Wele Cawsom y Meseia

Oddi ar Wicidestun
Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb Wele Cawsom y Meseia

gan Dafydd Jones o Gaeo

N'ad i'm adeiladu'n ysgafn

198[1] Wele, cawsom y Meseia.
87. 87. 67.

WELE, cawsom y Meseia,
Cyfaill gwerthfawroca' 'rioed ;
Darfu i Moses a'r proffwydi
Ddweud amdano cyn ei ddod :
Iesu yw, gwir Fab Duw,
Ffrind a Phrynwr dynol-ryw.


2 Dyma Gyfaill haeddai'i garu,
A'i glodfori'n fwy nag un :
Prynu'n bywyd, talu'n dyled,
A'n glanhau â'i waed ei Hun:
Frodyr, dewch, llawenhewch,
Diolchwch iddo, byth na thewch!

Dafydd Jones o Gaeo

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 198, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930