Neidio i'r cynnwys

Naw Mis yn Nghymru/Pregethwr Poblogaidd

Oddi ar Wicidestun
Yn Nghwm Rhymni Naw Mis yn Nghymru

gan Owen Griffith (Giraldus)

O Talybont i Aberystwyth

PENOD XXI.

Pregethwr Poblogaidd.

Y pregethwr poblogaidd hwn yw y Parch. E. Herber Evans, gweinidog i'r Annibynwyr yn Nghaernarfon. Pan yn Nghymru ddiweddaf cefais gyfleusdra rhagorol i'w wrando yn pregethu. Yr oedd hyn mewn cyfarfod mawr blynyddol yn Mhwllheli. Yn yr oedfa hono pregethid o'i flaen gan y Parch. Mr. Thomas, Glan-dwr, D. C. Pregethai Mr. Thomas yn rhagorol; ond pan yr esgynodd y gwron o Gaernarfon i'r pwlpud yr oedd y llefaru yn fwy grymus. Er pan y clywswn ef yn pregethu yn Risca, oddeutu ugain mlynedd yn ol, canfyddwn ynddo welliant dirfawr fel llefarwr cyhoeddus. Y pryd hwnw yr oedd llawer o bethau diwerth yn ei bregeth; yn bresenol yr oedd yn fwy sylweddol ac effeithiol. Gwelwn fod yni ac aiddgarwch pregethwrol yn ei lwyr feddianu. Yr oedd yn anesmwyth ac aflonydd gan frwdfrydedd cyn iddo esgyn i'r areithfa. Tybiwn wrth edrych arno yn y wedd hon, y cynhyrfid ei ysbryd eisoes gan ei faterion, ac yr enynai tân ynddo. Ei destyn oedd 2 Bren. 2: 14. "Pa le y mae Arglwydd Dduw Elias?"

Mae ymddangosiad golygus Mr. Evans yn y pwlpud yn fawr yn ei ffafr. Mae iddo ardremiad awdurdodol. Mae iddo barabliad croew. Ni amcana ddylanwadu â llais. Mae yn siarad yn mlaen gan adael i'r drychfeddyliau ymwneyd â chalonau. Ymafla yn ei waith yn fedrus. Teimlir ar unwaith ei fod yn feistr y gynulleidfa, ac yn mhell o fod yn ddyn cyffredin. Nid yw hwyrfrydig yn dod at ei bwnc, ond ymeifl ynddo yn ddioed ac egniol. Mae swn ysbryd ei fater yn ei leferydd a'i oslef.

Buan ar ol iddo ddechreu, adnabyddwn ynddo amryw ragoriaethau pregethwrol. Yr oedd ei bwnc yn amserol, yn ol fel yr oedd ef yn ei gymwyso. A dyma sydd yn cyfansoddi pregethwr ymarferol. Mae llawer o son yn y dyddiau hyn am yr ymarferol, yn wrthgyferbyniol i'r athrawiaethol. Honir mai y pregethu ymarferol y mae yr oes yn sefyll mewn angen mawr am dano. Credwyf mai angen y bobl sydd i benderfynu pa un ai athrawiaethol ai ymarferol ddylai pregethu fod. Mae yn eithaf posibl i'r hyn a ystyrir yn ymarferol mewn ffordd o ddyledswyddau, fod yn hollol anymarferol lawer tro. Pan y mae ar y bobl eisiau eu goleuo am natur dyledswyddau, ac am gymeriad y bywyd Cristionogol, a phan y byddont yn anwybodus am gyfiawnder, dirwest, a'r farn a fydd, yr athrawiaethol sydd fwyaf ymarferol. Deallwn fod y pregethwr hwn yn dal lamp ddysglaer ei destyn uwchben anwybodaeth y bobl, gan ofyn, "Pa le mae Arglwydd Dduw Elias?" Cael allan y lle yr oedd Efe, oedd y pwnc mawr. Hyny oedd yr ymarferol pwysicaf iddynt o dan yr amgylchiadau. Yr oedd cyflwr moesau a chrefydd y wlad, ac yn Llundain fawr, fel yr eglurai efe, yn arwyddo fod Arglwydd Dduw Elias wedi myned ar goll. Traethai fod cymeriad y weinidogaeth yn ei haneffeithiolrwydd ar ddynion, yn arwyddo fod y dwyfol yn absenol. O dan y fath amgylchiadau, ac yn ngwyneb cyflwr mor andwyol, ofer pregethu dyledswyddau, na manylu ar rinweddau. Eisiau cyd-ddymuno a'r bardd Cristionogol sydd:

"Bywyd y meirw, tyr'd in plith,
A thrwy dy Ysbryd arnom chwyth;
Anadla'n rymus ar y glyn,
Fel byddo byw yr esgyrn hyn."

Cyfaddasrwydd y bregeth at gyflwr ysbrydol y wlad, oedd yn ei gwneyd yn dra ymarferol. Gair yn ei bryd ydoedd. Yr oedd min ar ei ymadrodd ef. Parod oedd amryw a'i gwrandawai, i gyd-ofyn ag ef, a dweyd, "Pa le y mae Arglwydd Dduw Elias?" Ac O! am ei gael Ef!

Canfyddwn yn ei arddull nodwedd werthfawr arall—agosrwydd at ei bwnc a'i faterion. Nid oedd yn sefyll o bell oddiwrth wrthddrychau ei fyfyrdodau. Nid oedd yn siarad am ryw bethau draw oddiwrtho. Nid oedd ei faterion ac yntau yn ddyeithr i'w gilydd. Nid oedd yn llefaru ar antur. Na, yr oedd y sylweddau y traethai am danynt yn bresenol iddo. Nesâi mor agos atynt nes y teimlai angerdd eu gwres a'u rhin. Yn canlyn yr oedd cynesrwydd. Deuai y pregethwr i'r fath gysylltiad agos ag adnoddau dylanwad ysbrydol nes yr ymlenwai o hono yn bersonol. Cymdeithasai ei ysbryd ef ag ysbryd ei destyn, nes ei gymwyso a’i urddasoli i lefaru wrth ysbrydoedd ei wrandawyr.

Yn gysylltiedig a hyn, eto, yr oedd dwysder ac angerddoldeb. Yr oedd efe yn llefaru yn ddigoll, yn gryf ac yn rhwysgfawr, nes gwneyd y bregeth yn ymerodrol. Fel yr elai y pregethwr rhagddo, yr oedd yr elfenau gwerthfawr a nodwyd yn grymuso. Ymdoddent i'w gilydd nes gwneyd ffrwd ei areithyddiaeth yn rhyfeddol o effeithiol.

Y mae dilyn glanau y cyfryw ffrwd gref yn awr, yn peri i'r teimlad ad-sylweddoli mewn rhan, yr effaith arnaf y pryd hwnw. Gwnai y bregeth hon gymeradwyo ei hunan i gydwybodau. Nid oedd angen i neb ofyn ar y diwedd, pa fodd yr oedd yn hoffi y bregeth. Yr oedd ei heffaith wedi gwneyd gofyniad o'r fath yn afreidiol. Un a ddywedai wrth y llall wrth ymlwybro tua chartref, "Wel, dyna bregeth dda;" nid fel ymholiad, ond fel sel gymeradwyol o'i dylanwad.

Mae Mr. Evans yn llefaru mewn arddull hollol naturiol. Mae ei athrylith bregethwrol yn rhy gref i blygu i arddull o eiddo arall. Ymddengys o flaen y bobl yn syml a dirodres. Ni adnabyddir ynddo yr un ymgais neillduol am effaith na hwyl-ymgeisia am bethau pwysicach. Mae ei ddull o ddweyd yn cyfateb i'w faterion, a'i faterion yn cyfateb i'w ddull o ddweyd.

Nodiadau[golygu]