Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
- gan Ann Griffiths
- Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd
- Wrthrych teilwng o fy mryd;
- Er mai o ran, yr wy'n adnabod
- Ei fod uwchlaw gwrthrychau'r byd:
- Henffych fore
- Y caf ei weled fel y mae.
- Rhosyn Saron yw ei enw,
- Gwyn a gwridog, teg o bryd;
- Ar ddeng mil y mae'n rhagori
- O wrthrychau penna'r byd:
- Ffrind pechadur,
- Dyma ei beilat ar y môr.
- Beth sy imi mwy a wnelwyf
- Ag eilunod gwael y llawr?
- Tystio'r wyf nad yw eu cwmni
- I'w cystadlu â Iesu mawr:
- O! am aros
- Yn ei gariad ddyddiau f'oes.