Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb

Oddi ar Wicidestun
Peraidd ganodd sêr y bore Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb

gan Titus Lewis

Wele Cawsom y Meseia

197[1] Mawredd Crist.
87. 87.67.


1 MAWR oedd Crist yn nhragwyddoldeb,
Mawr yn gwisgo natur dyn;
Mawr yn marw ar Galfaria,
Mawr yn maeddu angau'i hun ;
Hynod fawr yw yn awr,
Brenin nef a daear lawr.

2 Mawr oedd Iesu yn yr arfaeth,
Mawr yn y cyfamod hedd;
Mawr ym Methlem a Chalfaria,
Mawr yn dod i'r lan o'r bedd:
Mawr iawn fydd Ef ryw ddydd
Pan ddatguddir pethau cudd.

3 Mawr yw Iesu yn ei Berson ;
Mawr fel Duw, a mawr fel dyn;
Mawr ei degwch a'i hawddgarwch,
Gwyn a gwridog, teg ei lun :
Mawr yw Ef yn y nef
Ar ei orsedd gadarn gref.

Titus Lewis, Caerfyrddin (1773-1811)


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 197, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930