Mesur Addysg (Cymru) 2011/Rhan 4

Oddi ar Wicidestun
Rhan 3 Mesur Addysg (Cymru) 2011

gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru

RHAN 4

CYFFREDINOL

31 Dehongli’n gyffredinol

(1) Yn y Mesur hwn—
ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol, pryd bynnag y cawsant eu pasio neu eu gwneud—
(a) Deddf Seneddol;
(b) Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(c) is-ddeddfwriaeth yn ystyr adran 21(1) o Ddeddf Dehongli 1978, gan gynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir o dan unrhyw Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(d) darpariaeth mewn unrhyw Ddeddf neu Fesur neu is-ddeddfwriaeth o’r fath;
ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw rhagnodedig mewn rheoliadau;
ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.
(2) Yn ddarostyngedig i is-adran (3), mae Deddf Addysg 1996 a darpariaethau’r Mesur hwn i’w darllen fel petai’r darpariaethau hynny wedi eu cynnwys yn Neddf Addysg 1996.
(3) Pan roddir, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn, ystyr gwahanol i ymadrodd i’r un a roddwyd iddo at ddibenion Deddf Addysg 1996, bydd yr ystyr a roddir at ddibenion y ddarpariaeth honno yn gymwys yn lle’r un a roddwyd at ddibenion y Ddeddf honno.

32 Gorchmynion a rheoliadau

(1) Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.


(2) Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—
(a) i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau gwahanol o achos, ardaloedd gwahanol neu ddibenion gwahanol;
(b) i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu’n ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodedig neu mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthau penodol o achos yn unig;
(c) i wneud unrhyw ddarpariaethau cysylltiedig, atodol, dros dro, trosiannol neu ddarpariaethau arbed fel y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.
(3) Mae unrhyw offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn neu orchymyn a wneir o dan adran 15 neu 30 yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

33 Cychwyn

(1) Mae darpariaethau canlynol y Mesur hwn yn dod i rym ar ddiwedd cyfnod o ddeufis sy’n dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor—
(a) adrannau 26 i 32;
(b) yr adran hon;
(c) adran 34.
(2) Daw gweddill darpariaethau’r Mesur hwn i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

34 Enw byr a chynnwys y Mesur yn y Deddfau Addysg

(1) Enw’r Mesur hwn yw Mesur Addysg (Cymru) 2011.
(2) Mae’r Mesur hwn i’w gynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a osodir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996.

—————————————

—————————————

© Hawlfraint y Goron 2011

Argraffwyd a chyhoeddwyd yn y Deyrnas Unedig gan The Stationery Office Limited o dan awdurdod ac arolygiaeth Carol Tullo, Rheolwr Gwasg Ei Mawrhydi ac Argraffydd Deddfau Seneddol y Frenhines.