Nedw/Bod yn Ddiymhongar
← Eos y Waen | Nedw gan Edward Tegla Davies |
Dewyrth a Bodo → |
VIII.—BOD YN DDIYMHONGAR.
Mae Wmffre a fi wedi cael diwrnod da iawn heddyw at ei gilydd. Doedd ene'r un ysgol am fod merch y Cwm yn priodi, a'r scŵl eisio bod yn yr Eglwys yn canu'r organ. Roedd y rhan fwyaf o'r bobol a'r plant wedi mynd i weld y briodas a'r rhialtwch, ond tydi pethe felly ddim yn apelio atom ni ein dau. Mynd i'r mynydd i chware at dŷ Winnie Jones y Llety ddaru ni. Mae tŷ yr hen Winnie wedi ei wthio i'r mynydd, ac mi fedrwch gerdded oddiar y mynydd ar y tô yn ddigon hawdd. Doedd yr hen wraig ddim gartre, roedd hithe wedi mynd i weld y briodas, ac i ddawnsio yn yr helynt. Yr ore yn y wlad am ddawnsio step y glocsen ydi hi, medde nhw.
Pan oeddem ni ar ganol chware, beth welem ni'n mynd i mewn i simdde'r Llety ond jac-dô. Mae nhw'n bla yn yr ardal yma. Yn y simddeue y mae nhw'n gneud eu nythod, a thrwy hynny yn eu cau i fyny.
"Wmffre," meddwn i, "be tase ni'n ei ddal o?"
"Fedrwn ni ddim," medde Wmffre, "mae 'i nyth o 'n rhy isel i lawr."
Ar y funud mi gofies am geiliog Winnie Jones. Pe tase hi gartre chaem ni ddim trio dal hwnnw. Mae hen bobol fel plant bach, medden nhw, wyddan nhw ddim beth sy ore ar eu lles nhw. Sefyll yn eu gole eu hunen wna'n nhw. Mi sylwes lawer gwaith pan ddisgynne jac-dô ar ein buarth ni, fod y ceiliog ar ei ol o 'n syth.
"Be tase ni'n dal y ceiliog, a'i anfon i lawr y simdde ar ei ol?" medde fi wrth Wmffre.
"I'r dim," medde Wmffre, ac i chwilio am y ceiliog â ni.
Rhuthrodd Wmffre iddo fo, ac i ffwrdd â fo yn syth dros y gwrych i'r mynydd. Mi weles yn union fod yr hen air,—"Yn ara dêg mae dal yr iâr"—yn wir am geiliog hefyd. Ond y mae gan Winnie Jones ddau geiliog, ac am y llall â ni. Wrth fynd yn amyneddgar cawsom o i'r cyt, a'i ddal mewn dim amser. Dechre sgrechian dros y wlad wnaeth o, ond mi dewodd yn fuan. I fyny'r tô â ni, a'i ddal uwchben y simdde. Buom yn petruso tipyn ai'r peth gore oedd ei roi i lawr ai peidio. Cofies i fod mam reit amal yn dal y gath a mynd â hi at dwll llygoden. Ac os gosod cath i ddal llygoden, pam nad gosod ceiliog i ddal jac-dô? Doeddem ni ddim wedi sylwi fod neb yn y golwg, a phan oeddem ni'n ymresymu ynghylch y ceiliog,—
"Helo," medde rhywun fel taran odditanom ni.
Mi ddychrynnes gymint nes gollwng y ceiliog o nwylo. I lawr y simdde â fo, a dene'r jac-dô allan fel bwlet. Chlywsoch chi rotsiwn sŵn a'r un ddoi o'r tŷ. Roedd y ceiliog yn sgrechian a gweiddi, ac fel tase fo ymhob man ar unweth. Mi syrthiodd trwy'r simdde i'r gegin yn lle bachu'r jac-dô ar ei ffordd. Mi ddaru ni cyn gadael gyfri saith o blatie'n disgyn o rywle, ac yn torri'n chwilfriw.
Pwy oedd yn y ffordd yn aros amdanom ni ond William, brawd Wmffre, sydd newydd ddarfod ei goleg. Bu raid esbonio'r neges ar ben y tô, a meddwl ddaru William, wedi clywed y stori, nad oedd yr eidïa o roi ceiliog i ddal jac-dô yn un ddwl, tase'r ceiliog yn un teilwng. Roeddem ni'n meddwl mai rhywbeth fel ene fase ei ateb o, o achos mae William bob amser yn sôn am ryw eidïa neu'i gilydd ar ol bod yn y coleg,—eidïa dda, neu eidïa ddwl, neu eidïa heb fod mor ddwl. Dene fel y mae o yn eu rhannu nhw.
"William," medde fi wrtho, i droi'r stori, "bedi bod yn ddiymhongar?"
"Faset ti'n leicio gwybod, Nedw?" medde fo.
"Baswn," meddwn inne.
Mi gipiodd fy nghap oddiar fy mhen, a rhoddodd o ar ei ben ei hun. Dydio ddim arfer a gwisgo dim am ei ben, er mwyn bod yn y ffasiwn. Dechreuodd neidio a rhedeg, a'r cap yma fel cocyn hitio ar ei ben o, o achos mae pen William wedi gorffen tyfu. Rhoddodd gic i hen dun corn bîff oedd ar ochor y ffordd, rhedodd i ben corn simdde Winnie Jones, ac edrychodd i lawr, neidiodd dros giât yr ardd ac yn ei ol, a dechreuodd neud nade fel pob math o greaduried.
"Mi allswn feddwl," medde Wmffre wrtha i, pan oedd William yn mynd trwy'r ciamocs yma, "nad ydi bod yn ddiymhongar ddim yn rhyw wahanol iawn i fod ddim yn gall."
Dene oedd yn rhedeg trwy fy meddwl inne, ond nad oeddwn i ddim yn leicio deyd. Wedi'r cwbwl, y mae Wmffre'n frawd iddo, a minne'n ddim ond cefnder, a nês penelin na garddwrn.
Wedi colli ei wynt yn lân, daeth William atom ni.
"Dene ydi bod yn ddiymhongar," medde fo.
"Mae'n ddrwg gen i ddeyd," medde fi, "nad ydwi fawr gwell eto."
"Wel di," medde fo, "mi fum i'n hogyn fel ti, yn gwisgo cap fel ene, yn cicio tunie a neidio dros giatie, a gwatar creaduried, a thaflu pethe i lawr simdde Winnie Jones, ond rwan rydwi wedi bod yn y coleg, ac wedi newid. Dyma ydi bod yn ddiymhongar, cymyd arnat nad wyt ti wedi newid dim o'r hyn oeddet ti estalwm. I fod yn glir," medde fo, "dyma'r ysgol yma,"—roedd ene ysgol yn pwyso yn erbyn ysgubor Winnie Jones,—"Mae eisio iti ddringo i ben yr ysgol yma, ond er hynny cymyd arnat mai yn y gwaelod yr wyt ti o hyd. Dyma fi wedi dringo'r ysgol a mynd i'r Coleg,—bod yn ddiymhongar ydi actio fel taswn i heb ddringo dim."
"Wyt ti'n deyd," medde Wmffre, "mai actio ar ben ysgol fel tase ti yn y gwaelod ydi bod yn ddiymhongar?"
"Dene fo," medde William.
"Dydwi ddim yn gweld felly," meddwn inne, "fod bod yn ddiymhongar yn rhywbeth sâff iawn, a gadael allan y ffaith nad ydio ddim yn edrych yn beth hynod o gall."
"Rydwi o'r un farn â ti," medde William, braidd yn chwerw, "ond rhaid i mi ei thrio hi."
Yr hyn gychwynnodd yr ymgom ene oedd y peth glywsom ni bob dydd ar ol i William ddwad o'r coleg.
"William bach," medde'i fam wrtho fyth a hefyd, "gofala di ddal yn ddiymhongar."
"William," medde fy mam inne, "gofala, machgen i, fod yn ddiymhongar, a phaid ag anghofio dy deulu."
"William," medde nain, "paid ag anghofio, ngwas i, y graig y nadded di ohoni. Bydd yn ddiymhongar, machgen i."
"William," medde Modryb Marged, "mi dalith iti fod yn ddiymhongar ac edrych am dy deulu, pobol felly sy'n wir fawr."
"Beth sy gennych chi fechgyn i neud y pnawn yma?" medde William wrthym ni ill dau.
"Dim byd o bwys," medde ninne.
"Ddowch chi efo mi?" medde William. "Rydwi am drio bod yn ddiymhongar, a chwilio am fy nheulu, a bod efo nhw fel ers talwm. A dene lle'r ydwi'n mynd yrwan."
"Lle byddi di amser tê?" medde Wmffre.
"Yn nhŷ modryb Elin," medde fo. "Reit!" medde ni ill dau, ac i ffwrdd â ni. Roedd yn bwysig bod yn siwr o fan y tê cyn cychwyn, o achos mae'n anodd i ddyn ffansïo pawb o'i deulu yr un fath, wyddoch. Ond y mae modryb Elin yn lân iawn.
Y lle cynta inni alw ein tri ynddo oedd tŷ Janet fy nghneither.
"Sut ydech chi yma heddyw?" medde William, pan aethom at y drws, a ninne'n dau wrth ei gynffon o.
Roedd Janet yn eistedd ar stôl wrth y tân, yng ngodre tomen o ludw, a babi ar ei glin, a gwenodd arnom heb ddeyd dim.
"Sut ydech chi yma heddyw?" medde William wedyn.
"Hy!" medde hi'n fodlon, dan wenu. Roedd yn ddigon hawdd gweld ei bod hi'n falch o'n gweled ni, mor falch nes anghofio ein gwâdd ni i mewn.
"Mae hi'n braf," medde William, oddiar garreg y drws.
"Hy!" medde Janet, tan wenu o hyd.
"Mi ddaw i lawio hefyd toc," medde William.
"Hy!" medde Janet wedyn, a rhyw chwerthin gneud yng nghorn ei gwddw.
"Pnawn da," medde William.
"Pnawn da," medde Janet, a dene'r gair cynta ddaeth dros ei gwefuse hi.
"Y drwg ydi," medde William ar ol mynd allan, "na neiff pobol ddim gadael iti fod yn ddiymhongar efo nhw. Mi chwaraeodd Janet a minne lawer efo'n gilydd ers talwm. A dene fi wedi trio bod yn ddiymhongar efo hi, ond chai ddim."
Y lle nesa oedd tŷ Leisa nghneither. Pan aethom ni at y drws, dene hi'n gweiddi cyn inni guro, "Helo'r hen William, tyrd i mewn, a chofia paid ag actio'r dyn mawr yma. Os wyt ti wedi bod yn y coleg, mi fu yno rai o dy flaen di. Pwy ydi'r rhein sydd efo ti?—Wmffre a Nedw, y ddau hogyn gwaetha yn y wlad. Be ddyliet ti o mhlant i?—mae ma naw. Mae John yma wedi brifo'i law, ac wedi mynd at Marged Evans y Foel i'w phwltrisio hi," ac felly ymlaen. Daeth y cwbwl ene a chwaneg allan yn llinynne ar un gwynt.
"Dyma le da i fod yn ddiymhongar," medde fi wrthyf f'hun. Eisteddasom, a gwrando ar Leisa'n brygowtha fel ene am chwarter awr yn ddi-daw, dan siglo'r crud. Roedd ganddi hithe fabi. Mae'n teulu ni yn un mawr iawn mi wela. Deffrodd y babi, fel y basech yn disgwyl, a dene hithe'n ei godi a'i nyrsio.
"Helo!" medde rhywun o'r tuallan.
"Y cigydd," medde hi. "Hwde hwn am funud, Wil, paid â bod yn sydêt, os wyt ti wedi cael coleg." Taflodd y babi i William, ac allan â hi.
Edrychwn i ac Wmffre'n reit syn, rhag ofn i ninne gael gwaith tebyg, o achos mi welwn ddau neu dri erill yn edrych arnom ni braidd yn big dlawd, heb i'r un ohonyn nhw fod yn fawr mwy na babi.
Mi glywem Leisa wrthi hi'n siarad â'r cigydd mor ddi-ddiwedd ag wrthym ni. Edrych yn druenus iawn oedd William, a'r babi'n crïo ar ei lin nerth asgwrn pen. Doedd dim i'w neud ond codi a'i ddandlo ar hyd y llawr. Choeliech chi byth mor hir y bu raid iddo fod wrthi cyn i Leisa weld yn dda ddwad i'r tŷ. Dwn i ddim yn iawn be oedd ein teimlade ni. Mi garem chwerthin am ben William, ond roedd arnom ni ofn ein dau cael un bob un o'r lleill i'w nyrsio pan ddoi hi i'r tŷ.
Rhyw hanner ganu a hanner chwyrnu, a deyd rhwng ei ddannedd nad oedd hi ddim yn talu i fod yn ddiymhongar oedd gwaith William. Toc, dyma Leisa i'r tŷ.
"Rydwi'n meddwl yr âi rwan," medde William, pan ddaeth hi i mewn, "ryden ni ar dipyn o frys. Pnawn da."
"Pnawn da, Wil," medde hithe, "a tyrd yma eto am gypaned pan fyddai'n fwy trefnus, a phaid â bod yn sydêt."
"I ble nesa?" medde Wmffre a fi, "dim cam ymhellach os na chawn ni dŷ heb fabis a thomennydd lludw."
Edrych reit digalon ddaru William. "Beth petase ni'n ei gneud hi am gypaned i dŷ modryb Elin?" medde fo.
Doedd gen i fawr i ddeyd, am nad ydi'r modryb Elin yma'n perthyn dim i mi. Modryb i William ac Wmffre o ochor eu tad ydi hi, a minne'n perthyn iddyn nhw o ochor mam.
Wedi cyrraedd y drws a churo, dyma modryb Elin i'r drws.
"Ho!" medde hi reit chwyrn, "chi sy' 'ma, ai ê? Dowch i mewn, yn lle sefyll fel pyst ar garreg y drws. Pwy ydi hwn sydd efo chi?"—gan bwyntio ata i. Deydodd William wrthi, ac eisteddodd pawb i lawr. Roedd ei bachgen hi wedi methu yn y coleg, fel yr oedd mwya'r piti.
"Sut y mae dy dad, ydio'n dandlo cymint ar dy fam ag erioed?" medde hi wrth William. Wydde William ddim yn iawn sut i ateb y cwestiwn dwbwl yma, a bodlonodd ar ateb y rhan gynta'n unig.
"Mynd i nôl glo ar y tân oeddwn i," medde hi, ac allan â hi.
Ac allan y bu hi am hydoedd a hydoedd, nes ein bod ni wedi mynd reit bryderus am ei diogelwch hi, a'n stymogie ni hefyd braidd yn anesmwyth erbyn hyn.
Eis allan i gymowta tipyn, o achos fum i rioed yma o'r blaen, ac mi glywn siarad. Modryb Elin oedd yn deyd wrth wraig y drws nesa, "Mae'n siwr eu bod nhw wedi hel eu hunen yma i dê, ond dydwi ddim am gynnyg tê iddyn nhw, o achos 'does gen i ddim dyled i fachgen Edward Roberts ene. Tase William ei hun yma mi fase'n beth arall."
Syrthiodd fy ngwep i'n syth, o achos fi ydi y mab Edward Roberts dan sylw wyddoch. Eis yn ol at ddrws y tŷ, a chodes fy mys ar Wmffre. Roedd William ar y pryd yn edrych ar y llunie ar y wal. Pan ddeydes i 'r stori wrth Wmffre,—"Wel, ta, ta, modryb Elin," medde fo rhyngddo a fo ei hun. Ac i ffwrdd â ni tuag adre'n ddiseremoni.
Wedi croesi cae neu ddau, mi welem lo modryb Elin yn pori'n dawel ar ganol y weirglodd.
"Llo blwydd," medde Wmffre. "Llo deunaw mis," medde finne.
"Dim ods," medde fo. "Ydi'r creaduried isddynol yn ddiymhongar tybed?"
"DROS EI BEN A'I GLUSTIE YR AETH OI MEWN." [Tud. 81.]
Gair mawr John Jones y Gwŷdd yn yr Ysgol Sul ydi "creaduried is-ddynol." Fo ydi'n hathraw ni, ac y mae o'n sôn fyth a hefyd amdanyn nhw. Fel enghreifftie mi ddaw ag asen Balaam, y llo pasgedig, y mul bach fu'n cario Iesu Grist, a'r pethe hynny yn y gynfas honno a fwytaodd Pedr. Felly, mi welwch mai mulod, lloue, gwningod, a phethe felly ydi creaduried is-ddynol.
"Gad inni drïo," medde fi, "os ydio'n ddiymhongar, actio fel llo neiff o. Does dim achos iddo beidio â bod,—fu o rioed mewn coleg. Dos di ar ei gefn o, mi dywysa inne, ac mi gei weld na symuda fodfedd."
"O'r gore," medde Wmffre, a neid ar ei gefn.
"Wb!" medde'r llo, ac i ffwrdd fel mellten. Ches i ddim ond rhuthro i'w gynffon, na baswn i wedi ngadael ar ol. Dene lle roeddem ni'n rybedio mynd,—Wmffre ar gefn y llo yn gafael yn dỳn yn ei flew, a minne'n ei gynffon. Ac Wmffre'n gweiddi,—"Twy-llw-llw-wr y-di-i-o-o-o. Nid llo-o-o-o ond ce-e-ce-ff-yl ra-a-as." Fedre fo ddim siarad yn naturiol, oherwydd bympiade'r rhedeg, a rhwng y bympiade yr oedd o'n cael ei eirie allan. Peder gwaith rownd y weirglodd yr aethom ni, yna trwy adwy i gae arall, ac i lawr fel mêl trên tua'r afon, trwy'r afon ac i lawr y dolydd, ac Wmffre 'n deyd ei stori wrtha i bob yn dipyn fel y caniatai'r bympio. Yng ngwaelod y dolydd y mae llyn o fwd, a thua hwnnw y cyfeiriodd y llo. Mi gredes mai yno y basem ni ein tri. Ond pan o fewn rhyw chwe modfedd, mwy neu lai, i'r llyn, stopiodd y llo yn stond. 'Daeth neb i'r llyn ond Wmffre. Dros ei ben a'i glustie yr aeth o i mewn. 'Doedd dim i'w neud bellach ond gollwng cynffon y llo i'w gael o allan.
Roedd golwg mawr arno, yn poeri baw, a rhwbio'i wyneb â glaswellt, a disgrifio'r llo. "Nid llo ydio," medde Wmffre, "ond ceffyl râs a mul wedi'u cymysgu,—yn rhedeg fel ceffyl râs a stopio fel mul."
Wedi cael Wmffre'n weddol lân, a'i dawelu, yr anhawster oedd beth i'w neud â'r llo, o achos symude fo ddim. Doedd dim i'w neud ond ei droi yn ferfa trwy godi ei ddau droed ol fel breichie berfa, a'i wthio.
Ond i ble i fynd â fo? Roedd ei gartre'n rhy bell i'r dull yma o drafaelio. Roedd dwy ffarm yn ymyl,—y Graig a'r Waen. Cofiasom fod llo'r Graig wedi marw ddeuddydd cyn hynny, a bod iddo, felly, le yng nghornel hwnnw, ac yno ag ef. Doedd neb o gwmpas. Wedi gorffen dene eistedd i lawr i orffwys, o achos gwaith caled ydi gneud berfa o lo.
Ymhen tipyn mi glywem sŵn. Seina 'r forwyn oedd yn dwad i odro. Doedd dim i'w neud ond cuddio nes cael y ffordd yn glir i fynd adre. Dechreuodd Seina odro, a phan oedd y stên bron yn llawn brefodd y llo o'i gornel, cornel dipyn yn dwyll. Dene sgrech, y llaeth ar hyd y llawr, a Seina allan o'r côr fel ergyd o wn dan weiddi,—"Y llo wedi adgyfodi oddiwrth y meirw. Dyma'r diwedd wedi dwad. Yr udgorn a gân, a'r meirw a gyfodant." Un dda iawn am ddeyd adnode ydi hi. Rhag ofn fod rhywun arall yn ymyl, doedd dim i'w neud ond mynd adre gynted gallem ni, oherwydd roedd yn amlwg ein bod ni wedi gneud tipyn o gamgymeriad.
Pan yn ymyl y tŷ eisteddasom i orffwys,—"Nedw," medde Wmffre, "ydi bod yn ddiymhongar yn rhinwedd, dywed?"
"Wel," medde fi, wedi meddwl tipyn, "dydio ddim yn rhinwedd mewn dynion, ond synnwn i ddim nad ydio felly mewn lloue." Cydsyniodd Wmffre'n galonnog â hyn, oherwydd ei brofiad efo'r llo. Cydsyniodd William hefyd, ymhellach ymlaen, pan welsom ef, oherwydd ei brofiad efo pobol.
O! ia, mi fu ceiliog Winnie Jones, a ddiangodd, am ddyddie yn gneud ei ore i ladd yr un aeth trwy'r simdde, o achos ei fod yn meddwl mai ceiliog diarth oedd o. Roedd hwnnw wedi troi o fod yn geiliog coch, i fod yn un du.