yn adran 20—
(a) yn is-adran (4), o flaen “Subsection (1)” mewnosoder “In relation to maintained schools in England,”;
(b) ar ôl is-adran (4), mewnosoder—
“(4A) In relation to maintained schools in Wales, subsection (1) has effect subject to Chapter 1 of Part 2 of the Education (Wales) Measure 2011; and regulations under subsection (2) may include provision with respect to instruments of government for federations (within the meaning of section 21(1) of that Measure).”

(4) Yn adran 24—
(a) yn is-adran (1)(a), ar ôl “schools” mewnosoder “in England”;
(b) yn is-adran (1)(b), ar ôl “schools” mewnosoder “in England”;
(c) yn is-adran (2), ar ôl “schools” mewnosoder “in England”;
(d) yn is-adran (4)(g) hepgorer “, or as the case may be the National Assembly for Wales,”;
(e) yn is-adran (5)(a) hepgorer “or the National Assembly for Wales”.
(5) Yn adran 25(1)—
(a) hepgorer paragraff (a);
(b) ym mharagraff (b), ar ôl “federated schools” mewnosoder “in England”.
(6) Yn adran 39(1), ar ôl “federated school” mewnosoder “in relation to England”.
(7) Ym mharagraff 5 o Atodlen 1, ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Sub-paragraph (1) does not apply if—
(a) the school is a federated school in Wales, and
(b) immediately after the discontinuance date, there will be more than one other school remaining in the federation.
(1B) “Federation” in sub-paragraph (1A) means a group of schools that are federated by virtue of Chapter 1 of Part 2 of the Education (Wales) Measure 2011 or were federated by virtue of section 24 before the coming into force of that Chapter, and “federated school” means a school forming part of a federation.”

20 Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Addysg 2005

Yn adran 68 o Ddeddf Addysg 2005 yn lle “section 24(2) of the Education Act 2002” rhodder “section 21(1) of the Education (Wales) Measure 2011”.

21 Dehongli’r Bennod hon

(1) Yn y Bennod hon—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw awdurdod lleol yng Nghymru;
ystyr “ffederasiwn” (“federation”) yw grŵp o ysgolion yng Nghymru sydd wedi eu ffedereiddio yn rhinwedd y Bennod hon neu a oedd wedi eu ffedereiddio yn rhinwedd adran 24 o Ddeddf Addysg 2002 cyn i’r Bennod hon ddod i rym, ac ystyr “ysgol ffederal” (“federated school”) yw ysgol sy’n ffurfio rhan o ffederasiwn;
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol yng Nghymru sy’n ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig neu ysgol feithrin a gynhelir.
(2) Mewn unrhyw ddeddfiad—
(a) mae unrhyw gyfeiriad at gorff llywodraethu neu lywodraethwyr ysgol i’w ddehongli, mewn perthynas ag ysgol ffederal, fel cyfeiriad at gorff llywodraethu neu lywodraethwyr y ffederasiwn, a

(b) mae unrhyw gyfeiriad at offeryn llywodraethu ysgol i’w ddehongli, mewn perthynas ag ysgol ffederal, fel cyfeiriad at offeryn llywodraethu’r ffederasiwn.

PENNOD 2

HYFFORDDIANT I LYWODRAETHWYR A CHLERCOD A DARPARU CLERCOD

22 Gwybodaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgolion a gynhelir

(1) Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau y darperir, yn rhad ac am ddim, i bob llywodraethwr unrhyw wybodaeth y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei bod yn briodol mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau llywodraethwr.
(2) Mae’r ddyletswydd hon yn gymwys i’r graddau nad yw’n ofynnol fel arall i’r awdurdod lleol sicrhau bod y cyfryw wybodaeth yn cael ei darparu.
(3) Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau y darperir, yn rhad ac ddim, hyfforddiant rhagnodedig i lywodraethwyr rhagnodedig ysgolion a gynhelir.
(4) Caniateir i hyfforddiant gael ei ragnodi drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir, fel a bennir yn y rheoliadau, gan Weinidogion Cymru.
(5) Nid yw gofynion rheoliadau o dan is-adran (3) yn lleihau effaith y ddyletswydd a ganlyn.
(6) Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau bod unrhyw hyfforddiant y mae’n barnu ei fod yn angenrheidiol yn cael ei roi ar gael i bob llywodraethwr, yn rhad ac am ddim, er mwyn i swyddogaethau’r llywodraethwr gael eu cyflawni’n effeithiol.
(7) Yn yr adran hon, ystyr “llywodraethwr” yw llywodraethwr ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol.
(8) Yn adran 22 o Ddeddf Addysg 2002, ar ôl “authority” mewnosoder “in England”.

23 Dyletswydd awdurdodau lleol i ddarparu clercod i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir

(1) Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru hysbysu, o dro i dro, bob corff y mae’n ofynnol iddo benodi clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002 y caiff y corff hwnnw ofyn i’r awdurdod ddarparu person i’w benodi’n glerc.
(2) Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru ddarparu person i’w benodi os gwneir cais.
(3) Caiff y rheoliadau (ymhlith pethau eraill)—
(a) rhoi pŵer i awdurdod lleol godi ffi am ddarparu person (gan gynnwys pŵer i godi ffioedd gwahanol mewn achosion gwahanol);
(b) rhagnodi’r person y mae’n rhaid i’r ffi gael ei thalu drwyddo;
(c) darparu ar gyfer eithriadau ac esemptiadau.

24 Hyfforddiant i glercod cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir

(1) Mae is-adran (2) yn gymwys mewn perthynas â chorff y mae’n ofynnol iddo benodi clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002.
(2) Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i’r corff sicrhau bod person a benodir yn glerc wedi cwblhau hyfforddiant rhagnodedig yn ôl safon ragnodedig.
(3) Caiff y rheoliadau—
(a) gwahardd penodi person nad yw wedi cwblhau’r hyfforddiant yn ôl y safon ofynnol;
(b) darparu bod person a benodwyd yn glerc, ac nad yw wedi cwblhau’r hyfforddiant, yn cwblhau’r hyfforddiant yn ôl y safon ofynnol o fewn cyfnod rhagnodedig;
(c) darparu ar gyfer terfynu penodiad clerc nad yw’n cwblhau’r hyfforddiant yn ôl y safon ofynnol o fewn y cyfnod hwnnw;
(d) rhagnodi hyfforddiant a safonau drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir, fel a bennir yn y rheoliadau, gan Weinidogion Cymru;
(e) darparu ar gyfer eithriadau ac esemptiadau.

25 Dyletswydd awdurdodau lleol i sicrhau bod hyfforddiant ar gael i glercod

(1) Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau bod unrhyw hyfforddiant y mae’r awdurdod yn barnu ei fod yn angenrheidiol yn cael ei roi ar gael i bob person sy’n cael ei benodi’n glerc i alluogi’r corff a benododd y clerc o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002 i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan adran 24 o’r Mesur hwn.
(2) Caiff awdurdod lleol yng Nghymru godi ffi am unrhyw hyfforddiant a ddarperir (a chaiff godi ffioedd gwahanol mewn achosion gwahanol).
(3) Yn yr adran hon, ystyr “clerc” yw clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol.