Neidio i'r cynnwys

Nansi'r Dditectif/Gwobr

Oddi ar Wicidestun
Yr Ergyd Derfynol Nansi'r Dditectif

gan Owain Llew Rowlands

PENNOD XIX
GWOBR

CLYWSOCH chwi am y Morusiaid?" gofynnai Mr. Puw i Nansi rai wythnosau ar ôl darllen yr ewyllys.

"Na, beth amdanynt?" ebe Nansi.

"Y maent yn fethdalwyr. Collodd William Morus lawer o arian oedd wedi godi ar sail ei ddisgwyliadau oddi wrth ewyllys Joseff Dafis."

"A ydyw hynny'n golygu y bydd raid iddynt werthu popeth a gadael y tŷ a'r cwbl?" gofynnai Nansi.

"Popeth," ebe Mr. Puw, "a gadael eu cartref fydd yr ergyd galetaf iddynt mi ofnaf."

"Gobeithio na wnant chwaneg o helynt ynglŷn â'r ewyllys. Maent wedi codi digon o gynnwrf yn barod, a hynny i ddim pwrpas," ebe Nansi.

Nid oedd y Morusiaid wedi ildio'r ystad heb ymdrech galed. Honnent mai ffug oedd yr ewyllys ddarganfu Nansi. Buont mor ddiegwyddor yn eu honiadau fel y collasant bob cydymdeimlad ac yr oedd pawb yn falch pan ddeallasant fod y perthynasau o'r diwedd wedi derbyn cyfiawnder yn y llys. Bu llawenydd mawr pan dderbyniwyd eu hetifeddiaeth gan y perthynasau. Bu Nansi yn talu ymweliad ag Abigail, a llonnodd ei chalon wrth weld y gwahaniaeth a wnaeth yr arian i'r hen wraig unig. Yr oedd nyrs gyda hi bob dydd yn awr, ac yn fuan iawn yr oedd ar ei ffordd i fwynhau henaint tawel a hapus.

"Yr wyf am ymweled â Besi a Glenys heddiw. Cefais lythyr oddi wrthynt ddoe yn gofyn i mi fyned yno. Deallaf oddi wrth eu llythyr fod ganddynt rywbeth pwysig i'w ddweud wrthyf."

"Efallai eu bod am gynnig gwobr i chwi am ganfod yr ewyllys," awgrymai Mr. Puw.

"Wel, ni ddywedasant ddim am hynny ers tro bellach."

Ar ôl cinio cychwynnodd Nansi ar ei thaith. Fel y neshai at y ffermdy synnai at y gwahaniaeth yn y lle. Yr oedd y tŷ wedi ei baentio'n dlws, y buarth yn lân a threfnus, a'r ardd wedi ei thwtio ac yn llawn blodau. Draw yn y cae yr oedd cytiau ieir newydd sbon, a nifer fawr o ieir a chywion yn pigo o'u cwmpas.

"Croeso i'r fferm ieir," gwaeddai Glenys, fel y rhedai at y llidiart i groesawu Nansi.

"Welais i erioed gynifer o ieir yn fy mywyd," ebe Nansi, wrth ysgwyd llaw â hi.

"Leghorns bob un ohonynt hefyd," atebai Glenys â balchter yn ei llais.

Erbyn hyn yr oedd Besi wedi ymuno â hwynt yn ei ffordd ddirodres ei hun.

"Y mae Glen wrth ei bodd y dyddiau yma," meddai. "Dim ond ieir o'r fath orau o hyn allan iddi hi."

"Rhaid i chwi ddyfod o gwmpas y lle gyda mi i weld popeth," ebe Glenys yn frwdfrydig. Treuliodd Nansi awr ddifyr yn edrych ar hyn ac ar y llall ar y fferm. Nid oedd yn deall llawer am ieir ond yr oedd brwdfrydedd Glenys a Besi yn deffro ei diddordeb ynddynt.

"Rhaid i mi beidio ymdroi," meddai gan edrych ar ei horiawr.

"Nid ydych yn meddwl mynd yn awr?" gofynnai Glenys. "Dywedwch chwi wrthi, Besi, rhag ofn iddi fynd."

"Gofynasom i chwi ddod yma heddiw am reswm neilltuol," ebe Besi'n bwyllog. "Yr ydym wedi meddwl llawer iawn am yr hyn a wnaethoch i ni, ac nid ydym wedi diolch hanner digon i chwi. Buom yn siarad ag eraill, a theimlant hwythau yr un fath â ninnau. Yr ydym yn unfarn y buasai gwobr fechan———."

"Nid oes arnaf eisiau gwobr," torrai Nansi ar ei thraws. "Cefais i fy ngwobr wrth helpu, a chefais lawer iawn o bleser yn y gwaith."

"Ie, Nansi; gwyddom yn eithaf da nad er mwyn gwobr yr oeddych yn ymdrechu. Ond meddyliwch amdanom ni. Os nad ydych yn barod i'n gadael i ddangos gymaint a garwn arnoch bydd yn siomiant mawr i ni."

"Mewn un ffordd yn unig y cewch ddiolch imi, os mynnwch," ebe Nansi. "Os yr ydych yn benderfynol o roddi rhywbeth i mi, a wyddoch beth hoffwn gael?"

"Beth", meddai Besi a Glenys gyda'i gilydd yn eiddgar.

"Cloc Joseff Dafis," ebe Nansi'n syml. "Carwn gael yr hen gloc i mi fy hun yn gyfangwbl."

"Ai dyna'r oll?" gofynnai Besi'n siomedig drachefn. "Buasem yn falch o roi cant o glociau i chwi pe dymunech hwy."

"Gwna un cloc y tro yn gampus, Besi annwyl," ebe Nansi, "dim ond i'r un hwnnw fod yn gloc Joseff Dafis."

"Beth sydd ar eich pen chwi, Nansi," gofynnai Glenys yn ddifrifol, "nid yw yr hen gloc yn cadw amser heb sốn am ddim arall. Ond os mai dyna eich dymuniad,—bydd y cloc yn eich meddiant yfory."

Trannoeth safai Nansi yn edrych yn syn ar hen gloc Joseff Dafis. Ni fedrai egluro i neb y swyn oedd ynddo iddi hi. Gwyddai er hynny y trysorai drwy ei hoes ef uwchlaw popeth oedd yn ei meddiant. Dygai atgofion poenus, ond dygai yr un pryd atgofion melysaf ei bywyd. Torrwyd ar ei myfyr gan ddyfodiad ei thad i'r ystafell. "A welsoch chwi fy ngwobr, nhad?" gofynnai. Ni atebodd ei thad hi.

"Dowch at y ffenestr am funud, Nansi," meddai. Croesodd Nansi ato, a safodd y ddau fraich ym mraich wrth y ffenestr. Edrychasant allan i'r ffordd.

"Dacw'r modur addewais brynu os llwyddem i ddatrys dirgelwch y cloc," meddai.

Ni cheisiodd Nansi ateb. Yr oedd ei chalon yn rhy lawn.

DIWEDD

Nodiadau

[golygu]