Peraidd ganodd sêr y bore

Oddi ar Wicidestun
Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd Peraidd ganodd sêr y bore

gan Morgan Rhys

Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb

196[1] Genedigaeth y Ceidwad..
87. 87.47.

1 PERAIDD ganodd sêr y bore
Ar enedigaeth Brenin nef;
Doethion a bugeiliaid hwythau
Teithient i'w addoli Ef:
Gwerthfawr drysor!
Yn y preseb Iesu a gad.


2 Dyma Geidwad i'r colledig,
Meddyg i'r gwywedig rai;
Dyma Un sy'n caru maddau
I bechaduriaid mawr eu bai:
Diolch iddo
Byth am gofio llwch y llawr.

Morgan Rhys, Sir Gaerfyrddin (?1705-1779}


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 196, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930