N'ad im adeiladu'n ysgafn
Gwedd
← Wele Cawsom y Meseia | N'ad i'm adeiladu'n ysgafn gan William Williams, Pantycelyn |
Y mae Un, uwchlaw pawb eraill → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
199[1] N'ad im adeiladu'n ysgafn.
87. 87. 67.
1 N'AD im adeiladu'n ysgafn
Ar un sylfaen is y ne';
N'ad im gymryd craig i orffwys
Tu yma i angau yn dy le:
Ti, fy Nuw, tra fwyf byw,
Gaiff fod fy ngorffwysfa wiw.
2 Dyma'r maen sydd yn y gongol,
Dyma'r garreg werthfawr bur,
Gloddiwyd allan yn y bryniau,
Bryniau tragwyddoldeb dir;
Nid oes le, is y ne',
I adeiladu ond Efe.
3 Minnau'r gwaela' o bechaduriaid,
Yn y diwedd rhof fy nhroed
Ar y graig sydd yn y moroedd,
Craig gadarnaf fu erioed;
Ceidw hon, rhag pob ton,
Ofnau i ffwrdd o dan fy mron.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 199, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930