Neidio i'r cynnwys

Nansi'r Dditectif/Ymweled â'r Morusiaid

Oddi ar Wicidestun
Dadleniad Abigail Nansi'r Dditectif

gan Owain Llew Rowlands

Ar ol y Cloc

PENNOD XI
YMWELED A'R MORUSIAID

GWYDDAI Nansi'n bur dda nad oedd yn debygol fod tocynau gan y Morusiaid. Nid oedd Gwen na Phegi yn aelodau o gangen yr Urdd. Yr oeddynt yn "rhy fawr" i beth felly, a mwy nag unwaith clywodd Nansi y ddwy yn honni mai Nonsense oedd 'this Urdd business.' Ni siaradent byth Gymraeg â'i gilydd, a phan fyddai yn orfod arnynt ei siarad yr oeddynt yn lletchwith ac yn llediaith i gyd.

Prynhawn trannoeth tua thri o'r gloch, curodd Nansi'n wrol wrth ddrws cartref y Morusiaid. Trigent mewn tŷ helaeth ar gwr uchaf Trefaes. Safai'r tŷ yn urddasol ar ei ben ei hun, fel pe'n herio neb i ddod ato. Yr oedd gerddi yn llawn blodau o'i gwmpas ag ôl digon o foddion ym meddiant y sawl oedd yn byw ynddo. Yr hyn oedd fwyaf tarawiadol ynddo oedd y bwriad amlwg i'w wneuthur mor rwysgfawr ag oedd modd. Teimlai Nansi ei fod yn galw pawb i edrych arno.

Wrth guro'r drws, teimlai Nansi y gallai'r munudau nesaf fod yn rhai pur annifyr iddi, a sythodd yn ei hesgidiau i wynebu'r prawf.

"Rhaid i mi fod yn ofalus neu chaf fi wybod dim am y cloc," meddai wrthi ei hun mewn cyfyng-gyngor.

Ar hynny dyma'r forwyn i'r drws. Disgwyliodd i Nansi amlygu ei neges.

"Wnewch chwi ddweud wrth Mrs. Morus, os gwelwch yn dda, fy mod yn galw i werthu tocynau ar gyfer cyfarfod i'r ysbyty.'

Ni wahoddwyd hi i mewn gan y forwyn a gorfu iddi aros ar y rhiniog hyd nes daeth yr eneth yn ôl.

"Dowch i mewn, miss, os gwelwch yn dda," ebe'r forwyn, ac wrth ei dilyn ni allai Nansi lai na gwenu wrth feddwl mai ffug oedd yr ymweliad i gyd.

Yr oedd yr ystafell yr arweiniwyd Nansi iddi gan y forwyn yn peri diflastod iddi. Yr oedd rhyw ormodedd o bopeth ynddi, a dim byd yn syml a phrydferth. Rhywfodd edrychai popeth o'i le ynddi er fod ol arian ym mhob twll a chongl ynddi. Nid oedd y darluniau olew ar y muriau yn fuddiol i ystafell mor fechan. Yr oedd nifer o lin-ysgythriadau gwerthfawr ynghudd yn y rhan dywyllaf ohoni. Yr oedd amrywiaeth yng nghyfnod y dodrefn er yr ymddangosai mor ddrudfawr.

Ond nid yn null Mrs. Morrus o ddodrefnu yr oedd diddordeb Nansi. Cyn gynted ag yr aeth y forwyn allan o'r ystafell, edrychodd o'i chwmpas yn chwim. Ar unwaith disgynnodd ei llygaid ar gloc hardd yn y gongl chwith i'r tân. Cloc wyth niwrnod, canolfaint ffasiwn newydd.

"Nid hwnyna yw cloc Joseff Dafis," meddai Nansi wrthi ei hun.

Yr oedd ar fin mynd ato i'w weled yn well, pan glywodd sŵn traed, ac mewn amrant yr oedd Nansi yn eistedd yn hamddenol yn y gadair nesaf ati.

Daeth Mrs. Morus i mewn yn fawreddog a phwysig, ac wedi edrych arni am foment yn oeraidd, meddai,

"Wel, beth sydd arnoch eisiau?"

"Yr wyf yn gwerthu

"Nid oes arnaf eisiau yr un," ebe Mrs. Morus ar ei thraws, "ni fedraf daflu arian i bawb ddaw heibio'r tŷ yma i fegera."

Gwridodd Nansi pan deimlodd y saeth yng ngeiriau Mrs. Morus. "Nid begera ydwyf," meddai yn stiff. "Efallai na ddeallasoch pwy ydwyf. Fy enw yw Nansi Puw, merch Mr. Edward Puw.'

Daeth cyfnewidiad dros wyneb Mrs. Morus ar unwaith. Gwyddai yn dda y caffai Nansi a'i thad groeso ar aelwydydd Trefaes, na chaffai hi na'i theulu byth fynediad iddynt. "Ni ddeallais pwy oeddych, Miss Puw. Beth ydych yn ei werthu?"

Eglurodd Nansi ei neges wrthi.

"Wel, nis gwn yn iawn beth i'w ddweud," atebai Mrs. Morus. Ar un llaw nid oedd arni eisiau gwrthod merch y dyn mwyaf dylanwadol yn Nhrefaes, ac ar y llaw arall nid oedd ganddi ronyn i'w ddweud wrth Urdd Gobaith Cymru. Yr oedd Mrs. Morus yn enghraifft odidog o'r crach-fonedd. Arian oedd ei pheth ac addolai aur pa le bynnag y gwelai ef. Er fod y teulu'n gefnog gwyddai pawb mor grintach ydoedd Mrs. Morus ac mor amharod i helpu neb ond ei hun.

"Faint ydyw'r tocynau, Miss Puw?"

"Hanner coron yr un, Mrs. Morus."

"Hanner coron am glywed rhyw gôr o blant yn canu. Ni chlywais i'r fath beth erioed," protestiai Mrs. Morus. "Fe gofiwch mai at yr ysbyty yr â'r elw. Mae at achos teilwng iawn."

Cyn i Mrs. Morus ateb daeth Gwen a Phegi i mewn i'r ystafell. "Yn awr amdani," meddai Nansi wrthi ei hun. Heb sylwi ar Nansi cwynent yn uchel wrth ymddiosg ynghylch rhywbeth. Pan welsant Nansi yn eistedd yn dawel o flaen Mrs. Morus, ni fedrent yngan gair a safasant yn fud gan syllu arni'n syn.

"Y mae Miss Puw yn gwerthu tocynau at rhyw gyngerdd," eglurai Mrs. Morus iddynt.

"Cyngerdd plant yr Urdd," ychwanegai Nansi'n hamddenol, "yr elw at yr ysbyty.'

"Tocynau wir," ebe Gwen yn ffiaidd, "gadewch iddynt mam. Nid oedd wedi anghofio'r tro diwethaf y gwelodd Nansi, a dyma gyfle i dalu un pwyth bach yn ôl.

"Ond Gwen," ebe Mrs. Morus, "rhaid inni brynu tocynau neu beth feddylia pobl Trefaes ohonom?"

"Peidiwch bod yn ffôl, mam," atebai Gwen. "Peidiwch â gwastraffu arian ar yr Urdd lol yna. Awn ni ddim i'r cyngerdd beth bynnag, ac yr wyf yn siwr na ddaw nhad ychwaith."

"O'r gore," ebe Mrs. Morus. "Os mai felly y bydd, ni bydd angen tocynau arnom.

Cododd Nansi ar ei thraed yn gyndyn. Gwelai fod y merched yn bwrpasol anfoesgar tuag ati ac yr oedd ei gwaed yn berwi yn ei gwythiennau. Ond daliai i gofio beth oedd gwir amcan ei hymweliad.

Fel y troai i adael yr ystafell gwelai fod Mr. Morus wedi cyrraedd y tŷ. Yr oedd wedi dyfod i mewn mor ddistaw fel na welodd neb ef yn dod i'r ystafell. Clywodd beth o'r sgwrs heb i neb ei weled.

"Hanner munud, Miss Puw," meddai, "sawl tocyn sydd gennych?"

"Pedwar, Mr. Morus," meddai Nansi yn foesgar, a'i llygaid yn agor â syndod.

"Rhowch hwy i mi," atebai yntau gan estyn allan ei law amdanynt. "Hanner coron yr un, onide? Dyma nodyn punt amdanynt. Nid oes eisiau newid ohono. Rhowch yr oll at yr ysbyty."

"William," ebe Mrs. Morus mewn syfrdandod, "beth ddaeth dros eich pen? Papur punt?"

"Oni fedrwch weld ymhellach na'ch trwyn?" atebai ei gŵr, "yr ydych beunydd yn ymboeni ynghylch troi ymysg pobl orau Trefaes. Bydd ein henwau yn y "Trefaes Chronicle" am hyn.'

Eisteddodd i lawr mewn cadair esmwyth gan groesi ei goesau, a phigodd bapur newydd o'r rhestl wrth ei ochr. Ni chymerai unrhyw sylw o neb arall yn yr ystafell. Gwyddai Mrs. Morus o brofiad nad oedd wiw ymresymu'n mhellach, a theimlai Nansi fod ei hymweliad hithau yn awr yn hollol ar ben.

"Diolch yn fawr i chwi," meddai, ac ni allai yn ei byw beidio rhoi tinc o falais yn ei llais. "Rhaid i minnau fynd yn awr; faint o'r gloch yw hi tybed?"

"Dyna gloc o'ch blaen," ebe Gwen yn swta. Hawdd gweld ei bod hithau'n berwi.

"Wel, ie'n wir," ebe Nansi. Edrychodd ar y cloc fel pe heb ei weld erioed o'r blaen. "Ai cloc Joseff Dafis ydyw?" gofynnai'n ddiniwed. "Nid oes dim yn y byd mor ddiddorol i mi â hen ddodrefn."

"Na, choelia'i fawr. Costiodd hwn lawer mwy na'r cloc adawodd Joseff Dafis i ni," ebe Mrs. Morus yn fawreddog, tra syllai Gwen ar Nansi'n ddrwgdybus.

"Hm," ebe Nansi, "ond mae'n siwr fod yr hen gloc gennych yn rhywle. Mae mor anodd cael ymadael â hen bethau fel yna onid ydyw?"

"Nid mor anodd," meddai Gwen, "yr oedd gan Joseff Dafis lawer o hen gelfi diwerth. Yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn hollol anfuddiol ymysg y dodrefn modern yma sydd gennym ni."

"Yr oedd rhai o'i bethau yn gwneud yn iawn yn yr hafoty hwnnw sydd gennym ar lan Llyn y Fedwen," ebe Pegi. "Mae yr hen gloc yno yn awr.'

Llamodd calon Nansi. Yn ddiarwybod iddi ei hun yr oedd Pegi wedi rhoddi iddi yr hyn oll oedd arni eisiau. Coronwyd ei hymweliad â'r llwyddiant mwyaf allai ddisgwyl. Diolchodd yn gynnes i'r Morusiaid am garedigrwydd na fwriadwyd iddi ei gael ac aeth ymaith yn ddiymdroi.

Wrth fynd drwy'r ardd flodeuog, gwenai Nansi yn ei llawes, a dawnsiai ei llygaid gan lawenydd. "Mae'r ddau aderyn yn ddiogel, Rona. Tybia'r Morusiaid eu bod yn glyfar, ond ni synnwn lawer iawn nad dyna'r tocynau drutaf a brynasant erioed."

Nodiadau

[golygu]