Neidio i'r cynnwys

Naw Mis yn Nghymru/O Talybont i Aberystwyth

Oddi ar Wicidestun
Pregethwr Poblogaidd Naw Mis yn Nghymru

gan Owen Griffith (Giraldus)

Ymdrechu am Swyddi

PENOD XXII.

O Talybont i Aberystwyth.

Ar fy ffordd i Dalybont, aroswn yn ngorsaf Bowstreet, gan ddysgwyl yn ddyfal i'r gwlaw mawr beidio—a dyna wl——, O na, gwell i ni ymatal, a pheidio cwyno am y gwlaw, oblegid mae digon o hyny yn cael ei wneyd gan ymwelwyr Americanaidd Cymreig eraill. Druan o Gymru —fy anwyl wlad. Drwg genyf fod cynifer o'th blant yn achwyn arnat, yn dy feio am dy wlaw, a'th oerfel, a'th ymborth, a'th arferion, pan y deuant am dro i edrych am danat. Cyfaddefwyf gyda blinder wrthyt, fod llawer o hyn yn cael ei wneyd gan rai a fegaist yn dyner, ac a wesgaist yn hoffus i'th fynwes; a rhaid addef fod hyn yn cael ei wneyd yn aml gan rai ar ol dychwelyd i'r byd Gorllewinol, yn nghlyw estroniaid, y rhai ydynt yn rhy barod eisoes i dy wawdio. O! fy ngwlad, fy hoffus wlad, pell y byddo oddiwrthyf fi y fath ymddygiad ac iaith anwladgarol. Tra y mawrygaf freintiau gwlad estronol, ni chaiff dy glustiau byth glywed fod dy fab hwn yn dweyd yn ddifriol am danat. O! fy ngwlad!

Talybont, yn Sir Aberteifi, sydd yn dra adnabyddus yn hanes y weinidogaeth Fedyddiedig yn Nghymru er haner can' mlynedd neu ychwaneg. Yma, ryw dro, cawn Dr. Cefni Parry hylithrfawr, dduwinyddol ac athronyddol; ac wed'yn y Parch. John Evans, brawd Dr. Fred Evans, ac eraill enwog, fuont yn ffaglu gweinidogaeth yn y lle, nad allaf eu rhestru yma wrth eu henwau yn gywir. Yr oedd yno amryw yn siarad yn dyner-goffaol am y naill a'r llall a enwyd, ac yn fwy manylaidd, am y Parch. John Evans, fel y mwyaf diweddar yn eu plith. Brodorion o'r lle hwn ydyw y Parchn. D. Rhys Jones, Plymouth, Pa.; H. Gwerfyl James, Spinther James ac E. Morddal Evans. James W. Roberts, Utica, N. Y., sydd frodor o fewn dwy filldir i Dalybont. Parai y pethau hyn, yn gystal a dyddorion presenol yr eglwys, y lle, a'r gymydogaeth, i mi deimlo yn ddeffroawl i bwysigrwydd Talybont. Cefais achos i gydymdeimlo a'r gweinidog haeddbarch presenol, y Parch. M. F. Wynne, yn ei gystudd a'i waeledd. Methai wasanaethu yn y pwlpud gan wendid corphorol yr adeg hono; a phleser i mi oedd croesi dros y bryniau o Benrhyn-coch, er ceisio llenwi ei le am ddau o'r gloch brydnawn Sabboth.

Siarsiodd llaweroedd arnaf yno eu cofio yn garedig at eu hen weinidogion, eu perthynasau, a'u cyfeillion yn America. Tipyn o drafferth a gefais i gael allan yn. mha le yr oedd Penrhyn-coch—ymguddia yn nwyfchwareus rhwng traed a bysedd y bryniau. Galwyd y lle yn Penrhyn-coch, efallai, mewn rhan o herwydd ei berthynas a gorllewinbarth y gymydogaeth.

Hen eglwys sydd yma i'r enwad. Mae golwg henafol arni, ar ei phobl (lawer o honynt), ar y capel, ac ar y fangre. Dechreuwyd yr achos yma gan yr hen frodyr rhagorol Shon Sylvanus a Richard Gardener, ac eraill. Corphorwyd yr eglwys yn 1818. Yn Penrhyn-coch y bedyddiwyd yr enwog Barch. John Jones, Seion, Merthyr. Diau y gwelwyd amser gwell yn Penrhyn-coch. Yr unig eithriad hapus, pe hapus hefyd, o ragorach cyflwr ar bethau yno ydyw Eglwys Loegr. Mae hi yn bur lewyrchus ar hyn o bryd. Y mae amryw o fawrion y gymydogaeth yn ei noddi. Golwg ddyeithr i mi foreu a hwyr y Sabboth, wrth fyned heibio, oedd gweled niferoedd o hen Gymry gwladaidd a diniwaid yn myned i'w phyrth ar ganiad y gloch dafod-leisiog. Dyfalwn a deallwn mai dysgyblion y torthau oeddynt bron yn ddieithriad. Gresyn am y bobl wirion yn cymeryd eu hudo felly.

Bu bron i mi anghofio nodi fod pobl gyfrifol y Post Office, perthynasau agos i Mr. Lewis, Llanbadarn, gerllaw Remsen, yn cofio ato yn garedig, ac yn diolch iddo am anfon y Wawr iddynt o bryd i bryd. Yr hyn sydd wedi llwydo Talybont a Phenrhyn-coch, yn wahanol i'r hyn oeddynt flynyddau yn ol, yn benaf, ydyw ansawdd isel y gweithfeydd mwn; ond dysgwyliant amser gwell yn fuan.

Teimlwn yn Penrhyn-coch nad allaswn alw yn Coginan. Dywed Mr. Lewis, Llanbadarn, mai yn Goginan y bedyddiwyd y Parch. H. W. Jones, Caerfyrddin, ydoedd yn flaenorol yn yr ysgol yn dysgu myned yn offeiriad. Daeth adref am dro, a'r pryd hwnw aeth i wrando y Parch. John Davies, yr hwn oedd bregethwr rhagorol o'r Gogledd, ac yn weinidog yn Goginan a Penrhyn-coch. Wedi yr oedfa hono, nid aeth H. W. Jones byth yn offeiriad, ond daeth yn Fedyddiwr, ac i Goleg Pont-y-pool.

Dydd Llun yr oeddwn yn gadael Penrhyn coch, ac yn myned i Aberystwyth: a dydd Llun yw un diwrnod marchnad y lle olaf. Cyrchai llawer o bobl yno, rhai mewn cerbydau, eraill ar feirch, a llawer ar draed. A minau, wedi tipyn o ddadl feddyliol, a benderfynais fyned ar draed hefyd, yn hytrach na chyda'r cerbyd cyhoeddus, er fy mod yn teimlo yn flinedig ar ol llafur y Sabboth. Yr hyn a droes y ddadl yn ffafr y cerdded yn benaf oedd, y dybiaeth y celwn well manteision i weled y wlad, ac i fyfyrio. A dyma fi yn awr yn cychwyn yn araf ac hamddenol, gan sylwi a chraffu. Y mae y ffordd am y tair milldir hyn o Penrhyn-coch i Aberystwyth yn ymdroelli trwy olygfeydd swynol a henafol. Y mae y ffordd yn myned trwy barciau eang y gwyr mawrion. Hardd, yn wir, oedd yr olwg arnynt—y coedydd llydain, talfrig, praff, yn dangos cadernid ymerodrol, a'r creaduriaid gweddgar olygus yn mwynhau eu hunain yn heddychol o dan eu cangenau cysgodol. Gresyn fod etifeddiaethau o'r fath ag sydd yn addurno cymaint fel hyn ar arwynebedd y wlad, yn gysylltiedig a chymaint o anghyfiawnderau, a lethant yn hyllig drigolion y wlad. Er cymaint o hen wladwr ydwyf, nid wyf yn caru y gorthrwm a'r gormes sydd wedi dod i lawr o'r hen oesau, ac am hyny yr ydwyf yn hen wladwr rhyddfrydig-yr ydwyf yn Americanwr ar y pen hwn, yr hyn hefyd ydyw y dosbarth mwyaf goleuedig yn Mhrydain. Wrth i mi gamu yn mlaen ar hyd y ffordd hon, yr oedd parciau y bobl fawrion yn taflu eu cysgodion tywyll dros fy meddwl a'm teimladau, nes y teimlwn yn ddwys dros denantiaid, gwasanaethyddion, a'r werin-bobl, a lethir i'r llawr gan eu perchenogion ffromus, dideimlad a balch. Yr oedd y golygfeydd a gawn ar y fforddolion yn dyfnhau yr argraffiadau hyn. Yr oedd y boneddigion yn chwyrnellu heibio, tra yr oedd y cyffredin bobl yn cilio o'r neilldu, gan wneud moes-gyfarchiadau gwaseiddiol iddynt. O, Gymru anwyl, pa bryd y deui yn rhydd oddiwrth dy lyffetheiriau? Pa bryd y caiff dy frodorion diniwaid anadlu yn rhydd yn dy awyrgylch? Pa bryd y cydnabydda y pendefigion trahaus fod gan y brodorion gwerinawl deimladau dynol hefyd, a chystal gwaed yn rhedeg yn eu gwythienau ag sydd yn eu gwythienau hwythau?

Dymunol fyddai gweled Cymry America, yn lle gwarthruddo Cymru, yn efelychu Gwyddelod America mewn gwneyd eu rhan i ryddhau Cymru o'i gorthrwm, ac yna byddai y manylion annymunol y cwynir cymaint o'u herwydd, yn cael eu symud. Wedi cael rhyddid, y pendefigion i lawr, a'r werin-bobl i fyny, ni cheid achosion cwyno oblegid y tywydd na dim arall. Henffych i'r dydd y delo hyny i ben.

Cefais fwynhad nid bychan wrth graffu ar neillduolion di-feddwl-ddrwg y werinos a gyrchent gyda mi tua'r dref i'r farchnad. Rhai a feddent fasgedi, yn cynwys wyau a deiliach, hosanau ac edafedd, a phethau mân eraill, oeddynt, druain, gyda diwydrwydd wedi eu darpar, ac yn awr ar draed yn eu dwyn i'r farchnad. Ambell un yn fwy cefnog, a chanddo drol fechan, ac asyn yn ei thynu-y drol yn llawn o nwyddau amryfath, nid o sidanau, melfedau, llian main a phorphor, ond rholiau o wlaneni, a charpedau rags. Ambell hen wreigan yn mhlith y lluaws geid yn gwau hosan wlan, gan ddysgu diwydrwydd yr oes o'r blaen i'r un falch bresenol. Modryb Shan a modryb Sioned a welwn yn taro ar eu gilydd ac yn cydymddyddan wrth drotian. Ffermwyr o'r dosbarth canol, yn ddau neu dri yn y cwmni, a wnaent eu ffordd yn mlaen, gan siarad yn fforddus am brisiau y gwartheg a'r moch. Ffermwyr o'r dosbarth uchaf yn eu dawns-gerbydau (spring carriages), yn loewach yr olwg arnynt—y fam a'r ferch yn y cerbyd yn ol―y tad a'r mab yn y cerbyd yn mlaen, a'r mab a'r ferch yn ymddangos yn mynwes eu rhiaint, ac yn neillduol y ferch, gan y dysgwyliai brynu yn y dref ddefnydd dilladau erbyn y gwanwyn a'r haf. Y ffermwyr o'r trydydd dosbarth a gynrychiolid yn y drol fawr drystiog, yn yr hon y ceid gwyddau, ieir, a hwyaid, yn nghyda rhai eraill o deulu yr aden. Eraill hefyd, rhy luosog i'w henwi, a welwn yn yr orymdaith hon -oll yn dwyn beichiau bywyd (oddigerth y boneddigion), ac arwyddion o hyny arnynt; a minau o America, yn ddyeithr, heb neb yn fy adnabod.

Dyma fi wedi cyrhaedd Aberystwyth, a hyny yn gynt na fy nysgwyliad. Wedi cael ymborth, a chan nad oedd Mr. Morris, y gweinidog, yn y ty, aethum i weled y dref a'r farchnad. Credwyf y buasai y llinellau hyn yn ddyddorol i'w darllen, pe gallwn adgynyrchu fy gyniadau ar y pryd. Yn wir, yr oeddwn wrth fy modd wrth ymdroi yn mhlith y bobl. Nid y dref oedd yn cael fy sylw penaf, ond y bobl yn prynu ac yn gwerthu. Yr oeddwn bron a llefain (wylo) gan ryw deimlad o anwyldeb lleddf at fy nghenedl fel y cynrychiolid hi yma, a dichon i mi lefain hefyd. Dywedwn wrthyf fy hun, Wel, yr ydych yn bobl nice iawn, rywsut; Gymry anwyl, yr ydych yn hapus eich byd. Yr ydych yn edrych yn fwy cartrefol a theuluaidd na neb a welais erioed. Y mae delw yr hen efengyl arnoch, yn ddiamheuol. Safwn yn awr ac eilwaith i wrandaw ar bartioedd yn bargeinio. Dadleuent yn hir weithiau ar y gwahaniaeth o ddimai. Wrth bacio pethau i fyny i'r prynwr, yr oeddynt mor ddestlus, ac yn dweyd, "Tanci," mor ddirodres wrth dderbyn yr arian. Nid oedd yn y farchnad hon ddim hen grochfloeddio safnrwth, cras a dideimlad—dim hylldremu-dim twyll-resymu a cham-ddarlunio ; ond ymddangosai pawb yn ddiniwaid, ac heb wybod eu bod hwy felly, ac yn ymddangos felly. Yr oedd pob peth mor lân hefyd, fel yr oedd yr olwg ar y cyfan yn y werthfa yn ddymunol iawn yr olwg arnynt. Gan fel yr oeddwn yn dotio at y bobl, ac at eu nwyddau, a'u dull hwy o werthu a phrynu, yr oeddwn yn meddwl na welswn yn fy mywyd farchnad mor swynol a dymunol yr olwg arni ag oedd hon.

Nos Fawrth, yr oedd y Parch. Mr. Morris wedi trefnu i mi gael oedfa yn ei gapel, er rhoddi (ebe fe) amser i mi orphwyso. Daeth yr adeg, a minau yn pryderu i bregethu mewn man mor nodedig—hen gapel yr enwog, y Parch. Edward Williams, o goffadwriaeth fendigedig. Yr oedd dull hyfwyn, brawdol a charedig Mr. Morris, yn tueddu i ladd llawer o'm hofnau. Daeth cynulleidfa dda yn nghyd, o bobl gyfrifol yr olwg arnynt; yr hen bobl yn dwyn arnynt ddelweddau crefyddol eu hen gyn-weinidog. Cefais fy moddhau yn y gwrandawiad, ac yn ymdyriad amryw o'm cwmpas ar ddiwedd yr oedfa. oedfa. Wedi i'r bobl ymwahanu, treuliais beth amser gyda'r gweinidog i sylwi ar neillduolion hen-ffasiwnol yr addoldy. Aethum i fyny i'r pwlpud (yn y sêt fawr yr oeddwn yn pregethu), a dyna bwlpud uchel. Yn sicr, rhyfeddwn pa fodd y gallai pregethwr ymgadw ynddo rhag pen-syfrdandod. Teimlai yr eglwys wedi cael digon ar yr hen gapel a'r pwlpud yn awr, canys y maent yn myned i gael capel newydd yn uniongyrchol. Y mae haner digon o arian mewn llaw yn barod. Bydd y capel newydd yn yr un man a'r hen, ac nid oes man gwell yn yr holl dref. Mae y gweinidog presenol yno er ys amryw flynyddau bellach, ac yn gwneyd yn rhagorol. Trefnwyd i mi letya mewn man wrth fy modd, gyda theulu sydd yn byw mewn ty mawr yn y terrace goreu sydd yn ffryntio y môr, lle mae'r ymwelwyr mwyaf cyfrifol yn yr haf yn rhoddi i fyny. Pa ddiolch i mi fod wrth fy modd? Ychwanegwyd fy moddhad trwy fod un o fyfyrwyr Llangollen yno hefyd am ran o'r amser; ac hefyd trwy i fab y ty, bachgen ieuanc hyfwyn ryfeddol, yn garedig ddyfod gyda mi i ddangos y dref, yr hen gastell, a'r porthladd. Gwelais hefyd yr University. Gresyn oedd gweled rhanau mor ardderchog o hono wedi llosgi yn fewnol yn allanol ni wnaeth y tân gymaint o ddifrod.

Hawdd oedd genyf gredu y bobl a ddywedent fod Aberystwyth yn rhagorol fel ymdrochle, a lle iachusol; yr oeddwn yn teimlo hyny yn bersonol. Nid hawdd y gellid sefyll ar draed gan mor gryf y gwynt y dyddiau hyny, pan y cerddwn ar hyd y rhodfa. Ar lan y môr of flaen y terraces, teimlwn fy hunan fel o flaen battery machine fawr iechyd, a minau yn ymgryfhau yn deimladwy o dan ei effeitiau.

Dylwn grybwyll, fod yr hen frawd a phatriarch enwog, John Ellis, ironmonger, yn cofio yn garedig at y Parch. Benjamin James. Deallwn eu bod yn gyfeillion mawrion. Treuliais egwyl ddedwydd o dan ei gronglwyd; a gwnaeth gymwynas werthfawr i mi, sef rhoddi modrwy bres dda ar flaen ffon fy ngwlawlen.

Nodiadau

[golygu]