Nansi'r Dditectif/Chwilio am yr Ewyllys
← Y Dyddlyfr | Nansi'r Dditectif gan Owain Llew Rowlands |
Yr Ergyd Derfynol → |
PENNOD XVII
CHWILIO AM YR EWYLLYS
PAN ddeffrodd Nansi Puw drannoeth llifai'r heulwen i'w hystafell. Edrychodd ar y cloc a chafodd fraw pan ganfu ei bod wedi naw o'r gloch. Yr oedd wedi llwyr ddiffygio cyn mynd i'w gwely ar ôl ei holl anturiaethau.
"Sut y medrwn gysgu'n hwyr ar fore fel hwn?" gofynnai wrthi ei hun.
Rhoddodd ei llaw dan y gobennydd y peth cyntaf, a thynnodd ddyddlyfr Joseff Dafis allan. Edrychodd arno'n foddhaol.
"Caiff Gwen a Pegi dipyn o syndod," meddai, gan hanner chwerthin ynddi ei hunan.
Gwisgodd yn gyflym a phrysurodd i lawr y grisiau. Gwelodd fod ei thad wedi brecwesta ac wedi gadael y tŷ am y swyddfa.
"Ys gwn i a ydyw fy nhad wedi anghofio?" meddyliai. "Mae eich tad eisiau i chwi fynd i lawr i'r swyddfa ar ei ôl, Miss Nansi, ar ôl i chwi gael eich brecwast. Y mae eisiau i chwi fynd â rhyw lyfr gyda chwi."
"O'r gore, Hannah," ebe Nansi a phrysurodd gyda'i brecwast.
Cyn pen yr awr yr oedd Nansi yn swyddfa ei thad ac aeth ar ei hunion i mewn i'w hystafell breifat.
"Mae'n ddrwg gennyf gysgu'n hwyr, nhad," meddai. "Mae'n rhaid fy mod yn lluddedig neithiwr. A ydych yn fy nisgwyl ers meityn?"
"Dim o gwbl," atebai ei thad. "Dywedais i wrth Hannah am beidio galw arnoch nes i chwi ddeffro eich hun. Pa un bynnag ni fuasem yn gallu agor y bocs heb awdurdod cyfreithiol."
"A gawsoch chwi hynny?"
"Do, a hynny heb y drafferth ddisgwyliwn."
"Deuais â'r dyddlyfr gyda mi. Dywedodd Hannah fod arnoch ei eisiau."
"Oedd, tybiais y buaswn ei eisiau i gael yr awdurdod i agor y bocs, ond llwyddais hebddo. Felly, fe'i rhown yn ddiogel yn y safe yma."
"Pa bryd y cychwynnwn am Benyberem?"
"Yn awr, ar unwaith. Yr wyf wedi llogi modur. A chyda llaw, Nansi, bûm yn meddwl ar fy ffordd i lawr i'r swyddfa y bore yma, ei bod yn hen bryd i ni gael cerbyd ein hunain. Os llwyddwn gyda'r ewyllys yma, prynaf fodur i ni ein hunain. A ydych wedi cael eich un ar bymtheg oed eto?
"Do, nhad," ebe Nansi a'i llygaid yn dawnsio.
"Felly bydd popeth yn iawn. Yr ydych yn ddigon hen i yrru'r cerbyd i mi."
"O nhad, mi fyddai hynny'n rhagorol," ebe Nansi. "Nid oes gan yr un eneth yn y byd crwn yma dad fel myfi."
Wedi iddo adael cyfarwyddiadau i'r swyddfa beth i'w wneud yn ei absenoldeb, aeth Mr. Puw allan gyda Nansi. Yr oedd y modur yn disgwyl wrthynt. Cyn hir yr oeddynt ar eu ffordd i Benyberem. Tynnodd y modur i fyny o flaen Banc y Maes.
I fewn yn yr ariandy, cyflwynodd Mr. Puw ei gerdyn, a gofynnodd am weled y rheolwr. Aethpwyd â hwy at y gŵr hwnnw i'w ystafell breifat ar unwaith. Gŵr canol oed, pryd tywyll ydoedd, a chododd i'w cyfarch fel yr elent i mewn.
Wedi'r cyflwyno arferol eglurodd Mr. Puw eu neges. Ond cyn iddo orffen torrodd y rheolwr ar ei draws mewn modd moesgar.
"Ofnaf yn wir eich bod wedi camgymryd," meddai. "Fu gennym ni yma erioed gysylltiadau â gŵr o'r enw Joseff Dafis."
"Efallai nad wrth yr enw hwnnw yr adweinid ef gennych chwi. Yr oedd cist iddo yma dan yr enw Josiah Harris."
"Josiah Harris?" ebe'r rheolwr yn feddylgar, "yr ydym wedi chwilio llawer am un yn dwyn yr enw hwnnw. Nid yw wedi bod yma ers tro, ac yntau cynt yn ofalus iawn o dalu'r rhent am y gist. Arhoswch funud; cawn weld."
Canodd gloch a daeth clerc i mewn. Rhoddodd y rheolwr gyfarwyddiadau iddo. Ymhen ychydig dychwelodd y clerc a dalen o bapur yn ei law.
Edrychodd y rheolwr i fyny oddi wrth y papur. "Yn ôl hwn, yr oedd Josiah Harris yn rhentu cist 148 gennym, ond nid oes dimai o'r rhent wedi ei thalu ers dros flwyddyn. Dyma ei enw wrth hwn, Josiah Harris."
Edrychodd Mr. Puw a Nansi ar y ddalen, a gwelsant ar unwaith mai llawysgrif Joseff Dafis oedd arni—yr un llawysgrif grynedig oedd ar y dyddlyfr.
"Mae'n debyg mai yr un oedd Joseff Dafis a Josiah Harris, ond mae'n ddrwg gennyf na allaf roddi caniatâd i chwi i agor y gist," ebe'r rheolwr.
"Mae'r awdurdod gennyf yn barod," atebai Mr. Puw yn dawel. "Cefais ef gan y llys bore heddiw."
Nid oedd dull y rheolwr wedi bod yn anghwrtais o gwbl, ond newidiodd ei dôn pan glywodd Mr. Puw yn siarad ag awdurdod y tu ôl iddo.
"Mae hynny'n beth gwahanol," meddai. "A gaf ei weled, os gwelwch yn dda?"
Tynnodd Mr. Puw yr awdurdod o'i boced ac estynnodd ef i'r boneddwr. Ar ôl ei archwilio'n fanwl trodd ef yn ôl.
"A ydyw yn foddhaol gennych?" gofynnai Mr. Puw. "Ydyw yn hollol felly. Mae croeso i chwi agor y bocs. Wrth gwrs gwnewch gytuno i'w agor ym mhresenoldeb un o swyddogion yr ariandy?"
"Rhaid i mi ofyn am allwedd i chwi," meddai Mr. Puw. "Nid yw yr allwedd a berthynai i Joseff Harris gennym."
Petrusodd y rheolwr am foment, ac yna, "Dilynwch fi," meddai.
Aethant i ran arall o'r ariandy at ddrws ystafell fechan a dorau heiyrn cedyrn arni. Yr oedd yn llawn o gistiau bychain, wedi eu dodi'n rhesi ar ei gilydd, ac ar dalcen pob cist yr oedd rhif wedi ei baentio'n wyn.
Rhoddodd y rheolwr allwedd bychan yn y ddôr.
Dilynasant ef i mewn i'r ystafell. Tynnodd y blwch a'r rhif 148 allan a rhoddodd ef yn nwylo Mr. Puw. Aethant allan o'r ystafell ac yn ôl drachefn i swyddfa breifat y rheolwr. Yn eu disgwyl yno yr oedd clerc a dolen o allweddau bychain gloyw yn ei law. Daliodd allan yr allweddau i Mr. Puw, ac meddai, "Gellwch agor y blwch â rhif 148."
Dewisodd Mr. Puw yr allwedd.. Rhoddodd ef yn y clo. Wedi rhoi tro arno, cododd y caead yn araf. Nid oedd ond darn o bapur yn y gist, ac am foment tybiai Nansi fod Joseff wedi eu twyllo oll wedi'r cwbl.
Cymaint oedd ei phryder fel na allai oddef peidio cipio'r papur o'r gist cyn i'w thad gael cyfle. Ond cofiodd ei hun ar unwaith a dododd y papur yn ei law.
"Mae'n rhaid mai hon yw'r ewyllys," meddai.
"Ie, dyma hi o'r diwedd," ebe'i thad, a rhoddodd Nansi ochenaid o ollyngdod.
"Ai dyna'i ewyllys olaf?" gofynnai'r rheolwr gyda diddordeb.
"Ie, ac er mwyn i ni wneud popeth yn rheolaidd a diogel, a fuasech mor garedig ag arwyddo bob tudalen â llythrennau cyntaf eich enw. Gwnâf finnau yr un peth. Gallwn wedyn ei hadnabod ar unrhyw achlysur yn y dyfodol."
"Gwnaf ar unwaith," meddai'r gŵr.
Diolchodd Mr. Puw yn gynnes i reolwr yr ariandy am ei gymorth a'i garedigrwydd ac ymadawodd Nansi ac yntau â'r banc. Gwenai'r ddau ar ei gilydd wrth ddychwelyd i Drefaes yn y modur. Ni soniasant air am yr ewyllys hyd nes cyrraedd diogelwch ystafell breifat Mr. Puw yn y swyddfa.
"Wel, go dda, ynte Nansi?"
"Ie, nhad, ond darllenwch yr ewyllys. Ni fedraf oddef yn hwy."
Taenodd Mr. Puw y papur o'i flaen ar y ddesg. Syllai Nansi arno yn syn. Yr oedd yn ddigon anodd deall yr ysgrifen ac yn anos fyth deall y termau cyfreithiol.
"Gwaith anodd fydd astudio hon," meddai.
"Ie," ebe ei thad, "ond nid gwaith amhosibl." Trodd y ddalen trosodd. "O, gwelaf mai Dr. Powell oedd un o'r tystion a'i harwyddodd. Nid yw fawr ryfedd na ddaeth yr ewyllys i'r amlwg. Bu ef farw tua'r un adeg â Joseff ei hun. Chlywais i erioed sôn am y tyst arall yma, John Pitars."
"Waeth gennyf fi pwy oedd y tystion," ebe Nansi'n ddiamynedd. "A yw Besi a Glenys ac Abigail yn cael rhywbeth ynddi? Fedraf fi ddim gwneud na phen na chynffon ohoni?"
"Mae eu henwau yma, beth bynnag," atebai ei thad, ac aeth gobeithion Nansi i fyny i'r entrychion eto.
"O, diolch byth," meddai, "gaf fi gopi o'r ewyllys wedi ei deipio?"
"Rhaid imi ei hastudio'n ofalus i ddechrau," atebai Mr. Puw. "Rhaid i chwi gofio mai Joseff ei hun a'i gwnaeth, a rhaid inni fod yn berffaith sicr ei bod yn gyfreithiol."
"A ydych yn ofni nad ydyw yn gyfreithiol?" gofynnai Nansi mewn petruster.
"Nis gallaf fod yn siwr," ebe ei thad. "Ar un olwg frysiog methaf weld enwau'r Morusiaid."
"Nhad, syniad rhagorol fyddai cael cyfarfod o'r holl berthynasau i ddarllen yr ewyllys iddynt. Mi hoffwn fod yno i weled wynebau'r Morusiaid."
"Fe geisiaf drefnu hynny," ebe Mr. Puw, "a cheisiaf drefnu i chwithau fod yno yr un pryd. Yn awr, Miss Puw, ymaith â chwi, er mwyn i mi gael cyfle i ddehongli'r ewyllys."